6. Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff

– Senedd Cymru am 3:42 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:42, 25 Tachwedd 2020

Dyma ni yn ailgychwyn, a'r eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yw hwnnw, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7481 Janet Finch-Saunders

Cefnogwyd gan Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sefydlu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd;

b) lleihau nifer y poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm;

c) ymateb i wastraff ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a

d) cynyddu atebolrwydd drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:42, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Wrth wneud y cynnig deddfwriaethol hwn, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod yng ngogledd Cymru, Llyr Gruffydd, am gefnogi hyn.

Y llynedd, disgrifiodd Syr David Attenborough lygredd plastig fel trychineb sy'n datblygu. Mae ef, wrth gwrs, yn llygad ei le, gan y gallwn ac y dylem wneud mwy i osgoi'r broblem sy'n ein hwynebu. Amcangyfrifir ar hyn o bryd mai dim ond 77 y cant o boteli gwydr, 66 y cant o ganiau alwminiwm a 65 y cant o boteli diod plastig sy'n cael eu hailgylchu. Yn wir, mae taflu sbwriel yn bla ar Gymru gyfan. Rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, roedd 1,034 o achosion o dipio anghyfreithlon ar draws Sir Fynwy, 2,281 ar draws Caerffili a 2,816 ar draws Rhondda Cynon Taf.

Plastig yw'r prif ddeunydd yn ein problem lygredd. Mae capiau poteli a chaeadau bellach o fewn y pum eitem a welir amlaf ar draethau Cymru, a chanfu dadansoddiad o'r ymgyrch casglu sbwriel a gynhaliais yn eithaf diweddar gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol fod 55.9 y cant o'r eitemau a gasglwyd wedi'u gwneud o blastig neu bolystyren. Poteli ac eitemau cludfwyd oedd y mwyafrif llethol wrth gwrs. Gallwn fynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes. Mae llawer o'r Aelodau yma wedi trafod hyn ac wedi dweud eu bod wedi bod eisiau hyn ar hyd y ffordd, ond dyma ni yn dal i siarad am y peth ac yn dal i fod yn awyddus i'w weld.

Yn wir, mae'r Alban yn arwain y ffordd, gan y bydd cynllun dychwelyd ernes yn cael ei gyflwyno yno o 1 Gorffennaf 2022. A gwn fod gan Lafur Cymru ddiddordeb, oherwydd roedd cynllun dychwelyd ernes yn rhan o'r ymgynghoriad ar 'Mwy nag Ailgylchu', a dynnodd sylw at bryderon megis yr honiad na ellid cymhwyso'r cynllun yn effeithlon yng Nghymru, yr ôl troed carbon posibl o sefydlu cynllun dychwelyd ernes, ac effeithiau ar ein awdurdodau lleol yn cyrraedd targedau ailgylchu. Ond nid ydynt yn cyfiawnhau unrhyw oedi pellach.

Gallai'r cynllun dychwelyd ernes gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Canfu Pwyllgor Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir yr Alban fod manteision effeithlonrwydd casglu a chostau is am waredu deunyddiau yn gorbwyso costau cynllun dychwelyd ernes i awdurdodau lleol. Ac yn Ne Awstralia, golygodd y cynllun dychwelyd ernes fod ailgylchu ymyl y ffordd yn fwy proffidiol. Felly, byddai manteision mawr i'n hamgylchedd. Dywedodd Zero Waste Scotland y bydd cynllun yr Alban yn lleihau allyriadau cyfwerth â thua 4 miliwn tunnell o garbon deuocsid dros y 25 mlynedd nesaf. Mae gwneud caniau alwminiwm o hen rai yn defnyddio un rhan o ddeuddeg o'r ynni a ddefnyddir i gynhyrchu o ddeunydd crai, caiff 315 kg o garbon deuocsid ei arbed am bob tunnell o wydr a ailgylchir, a dangosodd arolwg gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed fod tri chwarter yr oedolion yn cefnogi'r syniad o gynllun dychwelyd ernes, ac maent yn iawn i wneud hynny. Gallai'r cynllun dorri hyd at draean oddi ar gyfanswm sbwriel yng Nghymru.

Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bod paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer ail ymgynghoriad. Ond a oes angen un arall arnom i ddatblygu'r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru, cynllun rydym i gyd wedi cytuno arno o'r blaen? Bydd yr Aelodau'n gwybod bod yr eitem hon wedi bod yn bwnc sy'n codi'n gyson ers 2016—cyn hynny mewn gwirionedd—a dylent nodi llwyddiant y cynlluniau mewn mannau eraill, megis y Ffindir, yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden, Denmarc a Croatia. Gwelodd Gwlad yr Iâ gyfradd ddychwelyd o 90 y cant yn 2014; yr Almaen 98 y cant yn 2016; a Lithwania, 92 y cant yn 2017.

Felly, nod fy nghynnig yw adlewyrchu her arall sy'n perthyn i'n cyfnod ni: cyfarpar diogelu personol. Roedd ei angen arnom, ond yn sicr nid ydym wedi bod angen y gwastraff ohono. Mae menig Latex yn cymryd hyd at 100 mlynedd i fioddiraddio, ac eto ledled y byd, mae timau ymateb COVID angen dros 80 miliwn o fenig bob mis. Mae lle i arloesi, ac mae Meditech Gloves a Phrifysgol Cranfield wedi datblygu latecs naturiol, a fyddai ond yn cymryd ychydig wythnosau i fioddiraddio. Mae cwmni rheoleiddio gwastraff TerraCycle wedi creu rhaglen ailgylchu i gadw'r amgylchedd yn rhydd o gyfarpar diogelu personol, ac mae tîm o dan arweiniad Abertawe yn datblygu proses newydd o'r enw ffotoailffurfio, sy'n defnyddio golau'r haul i droi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn danwydd hydrogen glân. 

Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun Abertawe, ond mae angen inni wneud mwy i harneisio arloesedd o'r fath, yn enwedig gan ein bod bellach yn gweld mwy o fenig, masgiau a photeli diheintio yn addurno ein hamgylchedd. Rwyf hefyd yn rhannu pryderon Dŵr Cymru ynghylch gwaredu cadachau gwlyb plastig untro, sy'n cyfrannu at flocio tua 2,000 o carthffosydd bob mis. Ie, 2,000 bob mis. Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cadachau gwlyb yn y rhestr o eitemau sydd i'w gwahardd. Mae arnom angen camau pendant i sicrhau bod Cymru'n ddiwastraff erbyn 2050, ac mae arnom angen deddfwriaeth sy'n dangos bod y Senedd hon yn ymateb yn brydlon i alwadau gan y cyhoedd a'r argyfwng hinsawdd sy'n esblygu, a dyna'r rheswm dros fy nghynnig i sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad blynyddol. 

Lywydd, Aelodau o'r Senedd, agorais drwy gyfeirio at Syr David Attenborough, ac rwyf am gloi gyda'r sylwadau a wnaeth y llynedd:

Mae'n hen bryd i ni droi ein sylw'n llawn at un o'r problemau mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu heddiw— sef— osgoi'r argyfwng llygredd plastig, nid yn unig er lles iechyd ein planed, ond er lles pobl ledled y byd.

Mae angen i bob un ohonom weithredu ar ei alwadau yn awr. Ac rwyf wedi dangos heddiw fod mwy y gallwn ac y dylem ei wneud yn awr yng Nghymru i helpu i osgoi'r argyfwng presennol. Diolch yn fawr. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:49, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn am ddau reswm. Yn gyntaf, rwy'n cytuno y bu oedi annerbyniol cyn cyflwyno camau gweithredu ar yr agenda hon, ond hefyd, rwyf am i Gymru fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig. Mae wedi bod yn rhwystredig iawn, mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad llawer ers nifer o flynyddoedd ond nid yw wedi gweithredu. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn siarad am hyn ers dros ddegawd. Cefais fy ethol yn 2011, a bryd hynny roedd sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i'r ymyriadau hynny gael eu gwireddu.

Nawr, rwy'n deall dymuniad y Llywodraeth i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, ond wrth gwrs, mae wedi golygu oedi a gohirio difrifol. Rwy'n ystyried bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yr un mor euog o fethiant i weithredu'n gynt. Nawr, gwyddom o brofiadau diweddar wrth gwrs, pan fydd Cymru'n mynd ei ffordd ei hun, yn aml iawn gallwn wneud yn llawer gwell. Mae'r Alban, fel y clywsom, wedi mynd ei ffordd ei hun ar hyn, ac mae ganddi gynlluniau manwl eisoes ar waith ar gyfer 2022, gyda thargedau wedi'u pennu ar gyfer 2025. Felly, pam aros am San Steffan, dyna rwy'n ei ddweud.

Roedd cynllun dychwelyd ernes, ymhlith pethau eraill, yn ymrwymiad clir ym maniffesto Plaid Cymru yn etholiad 2016, a phe baem ni wedi ffurfio Llywodraeth, rwy'n argyhoeddedig y byddai gennym gynllun ar waith eisoes. Ond mae penderfyniad Llafur i ddilyn y Torïaid yn San Steffan ar hyn yn amlwg wedi ein dal yn ôl. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson glir ynglŷn â'n hymrwymiad i leihau gwastraff. Rydym am roi Cymru ar flaen yr economi gylchol, ac rydym am sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2026, drwy gyfuniad o ddeddfwriaeth, mentrau polisi megis y cynllun dychwelyd ernes wrth gwrs, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, rhywbeth rydym yn dal i siarad amdano yn y Senedd, a'r defnydd o gyfreithiau cynllunio, ardollau a phwerau i godi trethi, ac ati ac ati.

Gwyddom fod manteision cynllun dychwelyd ernes yn glir, fel y clywsom eisoes. Mae poteli, caniau a chaeadau diodydd yn cyfrannu at tua 10 y cant o'r holl sbwriel, ac mae tystiolaeth yn dangos mai cynllun dychwelyd ernes yw'r ffordd orau o leihau'r math hwnnw o wastraff ac wrth gwrs, i godi lefelau ailgylchu o safon. Nawr, y llynedd, roedd 45 o wledydd o gwmpas y byd eisoes wedi mabwysiadu'r system hon. Bu Norwy ac Awstralia yn ei wneud ers blynyddoedd lawer, gyda'r canlyniadau profedig yn dod i'r amlwg yn fuan iawn ar ôl ei gyflwyno i'r cyhoedd.

Mae ymchwil gan WRAP Cymru yn amcangyfrif bod 400,000 tunnell o wastraff plastig yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae tua dwy ran o dair ohono'n wastraff deunydd pacio. Fel y clywsom, gallwch ychwanegu at hynny bellach yr epidemig newydd sy'n datblygu, sef gwastraff cyfarpar diogelu personol, yn enwedig masgiau wyneb a menig. Ymunais innau hefyd â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn ddiweddar i lanhau traethau, lle daeth yn amlwg ar unwaith fod hon bellach yn broblem enfawr sy'n mynd i blagio ein hamgylchedd am flynyddoedd lawer.

Felly, gwyddom i gyd beth sydd angen ei wneud. Mae'n fater o fwrw iddi i'w wneud. Yn hytrach na threulio degawd arall yn sôn am leihau gwastraff, a dim ond anelu at Gymru ddiwastraff, mae angen gweithredu pendant ar ailgylchu a lleihau gwastraff. Wrth ymateb i'r ddadl hon, dylai Llywodraeth Cymru o leiaf gydnabod y dylai'r camau y soniwyd amdanynt cyhyd fod ar waith eisoes. Ac wrth gwrs, yn hynny o beth, mae'r Llywodraeth hon yn sicr wedi gwneud cam â'n hamgylchedd.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:53, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan Janet Finch-Saunders? Roeddwn yn cytuno â phob elfen o'r cyfraniad a wnaeth wrth gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Nid wyf am geisio ailadrodd ei sylwadau a'i harsylwadau. Roeddwn yn cytuno â chyfraniad Llyr hefyd. Mae e'n hollol gywir. Mae yna un peth yn bendant rydym wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf, sef: pam aros am San Steffan? Gwyddom y byddant yn ein siomi. Dysgasom hynny'n gynharach heddiw, ac nid am y tro cyntaf.

Mae rheoli ein gwastraff yn gwbl hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a chyflawni'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer ein cymunedau, ein trefi, ein pentrefi, ein gwlad a'n planed. Rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd torcalonnus o lygredd, o ddyfnderoedd y cefnfor i uchelfannau Everest—fel y clywsom yn ystod yr wythnos ddiwethaf—lle mae plastigau'n llygru'r blaned ac yn llygru ac yn dinistrio ein bywyd gwyllt.

Rhaid inni dderbyn cyfrifoldeb am hyn. Ni allwn ddweud, 'Fe arhoswn i'r Torïaid wneud rhywbeth', er fy mod, yn yr achos hwn, yn falch fod Ceidwadwr yn gwneud rhywbeth. Ac ni allwn ddweud nad ein cyfrifoldeb ni yw hyn. Rhaid inni weithredu ein hunain. Ond rwyf am i ni fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma. Rwyf am weld Bil Cymru lân yn cael ei gyflwyno yn y Senedd nesaf i gynnwys deddfwriaeth—ac wedi'i wreiddio yn y cynllun dychwelyd ernes sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma—ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr, a ddylai fod wrth wraidd yr hyn rydym am ei weld, nid yn unig o ran glanhau ein gwlad ein hunain, ond hefyd yn y gwaith o ddarparu economi gylchol.

Ond ceir problemau ehangach eraill hefyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwahardd allforio gwastraff trefol o'r Deyrnas Unedig ac nad oes unrhyw wastraff trefol yng Nghymru yn mynd i gefnforoedd y blaned hon. Nid yw'n ddigon da i ni ganmol ein hunain yma yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, a dweud bod gennym gyfraddau ailgylchu uchel, dweud ein bod yn dda iawn am reoli gwastraff, a gwybod drwy'r amser ein bod yn allforio gormod o'r gwastraff hwnnw i rannau eraill o'r byd. Rhaid inni wahardd hynny'n llwyr.

Yn olaf, y pwynt y daeth Janet Finch-Saunders a Llyr Gruffydd i ben arno yw tipio anghyfreithlon. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar fy etholaeth, fy nghymuned, ac ar bob etholaeth a chymuned yn y wlad hon. Mae'n dorcalonnus cerdded drwy rai o'r ardaloedd gwledig harddaf yn y wlad hon a gweld effaith tipio anghyfreithlon. Rwyf wedi siarad â ffermwyr yn fy etholaeth fy hun sy'n anobeithio am yr hyn y maent yn ei weld. Siaradaf â phobl sy'n cerdded y bryniau o amgylch Blaenau Gwent bob wythnos o'r flwyddyn yn clirio'r sbwriel oddi yno. Mae'n amlwg i mi fod y fframweithiau statudol presennol sydd gennym ar waith i wahardd tipio anghyfreithlon yn aneffeithiol ac nad ydynt yn rhoi'r ateb rydym ei angen. Felly, mae angen inni edrych eto ar y fframwaith statudol sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon. Mae angen inni godi'r dirwyon, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu darparu'r math o wlad rydym i gyd am ei gweld i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ac yn cymeradwyo a byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol y prynhawn yma.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:57, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn cefnogi cynigion Janet Finch-Saunders a Llyr y prynhawn yma. Nid oes amheuaeth nad ydym i gyd yn ymwybodol o bla poteli a chaniau plastig sy'n sbwriel ar ein strydoedd ac a welir yn rhy aml o lawer yn rhai o'n lleoliadau harddaf, a mannau gwledig a glan môr. Credaf y byddai sbwriel o'r fath yn cael ei leihau'n sylweddol drwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, yn enwedig ar gyfer poteli a chaniau plastig. Fodd bynnag, mae swm y blaendal a delir yn hanfodol i'w lwyddiant. Ni fydd pobl, yn enwedig yr ifanc, yn trafferthu dychwelyd yr eitemau hyn am 5c, dyweder. Rhaid i'r ernes a ddychwelir fod oddeutu 25c er mwyn i'r cynllun lwyddo. Bydd y rheini ohonom sy'n cofio ernes yn cael ei rhoi ar botel o lemonêd yn nodi y gallech brynu potel lawn am tua 11c—hen arian, hynny yw—a chael ernes o dair ceiniog yn ôl sef tua 25 y cant. Gobeithio na fyddaf yn colli'r rhai iau ohonoch gyda'r cysyniad hwn o hen arian. Felly, byddwn yn annog pwy bynnag sy'n cyflwyno deddfwriaeth ar gynlluniau dychwelyd ernes i ystyried y ffigurau hyn. Gyda rhywbeth fel 25c yr eitem, hyd yn oed pe bai nifer o bobl yn parhau i daflu eu caniau a'u poteli, byddai nifer yn fodlon casglu eitemau o'r fath am y gwobrau ariannol a fyddai'n dod yn sgil hyn. Os yw Llywodraeth Cymru am gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yn y chweched tymor, gadewch iddo fod yn gynllun dychwelyd ernes. Gwyddom pa mor llwyddiannus oedd y tâl am fagiau plastig, felly gadewch i ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon gyda'r brys mwyaf. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:58, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr yn teimlo'n gryf iawn am y sbwriel sy'n anharddu ein cymunedau, ac rwyf am dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel yn rheolaidd i glirio'r llanast a grëwyd gan ychydig o bobl ddifeddwl. Roeddwn allan yn Llanedeyrn yr wythnos diwethaf gyda staff o gampws Cyncoed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a diolch iddynt am ddod allan yn y glaw. Ni fyddwch yn synnu clywed ein bod wedi codi llawer iawn o boteli a chaniau. Gobeithio y byddai cynllun dychwelyd ernes yn annog pobl i beidio â thaflu eitemau y gallant gael arian yn ôl amdanynt, ac yn benodol, byddai'n ennyn archwaeth entrepreneuraidd ein pobl ifanc, gobeithio. Dyna'n sicr sut yr ychwanegwn i at fy arian poced yn y gorffennol pell yn ôl. Fy nghwestiwn i'r sawl a wnaeth y cynnig yw hwn: gwyddom y byddai Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 yn atal y Senedd hon rhag gallu dileu plastig untro yn ystyrlon, gan na allem gymhwyso unrhyw fesur ar gyfer cwmnïau y tu allan i Gymru, a byddai hynny ar unwaith yn hepgor y brandiau diodydd swigod byd-eang hollbresennol sydd i'w gweld yn sbwriel ar ein tirwedd yn ogystal ag ar hysbysfyrddau.

Felly, sut y byddai'r Bil marchnad fewnol yn llyffetheirio cynnig yr Aelod? A fyddech cystal â fy hargyhoeddi na fyddai'n arwain at ganlyniad gwrthgynhyrchiol a fyddai'n golygu bod diodydd sy'n cael eu potelu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu hadleoli dros y ffin er mwyn osgoi gorfod cymryd rhan mewn cynllun dychwelyd ernes. Sut y byddai eich deddfwriaeth arfaethedig yn goresgyn y Bil marchnad fewnol anghyfiawn ar y ffurf y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi'i lunio?

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:00, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion hyn hefyd. Ategaf yr hyn a ddywedodd Llyr am ymrwymiadau tebyg sy'n ymddangos mewn maniffestos a dogfennau polisi ers 2016, a chyn hynny. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn annheg i mi dynnu sylw at y ffaith nad oes penderfyniad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd a fu yn y cyfamser. Ac er y gallai cyfranwyr eraill fod eisiau beio hyn i gyd ar Lywodraeth y DU a chymaint o amser y maent yn ei gymryd, nid yw hynny'n osgoi'r ffaith mai Llywodraeth Cymru sy'n llusgo ar ôl pob un ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi byrdwn y cynigion hyn ac yn anfon neges gref i'n hetholwyr y byddwn yn ceisio deddfwriaeth sylfaenol ar hyn yn y chweched Senedd, a gobeithio mai Janet fydd â'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno.

Mae gennyf fy marn fy hun ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ei rhaglen ddeddfwriaethol dros hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Cawsom amser ar gyfer Bil ar hyn. Ond yn y cyfamser, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hymweliad rhithwir â RPC Tedeco-Gizeh, ffatri yn fy rhanbarth sy'n cynhyrchu cwpanau plastig untro i'r GIG ledled y DU—nid dyma'r cwpanau sy'n ymddangos yn y sbwriel roedd Jenny Rathbone yn sôn amdano. Roedd yn ymweliad pwysig, oherwydd dangosodd fod deddfwriaeth yn bodoli'n barod sy'n cyfyngu ar ailgylchu mathau penodol o blastig sydd wedi bod mewn cysylltiad â bwyd a diod. Ac felly rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir mai dim ond sicrhau bod modd ailgylchu hwnnw ar hyn o bryd y mae'r cynllun hwn gan annog ymchwil ar yr un pryd i wahanol fathau o blastig y gellid eu defnyddio ar gyfer bwyd a diod. Yn sicr, roedd yr ymgynghoriadau'n ymwneud yn benodol â dau fath gwahanol o blastig.

Mae'r cynnig yn cyfeirio at y nod ehangach o leihau gwastraff hefyd, a'r her newydd ynglŷn â sut rydym yn ymdrin â'r holl gyfarpar diogelu personol tafladwy. Credaf mai masgiau wyneb wedi'u taflu yw'r sbwriel stryd newydd ac wrth gwrs, maent yn cynnwys plastig. Sylwais yn arbennig ar gyfeiriad Janet at fywyd morol, ac rwy'n gobeithio y bydd cronfa planed las £0.5 biliwn y DU yn cynnwys ystyriaeth o'r math newydd hwn o sbwriel.

Ond mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd fwrw iddi ar ei chamau cyntaf ei hun i gyflawni unrhyw beth o dan y strategaeth ddiwastraff. Felly, fel y dywedodd Alun Davies rwy'n credu, rwy'n hapus i groesawu sgôr dda a chyfradd casgliadau ailgylchu uchel Cymru, ond dim ond casglu yw hynny; nid ydym yn clywed am yr hyn sy'n digwydd i'r deunydd ailgylchu ac mae gennym gyfrifoldeb yn hynny o beth, mwy hyd yn oed nag am gasglu'r deunydd ailgylchu yn y lle cyntaf.

Yn olaf, mae cynllun ernes yn annog cyfrifoldeb personol a chredaf y byddai'n gweithio'n dda ochr yn ochr â chymhellion eraill y mae darparwyr diodydd yn eu cynnig ar hyn o bryd—felly, mynd â'ch cwpan eich hun i'w ddefnyddio ar gyfer diodydd tecawê, er enghraifft. Gair bach sydyn am gaffi gwych Hideout yng ngwarchodfa natur Cynffig, sy'n gwerthu coffi am bris rhatach os gwnewch hynny, ac mae'n cyd-fynd â rhyw fath o ddiwylliant ail-lenwi sy'n dechrau magu stêm, gydag ail-lenwi cynwysyddion llaeth yn edrych yn arbennig o boblogaidd ar hyn o bryd.

Ac yn olaf, wrth gwrs, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gamau polisi a weithredwyd i gyrraedd targedau cynaliadwyedd, oherwydd mae mwy iddo na chael gwared ar blastig untro yn unig, ac os gallwn wneud hynny, ni welaf pam na all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar gyfer polisïau wedi'u cynllunio ar gyfer y wlad gyfan. Diolch.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:04, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n croesawu'r cynnig hwn. Mae'n ddadl rydym wedi'i chael droeon ar gynlluniau dychwelyd ernes, cynlluniau rwy'n eu cymeradwyo a'u cefnogi'n llwyr. Gwneuthum sylwadau droeon am fy mhlentyndod, lle roeddem, i bob pwrpas, yn cyfateb yn y 1960au i'r cod bar—hynny yw, roeddem yn casglu'r poteli, yn eu dychwelwyd a byddem yn cael yr arian, a byddai hwnnw'n mynd i'n pocedi. Mae'n ddiddorol iawn gweld sut y maent wedi cyflwyno peiriannau cod bar mewn gwledydd fel yr Almaen, lle byddwch yn dychwelyd y botel ar ôl ei phrynu a'i defnyddio, yn cael cod bar wrth i chi ei dychwelyd ac mae'n ad-dalu i'ch cyfrif banc yn syth gyda'r swm cyfatebol o ernes. Felly, ceir ffyrdd o'i wneud ac rwy'n cefnogi hynny'n fawr. 

A gaf fi hefyd wneud sylw ar dipio anghyfreithlon, oherwydd gwneuthum y pwynt yn y Senedd hon beth amser yn ôl, rwy'n credu, nad yw'r dirwyon yn ddigonol? Mae gennych gynghorau sy'n gwneud gwaith da yn erlyn y rhai sy'n cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon ac yn olrhain y rhai sy'n cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon, ond mae'r dirwyon yn chwerthinllyd a dweud y gwir. Yn fy marn i, dylid cynyddu'r dirwyon yn sylweddol a dylid cael mecanwaith hefyd ar gyfer adfer y gost o glirio'r safle lle mae'r tipio anghyfreithlon yn digwydd.

Ond rwyf am ddod at y pwynt a gododd Jenny Rathbone, a chredaf ei fod yn un difrifol iawn. I bob pwrpas, nid yw cynllun dychwelyd ernes yn un y gallwn ei weithredu nawr os aiff y Bil marchnad fewnol drwodd, a chredaf fod yn rhaid i Janet Finch-Saunders gadarnhau y bydd hi a'r grŵp Ceidwadol yn gwrthwynebu'r Bil marchnad fewnol, a'r darpariaethau ynddo a fyddai mewn gwirionedd yn ein hatal rhag cyflwyno hyn. Oherwydd mae'n ddigon hawdd i ni sôn am gyflwyno rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei gefnogi ac am ei weld yn digwydd, ac ar yr un pryd yn San Steffan, fod gennym Lywodraeth sy'n cyflwyno deddfwriaeth gaethiwus a fyddai'n ein hatal rhag gwneud yr hyn y mae pawb ohonom yn gwybod ein bod i gyd am ei wneud a bod gennym fandad i'w wneud yng Nghymru. Diolch, Lywydd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:06, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ddod â hyn ger ein bron? Rwy'n gefnogwr i gynllun dychwelyd ernes ers tro byd. Cofiaf y blaendal 5c a 10c ar botel wydr o bop Corona, a gâi ei golchi a'i hailddefnyddio wedyn. Byddai honno'n ffordd wych o symud ymlaen. Roedd yn gweithio. Roedd pobl yn eu gadael; byddem ni fel plant yn eu casglu ac yn cael yr arian. Rydym yn dioddef o blastig rhad, sydd wedi arwain at gymdeithas sy'n taflu pethau, ac mae'r byd yn dioddef yn sgil hynny. Mae plastig yn rhad i'w weithgynhyrchu ac mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy a mwy o gynwysyddion. Ychydig flynyddoedd yn ôl yn unig, deuai saws a finegr mewn poteli gwydr. Mae angen gwneud rhywbeth i atal plastig rhag bod yn gynnyrch rhad. Rwy'n cofio'r tro cyntaf i mi godi potel finegr blastig; roedd yn rhyfedd ei weld yn symud pan fyddwn yn ei gwasgu. Un ffordd o'i atal rhag bod mor rhad yw treth ar blastig, a gwn nad ydym yn sôn am hynny heddiw, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth arall y mae angen edrych arno.

Rydym wedi gweld yr ymddygiad yn newid yn sgil codi 5c am fag plastig untro, gan arwain at ostyngiad o dros 70 y cant yn nifer y bagiau plastig untro a ddarperir. Rwy'n cefnogi cyflwyno cynllun dychwelyd ernes, ar gyfer poteli diod plastig i ddechrau, ond wedyn gallech ei ehangu i gynnwys pob potel a chynhwysydd plastig, ac yna i bob cynhwysydd. Ni ellir caniatáu i blastig rhad tafladwy barhau. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i weithredu nawr i gefnogi'r blaned a chenedlaethau'r dyfodol. Er fy mod yn cefnogi cynllun dychwelyd ernes, byddai'n llawer gwell gennyf gael cynllun ledled y DU. Mae pobl sy'n prynu poteli yn Lloegr ac yn hawlio blaendal yng Nghymru yn amlwg yn destun pryder—ac rwy'n gweld y Gweinidog yno—pobl yng Nghaer yn dod â nifer fawr o boteli i Wrecsam, a allai olygu dim ond croesi'r ffordd mewn rhai achosion. Mae'r ateb syml o nodi poteli fel rhai Cymru neu Loegr yn annhebygol o ddigwydd. Nid oes unrhyw fudd i gynhyrchydd y botel na'r cynnyrch wneud hynny. Rwy'n cefnogi hyn heddiw, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn cymell Llywodraeth San Steffan i weithredu. Mae'n rhaid inni wneud rhywbeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:08, 25 Tachwedd 2020

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i siarad—Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae lleihau gwastraff, ailgylchu, taflu sbwriel a phlastig untro yn bwysig iawn i'n dinasyddion ac i bob un ohonom yn y Senedd hon. Mae ailgylchu wedi dod yn rhan o bwy ydym ni fel cenedl, ac mae'r ffaith ein bod wedi codi i'r trydydd safle yn y byd o ran ein cyfraddau ailgylchu yn deillio o'r gwaith partneriaeth rhwng y Llywodraeth, llywodraeth leol a phobl Cymru. Fel Llywodraeth, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wneud mwy, felly rwy'n croesawu'r amcanion a'r teimladau sy'n sail i'r cynnig hwn.

Ugain mlynedd yn ôl, dim ond 7 y cant oedd cyfradd ailgylchu Cymru, a thrwy ein gweithredoedd fel cenedl gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni cyfradd sydd bellach yn fwy na 60 y cant, ar ein ffordd tuag at y 100 y cant o ailgylchu rydym am ei weld erbyn 2050. I wneud hynny, mae gennym gynlluniau eang ar waith a fydd yn cyflawni llawer o newidiadau. Rydym newydd gwblhau ymgynghoriad ar wahardd naw eitem blastig untro, gan fynd ymhellach na chynigion tebyg yn Lloegr, a chyhoeddir y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn bo hir, a'n nod yw dod â'r gwaharddiad i rym y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar gynllun dychwelyd ernes ar gynwysyddion diodydd, ac unwaith eto, byddwn yn cyhoeddi cynigion yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ac rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi cynigion ar sut rydym yn mynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio, drwy gynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig.

Mae pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno'r ddau gynllun ochr yn ochr â rhai gwledydd datganoledig eraill wedi'u cynnwys ym Mil Amgylchedd y DU, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor yn Senedd y DU. Mae'r pwerau hefyd yn cynnwys y gallu i gyflwyno taliadau am eitemau plastig untro, lle bo'n briodol, er mwyn lleihau'r defnydd ohonynt. At hynny, er mwyn cynyddu lefelau ailgylchu ymhlith busnesau a sefydliadau eraill, rydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn galw am wahanu eu gwastraff erbyn hydref 2021. A bydd hyn nid yn unig yn ei wneud yn haws ei ailgylchu, ond hefyd yn gwahardd deunydd ailgylchadwy rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i'w losgi.

Fel eraill, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â sbwriel eitemau defnydd sengl, ac mae'r defnydd ohonynt wedi cynyddu o ganlyniad i bandemig COVID. Mae tystiolaeth o arolwg sbwriel traeth blynyddol Prydain yn dangos gorchuddion wyneb a menig untro ar ein traethau hardd. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, byddwn yn lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio lle bo'n bosibl, neu dylent gael gwared ar rai untro mewn modd cyfrifol.

Soniodd Janet Finch-Saunders am y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda Dŵr Cymru ar hyn o bryd yng nghyswllt cadachau gwlyb, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion drafod hyn i weld beth y gallwn ei wneud, oherwydd mae'n amlwg yn dod yn broblem enfawr ac yn rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni ymdrin ag ef fel mater o frys.

Mewn perthynas ag adroddiadau gorfodol, rydym wedi cyhoeddi cyfraddau ailgylchu ar gyfer Cymru bob blwyddyn ers datganoli, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd y cynlluniau newydd ar gyfer dychwelyd ernes a chyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig hefyd yn cynnwys adroddiadau gorfodol, fel y gall pawb farnu llwyddiant y polisïau hyn.

Ar dipio anghyfreithlon, mae hon yn agwedd sydd newydd ddod yn ôl yn rhan o fy mhortffolio, ac rwyf wedi gofyn eto i swyddogion barhau i edrych ar dipio anghyfreithlon, oherwydd mae'n sicr yn falltod ar ein cymunedau, a'r fframwaith y cyfeiriodd yr Aelodau ato. Nid wyf yn hollol siŵr pam fod cysylltiad rhwng hyn a photeli, oherwydd yn gyffredinol, mae tipio anghyfreithlon i'w weld yn ymwneud ag eitemau mwy o faint, ond unwaith eto, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i wneud mwy yn ei gylch.

Felly, er fy mod yn cytuno â'r amcanion sy'n sail i'r cynnig hwn, nid wyf yn credu bod angen Bil ar wahân, gan fod y pwerau perthnasol wedi'u cynnwys ym Mil Amgylchedd y DU, fel y dywedais. Yn anffodus, fodd bynnag, mae effaith gadarnhaol cynnwys y pwerau hyn ar gyfer Cymru yn cael ei leihau gan y darpariaethau ym Mil marchnad fewnol y DU, ac mae hyn yn golygu, heb ei ddiwygio, y bydd ein gallu i weithredu er budd Cymru yn gyfyngedig, ac mae perygl y bydd yn ein clymu wrth y safon gyffredin isaf yn y DU. Mae gennym hanes llwyddiannus iawn yn y maes hwn, sydd wedi golygu ein bod wedi symud ymlaen yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae bellach yn destun balchder, nid yn unig ymysg ein gilydd, ond ymhlith ein dinasyddion hefyd. Felly, nid wyf yn credu y dylid lleihau gallu Cymru i barhau i weithredu yn y maes hwn mewn unrhyw ffordd.

Felly, rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, Lywydd, a byddwn yn parhau i wrando ar farn yr Aelodau o'r Senedd wrth i'r cynigion a amlinellais gael eu datblygu ymhellach a'u gweithredu. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:12, 25 Tachwedd 2020

Janet Finch-Saunders nawr i ymateb i'r ddadl.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelod am ymateb i'r ddadl—a chredaf ein bod yn croesawu'r ymatebion i'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd—ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau rhagorol, lle roedd pawb yn cytuno, mewn gwirionedd, fod hyn yn rhywbeth y mae mawr ei angen ers cryn amser. Roedd rhai o'r sylwadau bachog a ddaeth o rai o'r cyfraniadau hynny, megis cyfrifoldeb personol, sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc, a nodwyd gan Jenny Rathbone—sgwarnog oedd y pwynt am y Bil marchnad fewnol yn fy marn i oherwydd, yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â Llywodraeth ddatganoledig a'r pwerau sydd gennym yma yng Nghymru. Rwy'n credu na allwn guddio—neu ni ddylai Llywodraeth Cymru yma fod yn cuddio—y tu ôl i'r Bil marchnad fewnol.

Mae'r pwyntiau a gododd Alun Davies am dipio anghyfreithlon yn bwyntiau rhagorol. Nid yw'r fframwaith statudol yn ddigon cryf, ac mae angen i ni fynd ychydig pellach.

Llyr Gruffydd yn dweud am y siarad, a nawr mae angen gweithredu—a hoffwn gofnodi fy niolch aruthrol am y gwaith y mae Syr David Attenborough yn ei wneud, ei angerdd, ei dosturi, a'i allu i gyfleu i'r byd pa mor bwysig yw gweithredu ar frys mewn perthynas â llygredd plastig. Hoffwn ofyn, ac mae Aelodau yn y Senedd hon yma heddiw—David Rowlands—hoffwn ofyn i'r holl Aelodau gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, rhowch eich cefnogaeth iddo, a gadewch inni symud ymlaen yn gadarnhaol. Wrth inni ddod i ddiwedd blwyddyn ofnadwy, gadewch inni gamu ymlaen yn gadarnhaol, gyda'n gilydd, fel un Senedd, a gadewch inni gyflwyno'r cynllun dychwelyd ernes hwn. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:14, 25 Tachwedd 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.