3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am faint o wyliau blynyddol a gronnwyd gan staff a'r effaith a gaiff hyn ar ei gyllid? OQ55925
Diolch yn fawr iawn, Andrew. Rheolir gwyliau blynyddol yn weithredol er mwyn sicrhau bod staff yn cymryd cymaint o wyliau â phosibl er mwyn eu llesiant eu hunain ac er mwyn sicrhau bod busnes y Senedd yn parhau i fod yn gadarn. Fodd bynnag, fel y gallech ei ddychmygu, ers mis Mawrth eleni, mae effaith y pandemig wedi cynyddu'r galw ar staff yn sylweddol, gan gynnwys drwy'r toriadau, ac mae'r cyfleoedd i lawer o'r rheini gymryd gwyliau wedi lleihau'n sylweddol.
Mae safon gyfrifyddu ryngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn roi cyfrif am gost gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ac a gronnwyd gan staff y Comisiwn ar 31 Mawrth, a gofyniad cyfrifyddu yw hwn, nid gofyniad am arian ychwanegol o gronfa gyfunol Cymru. Ac felly, yn fyr, er bod y Comisiwn yn ystyried y gofyniad am gyllideb atodol ar gyfer 2020-21 i dalu am y cynnydd hwn ar ôl 7 Rhagfyr, ni fydd iddo unrhyw effaith ariannol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd, a byddwn yn ategu'r sylwadau rydych wedi'u cofnodi—pa mor bwysig yw hi i les staff eu bod yn cymryd eu gwyliau, ac yn bwysig, yr ymroddiad a'r gwaith caled y mae'r holl staff ar draws y Comisiwn wedi'i wneud i gefnogi Aelodau yn y cyfnod anodd hwn. Fe'm trawyd gan y datganiadau a wnaethoch adeg y gyllideb, pan gafodd ei gosod, fod hwn yn fater roedd y Comisiwn yn gorfod ymdrin ag ef, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi syniad a fyddech chi, fel Comisiynydd, yn gallu dweud wrth yr Aelodau faint o amser gwyliau cronedig y mae'n rhaid gweithio drwyddo, oherwydd, yn amlwg, bydd hynny, yn y pen draw, ar ryw bwynt, yn cael effaith ar y gallu i gefnogi Aelodau yn eu rôl, ond yn bwysig, i Aelodau ddeall y pwysau y mae staff yn eu hwynebu pan nad ydynt wedi gallu cymryd y gwyliau y maent wedi'i gronni dros y pandemig.
Diolch, Andrew. Ie, a gallwn roi'r ymrwymiad hwnnw. Wrth osod cyllideb atodol, yn amlwg, byddai'n rhaid inni egluro'r rheswm dros wneud hynny, a byddai hynny'n esbonio lefel y gwyliau cronedig a'r gwerth sydd ynghlwm wrth hynny. Ond a gaf fi ddiolch i chi am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch, os hoffech, aelodau'r Comisiwn a'u staff, sydd, yn wir, wedi mynd y tu hwnt i'r galw, fel rydym ni fel Aelodau wedi'i wneud mewn gwirionedd, yn ystod cyfnod anodd iawn i sicrhau ein bod yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda? Diolch.
Diolch. Bydd cwestiwn 2 yn cael ei ateb gan y Comisiynydd David Rowlands. Mike Hedges.