Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Fel Russell George, rwy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl—effaith debygol yn wir—y fframwaith datblygu cenedlaethol ar dirweddau canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n aelod brwdfrydig o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a gwelaf yn y ddogfen hon nod sylfaenol Llywodraeth Cymru, sef dinistrio tirweddau canolbarth a gorllewin Cymru er mwyn cynnal ymarfer ymffrostio mewn rhinweddau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.
Mae darnau enfawr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys wedi'u dynodi ar gyfer solar a gwynt, ac ardaloedd mawr o Sir Benfro ar gyfer ffermydd solar. Rydym newydd dreulio peth amser y prynhawn yma yn trafod effeithiau llygredd plastig. Wel, gyda phlastig gallwch o leiaf ei godi a chael ei wared, ond pan fydd bryniau Cymru wedi'u gorchuddio â ffermydd gwynt a pharciau paneli solar, byddant yno am genhedlaeth neu fwy, ac fel y mae Russell George newydd ddweud, mae canolbarth a gorllewin Cymru yn dibynnu ar ei thirwedd i greu llawer iawn o'r gweithgarwch economaidd yn y rhanbarth. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n credu ei bod yn erchyll y bydd Llywodraeth Cymru, sy'n bennaf drefol o ran ei chynrychiolaeth a'i buddiannau, yn diystyru buddiannau a barn pobl canolbarth a gorllewin Cymru.
Yr hyn rydym yn ei weld yma yw canoli cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio yn strategol. Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol a 'Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10' yn diystyru unrhyw gynllun datblygu strategol y gellid ei ddatblygu a'r cynlluniau datblygu lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi gweld hyn mewn nifer o achosion dadleuol. Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r farn leol mewn perthynas â fferm wynt yr Hendy ger Llandrindod, er enghraifft, lle gwrthododd yr awdurdod lleol y cynnig, gwrthododd yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog y cynnig ac mae'r Gweinidog newydd ei gymeradwyo serch hynny.
Bydd y datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol sydd wrth wraidd hyn oll a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn golygu na fydd y bobl leol a'u cynrychiolwyr yn yr ardaloedd hyn yn cael gwneud unrhyw benderfyniadau ar lefel leol, a byddant yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn y pen draw. Wyddoch chi, pan gyflwynwyd datganoli, roedd i fod i ddod â'r Llywodraeth yn nes at y bobl, ond nid wyf yn credu bod pobl canolbarth a gorllewin Cymru, a llai fyth o bobl gogledd Cymru, yn teimlo'n agosach at Gaerdydd nag at San Steffan. Ac felly, credaf y bydd canlyniad y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn yn tanseilio ymhellach y gefnogaeth i ddatganoli, sydd wedi bod yn gwanhau beth bynnag yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yw datblygiadau ffermydd gwynt o dros 10 MW, er enghraifft. O'i gymharu â Lloegr, mae hynny'n eithriadol o fach, oherwydd y ffigur trothwy yn Lloegr yw 50 MW. Beth y mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu bod rhagdybiaeth o blaid datblygu ar gyfer y mathau hyn o gynlluniau, a derbyn newid i'r dirwedd yn gysylltiedig â hynny. Wel, dyna ymadrodd da, onid e—'newid i'r dirwedd'. Wel, mae'n newid, onid yw, o gefn gwlad gogoneddus i ddatblygiadau tyrbinau gwynt enfawr a allai fod hyd at 250m o uchder. Ni allwch osgoi gweld y pethau hyn ac mae'n dinistrio unrhyw fwynhad o gefn gwlad yn llwyr ac rwy'n credu y bydd yn gyllell wedi'i hanelu at galon y diwydiant twristiaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Mae'n drech na phwysigrwydd tirwedd, amwynder, treftadaeth, cadwraeth natur ac yn wir, y diwydiant twristiaeth ei hun. Ac fel y mae cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, cangen rwy'n aelod ohoni, wedi nodi, mae deddfwriaeth flaenllaw ddiweddar wedi ymrwymo cyrff cyhoeddus Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, datblygu cynaliadwy a gwella ecosystemau gwydn, a hefyd i weithio tuag at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, saith ohonynt. Wel, nid yw hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa ddiwydiannol, gan gynnwys tyrbinau gwynt o hyd at 250m o uchder ar draws llawer o'r Gymru wledig, ynghyd â pholisi caniataol a fydd yn lleihau'r pwysau a roddir ar bryderon lleol, yn gydnaws ag amcanion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 na Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ei hun, na'r cynllun adfer natur yn wir.
Felly, rwy'n credu bod gennym hadau trychineb gwirioneddol enfawr yma. Ac rydym wedi gweld cam-drin difrifol ar y system yn barod. Mae yna fferm wynt arall ger Llangurig o'r enw Bryn Blaen, y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â hi rwy'n siŵr. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei chyfer yn 2016 ac nid yw wedi cynhyrchu un watt o drydan, ond mae cyfrifon U and I Group PLC, y cwmni sy'n berchen arni yn y pen draw, ar gyfer 2019 yn dangos eu bod wedi cynhyrchu gwerth £4.7 miliwn o arian—arian trethdalwyr yw hwnnw yn y bôn, arian sydd wedi mynd i'w pocedi, allan o Gymru ac i Loegr, heb greu unrhyw fudd o safbwynt achub y blaned ychwaith. Camdriniaeth bur o'r farchnad ydyw. A dyna sy'n fy mhoeni am y cyfan—