Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Cafodd Jan Morris fywyd eithriadol, yn chwilota ac agor ffenestri ar fydoedd eraill gyda'i hysgrifennu, yn arloesi a chroesi tiroedd newydd ac agor drysau ar bosibiliadau. Bydd cynifer ohonom yn gyfarwydd â'i llyfrau atgofus am Fenis a Trieste, ond ei gwaith gwych The Matter of Wales a arweiniodd ddarllenwyr i ddarganfod trysorau cudd ein gwlad ein hunain, ei hanobaith a'i herfeiddiwch. Gan ysgrifennu pan sefydlwyd y Senedd hon am y tro cyntaf, mae Jan yn ein gwahodd i fwrw cipolwg ar y wlad hon ar drothwy ei chyflawniad newydd, gyda lle a phobl yn dod at ei gilydd.