Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Does dim cynlluniau o'r fath gan Gomisiwn y Senedd i newid hyn ar hyn o bryd. Heblaw bod darpariaeth yn cael ei gwneud i'r gwrthwyneb, mae adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhagnodi bod yn rhaid cynnal etholiadau cyffredinol arferol i'r Senedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, bum mlynedd yn dilyn yr etholiadau diwethaf i'r Senedd. O ganlyniad, dylid cynnal yr etholiad nesaf i'r Senedd ym mis Mai 2021.