3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei ymgysylltiad presennol â phlant a phobl ifanc yng Nghymru? OQ55913
Diolch am y cwestiwn. Mae'r pandemig wedi ei gwneud hi'n heriol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn enwedig trwy ysgolion a grwpiau ieuenctid. Mae rheoliadau yn ei gwneud hi'n amhosib inni groesawu ysgolion i'r Senedd neu i ymweld â nhw. Am ran o'r flwyddyn, felly, bu'r tîm yn canolbwyntio ar greu adnoddau y gall gweithwyr addysg proffesiynol eu defnyddio eu hunain. Fodd bynnag, ers mis Hydref, rydym wedi profi galw cynyddol am sesiynau rhithwir i ysgolion, a byddwn ni'n cynnig mwy o'r rheini yn yr wythnosau sydd i ddod. Rydym wedi cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru i symud ei gweithgareddau ar-lein. Fe wnaethon nhw gyhoeddi adroddiadau ar wastraff sbwriel a phlastig, a chymorth iechyd emosiynol a meddyliol, ac fe wnes i gadeirio eu Cyfarfod Llawn diwethaf ar Zoom ar 14 Tachwedd. Fel rhan o'n cyfres o ddigwyddiadau GWLAD, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod rhithwir yn edrych ar y dyfodol i bobl ifanc yng Nghymru a'u profiadau nhw o'r pandemig. Mae staff y Comisiwn wedi gweithio gyda phobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol hefyd i gyd-gynhyrchu ystod o ddeunyddiau i hyrwyddo pleidleisio ar 16 ar gyfer etholiad fis Mai nesaf.
Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi pryderon o'r blaen ynghylch ymgysylltiad allanol â'n hetholwyr, ac yn wir aelodau iau o'n cymuned, heb ein cynnwys ni fel Aelodau etholedig yn wir, a heb ein cyfranogiad, ac mae hynny wedi parhau. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r pandemig, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Senedd yn cynnig sesiynau ar-lein i helpu pobl ifanc i ddeall yn well sut y mae ein democratiaeth yn gweithio, ac mae rhai o'r sesiynau'n swnio'n rhagorol, megis 'Cyflwyniad i'ch Senedd', 'Sut i fod yn ddinesydd gweithredol', ac 'Ein Senedd'. Mae sesiynau 'Fy mhleidlais gyntaf', sy'n canolbwyntio ar etholiadau'r Senedd a fydd yn digwydd ym mis Mai, lle bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru, yn swnio'n sesiynau da iawn, ac er fy mod yn cydnabod bod angen addysg cyn hyn—rwy'n credu ei bod yn hen bryd, mewn gwirionedd—rwy'n ei chael yn anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn yn effeithiol heb gyfeirio at, a chynnwys ein holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, a hoffwn weld Aelodau'n cymryd rhan. Felly, a allech chi egluro a yw'r swyddogion addysg sy'n cynghori'r myfyrwyr hyn yn y sesiwn 'Fy mhleidlais gyntaf'—? Sut y cânt eu haddysgu ynglŷn â'r gwahanol bleidiau gwleidyddol a'r system wleidyddol yn wir? Hefyd, pa fwriadau sydd gan y Senedd i gynorthwyo Aelodau sydd eisoes wedi'u hethol i fod yn rhan o rai o'r sesiynau hyn? Diolch.
Wel, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Janet Finch-Saunders, cyn yr etholiad, cyfnod rydym i gyd yn ei wynebu ar ôl y Nadolig, ei bod yn bwysig fod y sesiynau y mae'r Comisiwn yn eu cynnal, ac y mae ysgolion ac eraill yn eu cynnal mewn ysgolion, yn wleidyddol gytbwys ac yn cynnwys yr holl gynrychiolaeth wleidyddol at y diben hwnnw. Dyna pam fod y Senedd, wrth gynllunio ein hadnoddau ac adnoddau Llywodraeth Cymru sydd ar gael i bobl ifanc, gan weithio gyda'r Comisiwn Etholiadol hefyd, yn sicrhau bod cydbwysedd gwleidyddol teg yn y ddadl sy'n arwain at etholiadau. Rydym i gyd yn gwybod, fel Aelodau unigol, ein bod yn aml iawn yn cael ein gwahodd i ysgolion i gynnal hustyngau gwleidyddol yn y cyfnod sy'n arwain at etholiadau, a gobeithiwn y bydd y posibilrwydd hwnnw'n digwydd ar lefel leol hefyd. Mater i'r ysgolion yw cychwyn eu trafodaeth eu hunain, ond rwy'n gobeithio y bydd ysgolion mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n digwydd mewn cyd-destun rhithwir o hyd erbyn mis Mai y flwyddyn nesaf, ond mae sicrhau bod gan ein pobl ifanc yr holl wybodaeth y maent ei hangen i'w hysbrydoli, ac yn ymarferol i fwrw eu pleidlais ym mis Mai y flwyddyn nesaf yn rhywbeth sy'n ein huno ni i gyd fel Aelodau etholedig, rwy'n credu, nawr ac yn y dyfodol.