Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:34, 25 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr iawn. Dwi am ddechrau lle roeddech chi'n gorffen yn fanna, sef efo'r profion ar raddfa eang. Dwi'n ymwybodol eich bod chi'n gwneud gwaith ac yn ystyried cyflwyno rhaglen ar raddfa eang mewn ysgolion a cholegau, i ddisgyblion ac athrawon, ac yn cytuno'n llwyr bod angen rhaglen gynlluniedig o brofion i fynd rhagddi. Mae yna brofion mewn ysgolion yn ardal Lerpwl, a rydych chi newydd sôn am y cynllun peilot ym Merthyr. Mae'r undebau athrawon, yn gyffredinol, o blaid, dwi'n credu, a rhannau eraill o'r byd yn cynnal profion eang ar ddisgyblion a staff—Efrog Newydd, Vienna, Berlin, Nashville, Montreal. Oes yna rwystrau penodol i atal profi asymptomatig mewn ysgolion yng Nghymru? Hynny yw, pam fod o'n cymryd bach gormod o amser cyn bod hwn yn cael ei rowlio allan? A fyddwch chi'n targedu ardaloedd arbennig? Beth fydd eich meini prawf chi wrth rowlio'r rhaglen brofi eang yma allan? A beth yn union ydy'r amserlen?