Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 25 Tachwedd 2020.
A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i'r pwyllgor newid hinsawdd a materion gwledig am eu gwaith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol? Mae gennyf rai sylwadau fy hun i'w gwneud, ac rwyf hefyd yn mynd i gyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a fu'n craffu ar agweddau perthnasol ar y fframwaith datblygu cenedlaethol a oedd yn berthnasol i'r pwyllgor hwnnw. Ond dylwn ychwanegu nad wyf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw heddiw.
Cafwyd nifer o rowndiau o ymgynghoriadau, ac yn gyffredinol rwy'n croesawu nifer o newidiadau a gwelliannau sylweddol iawn a wnaed hyd at y pwynt hwn. Mae 'fodd bynnag' mawr yn dod yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad. O ran Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, at ddibenion y fframwaith datblygu cenedlaethol, teimlem yn gryf mai'r ffordd orau o rannu Cymru yw'n bedwar rhanbarth, nid tri. Felly, roeddwn yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi nodi hynny ac wedi cyflwyno model pedwar rhanbarth. Roedd hynny'n wirioneddol gadarnhaol.
Yn ymateb y Llywodraeth i'r broses ymgynghori, sylwaf eu bod wedi gwrthod yn gryf farn y pwyllgor nad oedd uchelgais i'w weld yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwy'n credu bod hyn yn ddigalon. Credaf fod angen i ddogfen gynllunio genedlaethol allweddol fel hon osod agenda, ac mae angen iddi egluro'r llwybr y gallwn ei ddilyn i fynd i'r afael â heriau cenedlaethol fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd. Rwy'n falch hefyd o weld bod y fframwaith datblygu cenedlaethol a ddiweddarwyd yn cynnwys cyfeiriad at yr economi sylfaenol. Nid oedd drafftiau cynharach yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at yr economi sylfaenol, ac fe wnaeth dogfennau diweddarach hynny, felly newid cadarnhaol arall.
Rwy'n dod nawr at y rhan a grybwyllais—y darn 'fodd bynnag'. Rwyf fi, fel llawer o bobl ledled canolbarth Cymru, yn siomedig tu hwnt ei bod yn ymddangos bod y sylwadau o bob rhan o gefn gwlad canolbarth Cymru wedi'u hanwybyddu, ac mai mewn ymgyrch ymddangosiadol i gynyddu gwynt ar y tir yn unig y cryfhawyd yr adran ynni adnewyddadwy. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog am y protestiadau ym mis Mehefin 2011 a gynhaliwyd y tu allan i'r Senedd hon fis ar ôl i mi gael fy ethol. Daeth miloedd o bobl i brotestio, mewn dwsinau o fysiau a deithiodd o ganolbarth Cymru. Mae hyn yn arwydd fod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, o'r farn fod y niwed enfawr i'n tirweddau yn dderbyniol, ond nid yw'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol i mi ac nid yw'n dderbyniol i bobl canolbarth Cymru, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer mwy o goel ar lobïo gan ddatblygwyr ffermydd gwynt ar y tir na phoblogaeth cefn gwlad canolbarth Cymru, y bobl y maent i fod i'w cynrychioli.
Gwrandewais yn astud iawn ar sylwadau Jenny Rathbone pan soniodd am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ffordd liniaru'r M4 oherwydd ffactorau amgylcheddol. Onid yw'n ddiddorol fod hynny'n bwysig i'r Prif Weinidog mewn perthynas â'r prosiect penodol hwnnw, ond mae canolbarth Cymru'n stori wahanol? Yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, ni chaiff unrhyw dystiolaeth nac amcan na rhesymeg ei hamlinellu ynglŷn â'r ardal ddynodedig, ac nid yw tirwedd yn nwydd y gellir ei wario, a phan gaiff ei difetha, caiff ei golli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis rhoi llawer gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.
Gwn fod Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi cyflwyno sylwadau cryf yn hyn o beth. Rwy'n mynd i dynnu sylw at rai ohonynt yn yr amser sydd gennyf ar ôl, ond mae twristiaeth yn hanfodol i'r economi wledig. Ym Mhowys, dyma'r cynhyrchydd cynnyrch domestig gros uchaf ond un, ar tua 11 y cant. Ni ellir anwybyddu pwynt gwerthu unigryw'r Gymru wledig fel tirwedd wych, ac nid mater o barciau cenedlaethol neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn unig yw hyn, ond yr amrywiaeth wych o dawelwch a golygfeydd panoramig helaeth heb eu difetha. Mae'r Gymru wledig yn denu twristiaeth drwy'r flwyddyn.
Ac wrth gwrs, ceir barn negyddol am dyrbinau a llinellau trosglwyddo, sydd wedi'i dogfennu'n dda iawn. Yna ceir perygl llifogydd, sydd hefyd wedi'i nodi'n fanylach gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a maint yr hyn a gynigir, sut y byddai hynny'n newid llif dŵr ac yn arwain at ddifrod ehangach. Yna ceir cludiant tyrbinau, hefyd i ardaloedd gwledig anghysbell, ac mae hynny'n creu problemau logistaidd enfawr gyda ffyrdd cul a ffyrdd troellog serth a phontydd isel. Wedyn, wrth gwrs, ceir mater lleoliadau anghysbell sy'n galw am seilwaith trosglwyddo helaeth ar draws ardaloedd sylweddol o gefn gwlad hardd. Anwybyddir goblygiadau hyn i'r dirwedd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol.
Felly, rwy'n eich annog, Weinidog, i ystyried yn ofalus iawn eto yr hyn rwyf wedi'i amlinellu heddiw a safbwyntiau Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Mae angen inni gael mwy o bwyslais ar amrywiaeth lawer ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt ar y môr yn hynny. Ddeng mlynedd yn ôl, galwodd pobl fy etholaeth am ddileu 'Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy', a dywedodd Llywodraeth Cymru 'na'. Nawr maent yn cael gwared ar TAN 8, ond maent i bob pwrpas yn mabwysiadu rhywbeth sy'n waeth mewn perthynas â'r adran benodol hon o'r fframwaith datblygu cenedlaethol.