Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Dyma'r ail dro i mi siarad am y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac yn ystod y ddadl ddiwethaf amlinellais yn glir nifer o wendidau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Yn ystod y pwyllgor, mae fy mhenderfyniad fod angen mynd i'r afael â'r rhain wedi cryfhau.
Fel y dywedais o'r blaen, mae'r dull rhanbarthol presennol yn ddiffygiol, yn enwedig wrth edrych ar ogledd a chanolbarth Cymru. Argymhellais y dylid diwygio polisi 20, fel bod gogledd Cymru i gyd yn elwa, ac y dylid rhannu'r prif ffocws rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy a Chaernarfon, Bangor ac ardal y Fenai. Felly, erfyniaf arnoch i sicrhau bod gan ogledd-orllewin Cymru ardal dwf genedlaethol. Mae Plaid Cymru yn anghywir i alw am rywbeth yn lle'r model rhanbarthol—y broblem mewn gwirionedd yw lle mae'r ardaloedd twf cenedlaethol i fod. Felly, rhaid i mi fynegi fy rhwystredigaeth eto nad yw polisi 25 wedi'i ddiwygio i gyflwyno Aberystwyth fel prif ffocws ar gyfer buddsoddi.
Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn parhau i fethu sbarduno buddsoddiad i orllewin Cymru yn gyfan, a daw hyn â mi at fy nghefnogaeth i argymhelliad 10, fod angen datganiad clir yn awr ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn helpu i wella adferiad ôl-COVID. Oes, mae datganiad am y pandemig ynddo, ond mae gwir angen i chi ddangos sut y mae'r ddogfen wedi esblygu oherwydd y pandemig erchyll hwn. Er enghraifft, pe baech yn diwygio polisi 20 ac yn gweld mwy o ymdrech i fuddsoddi yng ngogledd-orllewin Cymru, gellid dweud eich bod yn ymateb i'r angen i hybu twf economaidd yn y rhanbarth yn dilyn y cynnydd o 114 y cant yn nifer yr hawliadau credyd cynhwysol yng Nghonwy, 117 y cant yn Ynys Môn a 147 y cant yng Ngwynedd.
Yn yr un modd, mewn ymateb i COVID-19, rhoddir cryn bwyslais ar y cyfle i sicrhau adferiad gwyrdd. Nawr, mae'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi rhoi hwb gwych i feithrin chwyldro gwyrdd yn y DU. Nid yw'r strategaeth hon yn adlewyrchu unrhyw uchelgais o'r fath. Nawr, rwy'n cytuno ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydanol a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r gwelliannau strategol y mae angen eu gwneud i seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan. Byddwn yn mynd ymhellach hyd yn oed, ac yn gofyn i chi gynnwys ymrwymiad ym mholisi 17, os oes seilwaith grid newydd i gael ei adeiladu ar draws canolbarth Cymru, y bydd hwnnw'n cael ei osod o dan y ddaear. Dylid rhoi sylw hefyd i dystiolaeth lafar Hedd Roberts, a dynnodd sylw at yr angen i ddiogelu'r nifer gyfyngedig o safleoedd sy'n addas ar gyfer glanfeydd cebl. Byddai hynny'n helpu i sicrhau bod 'Cymru'r Dyfodol' yn gyson â'r cynllun morol cenedlaethol. Fel y mae cangen Trefaldwyn o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi nodi, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni morol.
Mae polisi 22 yn cyfeirio at yr angen am lain las o amgylch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod ein pwyllgor wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth. Rwy'n cytuno, ond rwy'n dal yn bryderus, y gallai nodi diogelwch polisi cryf ar gyfer y llain las mewn un gornel o Gymru gael effaith negyddol mewn mannau eraill. Er enghraifft, os ydych yn dymuno bod yn uniongyrchol, beth am ddiwygio polisi 22 fel ei fod yn diogelu'r ardal werdd o amgylch Llan-rhos yn Aberconwy? Unwaith eto, ymddengys mai dim ond dau gyfeiriad a geir at safleoedd tir llwyd yn y ddogfen gyfan. Dylem gael polisi sy'n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu yn y mannau hynny.
Dywedwyd wrthym yn glir fod parciau cenedlaethol yn wynebu heriau mawr, felly rwy'n cytuno ag argymhelliad 25 y dylid cael polisi penodol ar y mater, a dyma mae Cymdeithas Eryri eu hunain wedi'i argymell. Rwy'n cytuno y dylai polisi 12 gynnwys blaenoriaeth ychwanegol: cymorth ar gyfer mesurau i leihau dibyniaeth ar geir a hwyluso dulliau mwy gwyrdd o gael mynediad i'n cyrchfannau angori ar gyfer ymwelwyr mewn tirweddau dynodedig sy'n profi tagfeydd cronig ar y ffyrdd ar hyn o bryd, gan brofi'n fwy felly yn ystod cyfnod codi'r cyfyngiadau symud yn y pandemig COVID. Er eich bod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r fframwaith fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru, nid yw yno eto, gan fod llawer o gyfrifoldeb yn cael ei roi i'r rhanbarthau eu hunain.
Yn olaf, hoffwn nodi fy siom fod 'Cymru'r Dyfodol' ym mholisïau 4 a 5 yn gadael dyfodol ardaloedd gwledig i gynlluniau datblygu strategol a lleol. Mae arwyddocâd cenedlaethol i faterion sy'n effeithio ar y Gymru wledig, ac fel y cyfryw, rwyf am ailadrodd galwadau i ddiwygio'r polisïau hynny fel eu bod yn hyrwyddo achub ein hysgolion a'n cyfleusterau gwledig, gwella ein ffyrdd B, arallgyfeirio ein ffermydd, a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr cyfathrebu digidol i fynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig. Rwy'n eich annog i weithredu ar y galwadau adeiladol hyn, ac i fynd yn ôl i'r dechrau ar y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn. Diolch.