Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 25 Tachwedd 2020.
A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan Janet Finch-Saunders? Roeddwn yn cytuno â phob elfen o'r cyfraniad a wnaeth wrth gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Nid wyf am geisio ailadrodd ei sylwadau a'i harsylwadau. Roeddwn yn cytuno â chyfraniad Llyr hefyd. Mae e'n hollol gywir. Mae yna un peth yn bendant rydym wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf, sef: pam aros am San Steffan? Gwyddom y byddant yn ein siomi. Dysgasom hynny'n gynharach heddiw, ac nid am y tro cyntaf.
Mae rheoli ein gwastraff yn gwbl hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a chyflawni'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer ein cymunedau, ein trefi, ein pentrefi, ein gwlad a'n planed. Rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd torcalonnus o lygredd, o ddyfnderoedd y cefnfor i uchelfannau Everest—fel y clywsom yn ystod yr wythnos ddiwethaf—lle mae plastigau'n llygru'r blaned ac yn llygru ac yn dinistrio ein bywyd gwyllt.
Rhaid inni dderbyn cyfrifoldeb am hyn. Ni allwn ddweud, 'Fe arhoswn i'r Torïaid wneud rhywbeth', er fy mod, yn yr achos hwn, yn falch fod Ceidwadwr yn gwneud rhywbeth. Ac ni allwn ddweud nad ein cyfrifoldeb ni yw hyn. Rhaid inni weithredu ein hunain. Ond rwyf am i ni fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma. Rwyf am weld Bil Cymru lân yn cael ei gyflwyno yn y Senedd nesaf i gynnwys deddfwriaeth—ac wedi'i wreiddio yn y cynllun dychwelyd ernes sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma—ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr, a ddylai fod wrth wraidd yr hyn rydym am ei weld, nid yn unig o ran glanhau ein gwlad ein hunain, ond hefyd yn y gwaith o ddarparu economi gylchol.
Ond ceir problemau ehangach eraill hefyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwahardd allforio gwastraff trefol o'r Deyrnas Unedig ac nad oes unrhyw wastraff trefol yng Nghymru yn mynd i gefnforoedd y blaned hon. Nid yw'n ddigon da i ni ganmol ein hunain yma yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, a dweud bod gennym gyfraddau ailgylchu uchel, dweud ein bod yn dda iawn am reoli gwastraff, a gwybod drwy'r amser ein bod yn allforio gormod o'r gwastraff hwnnw i rannau eraill o'r byd. Rhaid inni wahardd hynny'n llwyr.
Yn olaf, y pwynt y daeth Janet Finch-Saunders a Llyr Gruffydd i ben arno yw tipio anghyfreithlon. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar fy etholaeth, fy nghymuned, ac ar bob etholaeth a chymuned yn y wlad hon. Mae'n dorcalonnus cerdded drwy rai o'r ardaloedd gwledig harddaf yn y wlad hon a gweld effaith tipio anghyfreithlon. Rwyf wedi siarad â ffermwyr yn fy etholaeth fy hun sy'n anobeithio am yr hyn y maent yn ei weld. Siaradaf â phobl sy'n cerdded y bryniau o amgylch Blaenau Gwent bob wythnos o'r flwyddyn yn clirio'r sbwriel oddi yno. Mae'n amlwg i mi fod y fframweithiau statudol presennol sydd gennym ar waith i wahardd tipio anghyfreithlon yn aneffeithiol ac nad ydynt yn rhoi'r ateb rydym ei angen. Felly, mae angen inni edrych eto ar y fframwaith statudol sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon. Mae angen inni godi'r dirwyon, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu darparu'r math o wlad rydym i gyd am ei gweld i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ac yn cymeradwyo a byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol y prynhawn yma.