7. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:22, 25 Tachwedd 2020

Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi allem ni dreulio, wrth gwrs, llawer o amser yn mynd drwy argymhellion unigol yn adroddiad y pwyllgor—llawer ohonyn nhw dwi'n cytuno â nhw—ond mae gen i broblemau mwy sylfaenol am gynsail y fframwaith datblygu, sydd, wrth gwrs, wedi eu hamlygu yn y gwelliannau y mae Plaid Cymru wedi eu cyflwyno, ac yn y ffaith bod adroddiad y pwyllgor, wrth gwrs, yn y pen draw, yn adroddiad lleiafrifol.

Un o'r problemau sydd gyda fi, wrth gwrs, yw bod ôl-troed gofodol y fframwaith datblygu cenedlaethol yn wallus. Mae'n rhoi ar waith, yn fy marn i, weledigaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, y weledigaeth unoliaethol honno sy'n ymwreiddio neu'n 'entrench-io' dibyniaeth Cymru ar economi Lloegr. Mae yna bedair rhanbarth, wrth gwrs, wedi eu modelu ar ardaloedd bargeinion twf Boris Johnson, ac mae'n siom fod map Cymru'r dyfodol yn seiliedig, wrth gwrs, ar wasanaethu'r Northern Powerhouse, y Bristol and Western Gateway a'r Midlands Engine—yr acsis gorllewin-dwyrain yma sy'n golygu, wrth gwrs, fod dyfodol economaidd Cymru yn mynd i fod yn seiliedig ar friwsion o fwrdd rhywun arall. Oes, mae angen cydweithio yn drawsffiniol i ddenu budd i Gymru o'r endidau hyn, wrth gwrs bod e, ond nid seilio holl weledigaeth 'Cymru'r Dyfodol' ar hynny. Ac mae'r methiant i flaenoriaethu adeiladu economi Cymru ynddo'i hun—in its own right—yn creu, wrth gwrs, mwy o ddibyniaeth ar benderfyniadau'r Ceidwadwyr yn Llundain a llai o debygolrwydd y bydd Cymru, wrth gwrs, yn gallu tyfu'n gryfach a sefyll ar ei thraed ei hun. 

Nawr, yn lle cynnig gweledigaeth sy'n dod â Chymru ynghyd, felly, mae Llafur, drwy wneud hyn, yn risgio gwthio de, canolbarth a gogledd Cymru ymhellach oddi wrth ei gilydd. Mae'n esgeuluso'r angen, yn fy marn i—yr angen dybryd—am well cysylltedd de a gogledd. Mi ddywedodd y Gweinidog yn ei thystiolaeth fod y fframwaith yn ddigon hyblyg i ymateb i bolisïau trafnidiaeth de-gogledd. Wel, nid ymateb i bolisïau sydd angen, ond gyrru'r weledigaeth a'r polisïau uchelgeisiol yna sydd eu hangen arnon ni i uno Cymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn un o argymhellion y pwyllgor sy'n cyfeirio at y diffyg ffocws ar gysylltedd oddi fewn i Gymru.

Yr ail broblem sylfaenol sydd gen i, wrth gwrs, yw'r modd y mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma yn canoli twf mewn rhai ardaloedd penodol, a hynny'n anochel, wrth gwrs, wedyn, ar draul ardaloedd eraill. Ac mi dynnodd Dr Neil Harris, arbenigwr o Brifysgol Caerdydd, ein sylw ni yn y pwyllgor, yn ei dystiolaeth, at y ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio twf ar ardaloedd trefol, ond wedyn dim ond yn sôn am sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Nawr, nid dyna'r weledigaeth o rannu cyfoeth a chyfleodd yn gyfartal ar draws Cymru fyddem ni am ei weld. A'r methiant hwnnw i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru yw un o'r nodweddion dwi am ei weld yn cael ei wyrdroi. Gallech chi ddadlau mai dyna yw un o fethiannau datganoli yn yr 20 mlynedd ddiwethaf. Ond yr hyn sy'n digwydd nawr, wrth gwrs, yw bod hynny'n cael ei wreiddio fel nodwedd barhaol o weledigaeth Llywodraeth Cymru hyd 2040.

Does dim digon o bwyslais ar Arfor a'r angen am dwf yn y gorllewin, fel dwi wedi'i godi'n flaenorol gyda'r Gweinidog, na chwaith ar y Cymoedd fel endid penodol sydd angen ffocws cryfach arni, yn fy marn i. A'r risg hefyd yw, wrth gwrs, y bydd yr ardaloedd twf yma, yn y pen draw, yn wynebu gorddatblygiad. Rydym ni'n ei weld e'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn barod. Pan rydych chi'n edrych ar yr ardaloedd sydd wedi eu blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol, wel, wrth gwrs fod yna risg o orddatblygiad yn fanna, tra bod yna'n fawr ddim wedyn, wrth gwrs, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygiad cynaliadwy mewn rhannau eraill o Gymru, yn enwedig pan mae'n dod, wrth gwrs, i'r angen am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.

Mae yna broblemau hefyd, wrth gwrs, ynglŷn â'r natur o'r top i lawr pan mae'n dod i'r gyfundrefn gynllunio. Fe gawsom ni'r drafodaeth hynny adeg pasio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 rai blynyddoedd yn ôl. Ond, wrth gwrs, mae hwn yn mynd â'r broblem i'r lefel nesaf drwy'r cynlluniau datblygu rhanbarthol, drwy ddibyniaeth ar y cydbwyllgorau corfforaethol yma sydd yn mynd â'r penderfyniadau allweddol yma yn bellach i ffwrdd o'r cymunedau fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau.

Felly, i gloi, gall Plaid Cymru ddim cefnogi y cynllun yma sy'n chwarae i ddwylo yr agenda unoliaethol ac i ddwylo agenda'r Ceidwadwyr yn Llundain, ac a fydd, wrth gwrs, yn gwanhau yn lle cryfhau Cymru fel endid economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, ac yn sgil hynny, rŷn ni'n teimlo'n gryf fod yn rhaid cyflwyno newidiadau sylweddol i fframwaith cynllunio cenedlaethol Cymru.