Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion hyn hefyd. Ategaf yr hyn a ddywedodd Llyr am ymrwymiadau tebyg sy'n ymddangos mewn maniffestos a dogfennau polisi ers 2016, a chyn hynny. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn annheg i mi dynnu sylw at y ffaith nad oes penderfyniad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd a fu yn y cyfamser. Ac er y gallai cyfranwyr eraill fod eisiau beio hyn i gyd ar Lywodraeth y DU a chymaint o amser y maent yn ei gymryd, nid yw hynny'n osgoi'r ffaith mai Llywodraeth Cymru sy'n llusgo ar ôl pob un ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi byrdwn y cynigion hyn ac yn anfon neges gref i'n hetholwyr y byddwn yn ceisio deddfwriaeth sylfaenol ar hyn yn y chweched Senedd, a gobeithio mai Janet fydd â'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno.
Mae gennyf fy marn fy hun ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ei rhaglen ddeddfwriaethol dros hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Cawsom amser ar gyfer Bil ar hyn. Ond yn y cyfamser, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hymweliad rhithwir â RPC Tedeco-Gizeh, ffatri yn fy rhanbarth sy'n cynhyrchu cwpanau plastig untro i'r GIG ledled y DU—nid dyma'r cwpanau sy'n ymddangos yn y sbwriel roedd Jenny Rathbone yn sôn amdano. Roedd yn ymweliad pwysig, oherwydd dangosodd fod deddfwriaeth yn bodoli'n barod sy'n cyfyngu ar ailgylchu mathau penodol o blastig sydd wedi bod mewn cysylltiad â bwyd a diod. Ac felly rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir mai dim ond sicrhau bod modd ailgylchu hwnnw ar hyn o bryd y mae'r cynllun hwn gan annog ymchwil ar yr un pryd i wahanol fathau o blastig y gellid eu defnyddio ar gyfer bwyd a diod. Yn sicr, roedd yr ymgynghoriadau'n ymwneud yn benodol â dau fath gwahanol o blastig.
Mae'r cynnig yn cyfeirio at y nod ehangach o leihau gwastraff hefyd, a'r her newydd ynglŷn â sut rydym yn ymdrin â'r holl gyfarpar diogelu personol tafladwy. Credaf mai masgiau wyneb wedi'u taflu yw'r sbwriel stryd newydd ac wrth gwrs, maent yn cynnwys plastig. Sylwais yn arbennig ar gyfeiriad Janet at fywyd morol, ac rwy'n gobeithio y bydd cronfa planed las £0.5 biliwn y DU yn cynnwys ystyriaeth o'r math newydd hwn o sbwriel.
Ond mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd fwrw iddi ar ei chamau cyntaf ei hun i gyflawni unrhyw beth o dan y strategaeth ddiwastraff. Felly, fel y dywedodd Alun Davies rwy'n credu, rwy'n hapus i groesawu sgôr dda a chyfradd casgliadau ailgylchu uchel Cymru, ond dim ond casglu yw hynny; nid ydym yn clywed am yr hyn sy'n digwydd i'r deunydd ailgylchu ac mae gennym gyfrifoldeb yn hynny o beth, mwy hyd yn oed nag am gasglu'r deunydd ailgylchu yn y lle cyntaf.
Yn olaf, mae cynllun ernes yn annog cyfrifoldeb personol a chredaf y byddai'n gweithio'n dda ochr yn ochr â chymhellion eraill y mae darparwyr diodydd yn eu cynnig ar hyn o bryd—felly, mynd â'ch cwpan eich hun i'w ddefnyddio ar gyfer diodydd tecawê, er enghraifft. Gair bach sydyn am gaffi gwych Hideout yng ngwarchodfa natur Cynffig, sy'n gwerthu coffi am bris rhatach os gwnewch hynny, ac mae'n cyd-fynd â rhyw fath o ddiwylliant ail-lenwi sy'n dechrau magu stêm, gydag ail-lenwi cynwysyddion llaeth yn edrych yn arbennig o boblogaidd ar hyn o bryd.
Ac yn olaf, wrth gwrs, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gamau polisi a weithredwyd i gyrraedd targedau cynaliadwyedd, oherwydd mae mwy iddo na chael gwared ar blastig untro yn unig, ac os gallwn wneud hynny, ni welaf pam na all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar gyfer polisïau wedi'u cynllunio ar gyfer y wlad gyfan. Diolch.