Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Yn y cyfweliad diweddar ar BBC Wales Investigates, disgrifiais yn glir pam mai ein blaenoriaeth o reidrwydd yw ymateb i'r pandemig mewn ffordd strwythuredig a phwyllog. Mae hyn yn golygu datblygu dulliau i gefnogi'r cleifion sydd â'r angen mwyaf am driniaeth wedi'i chynllunio, a nodais hefyd ein bod eisoes yn edrych ar gamau ehangach i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ffordd ymlaen wedi'i chytuno ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer trin COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol fel canser, ac yn sicr nid dyna'r 'c' a anghofiwyd yn ystod y pandemig hwn. Nodir y disgwyliadau hynny yn y fframwaith cynllunio chwarterol a drafodwyd gennym eto yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon heddiw. Mae canllawiau manwl o fewn hynny ar ganser a gwasanaethau cysylltiedig eraill, megis endosgopi. Felly, mae gan y byrddau iechyd gynlluniau ar waith i ymateb i hyn, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy wrth inni ddeall a monitro'r ddarpariaeth.
Er hynny, mae'r pandemig wedi cael effaith dorcalonnus ar wasanaethau sy'n gofalu am bobl â chanser a thriniaethau eraill sy'n effeithio ar fywyd, ac mae ein prif swyddog meddygol wedi bod yn glir iawn fod sawl ffordd y bydd y pandemig yn achosi niwed, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. A dylwn nodi sylwadau Hefin David am ei etholwr, Dawn Wilson, ar y pwynt hwn. Cyfarfûm â Dawn cyn cymeradwyo a chefnogi ymgyrch Know Your Lemons, ac rwy'n cydnabod yr effaith a gafodd, ac roedd yn weithred gwbl anhunanol ar ei rhan i dreulio gweddill ei hoes yn ymgyrchu dros eraill. Un neges allweddol yn ein cyfathrebiad cenedlaethol sydd ar y ffordd fydd parhau i amlygu ac atgyfnerthu'r angen i gleifion gysylltu â'n GIG gydag unrhyw arwyddion neu symptomau canser. Bydd hyn yn parhau yn yr ymgyrch newydd, Helpwch Ni i'ch Helpu Chi. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i gefnogi ein negeseuon, gyda fideos ffocws, gan gynnwys rhai gan ffigyrau o'r byd pêl-droed a staff go iawn y GIG.
Mae byrddau iechyd yn gorfod ymdrin â sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac nid oes atebion gweithredol na moesegol syml i hyn. Mae popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud. Mae popeth y gellir ei ddarparu yn cael ei ddarparu. Ac rydym yn dal i ddysgu ac mae angen i ni addasu wrth i'n sylfaen dystiolaeth newid, wrth i'n gwybodaeth newid. Felly, mae'r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r maes pwysig hwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chlinigwyr i nodi opsiynau ar gyfer sut y gall arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a ddaw yn sgil oedi cyn cael triniaeth, nid yn unig dros y misoedd nesaf, ond dros dymor Senedd Cymru cyfan. Ein blaenoriaeth fydd lleihau'r risg o oedi a chefnogi blaenoriaethu clinigol. Fel y nododd prif weithredwr GIG Cymru yr wythnos diwethaf, mae angen mesurau diogelwch ychwanegol i ddiogelu cleifion a staff, ac maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan fod nifer y cleifion sydd â COVID yn parhau i fod yn uchel ym mhob un o'n lleoliadau gofal iechyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae hyn yn effeithio ar y math o wasanaethau sydd ar gael i drin cleifion eraill yn ogystal â'u maint. Felly, rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau'r llif mwyaf posibl o gleifion i mewn ac allan o driniaeth. Mae hynny'n cynnwys adolygu trefniadau rhyddhau diogel o'r ysbyty a'r ffordd orau o ddefnyddio ein hystâd ysbytai a gofal sylfaenol, gan gynnwys ysbytai maes.
Rwyf am ymdrin â'r opsiwn o ysbytai gwyrdd, neu fel y dywed y cynnig—ymadrodd gwahanol—ysbytai sy'n rhydd o COVID. Mae'n swnio'n syniad deniadol, ond nid yw'n hawdd ei wneud, ac rwy'n cytuno â Dai Lloyd nad wyf yn credu ei fod yn ateb ymarferol mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae angen inni wybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar fynediad lleol at wasanaethau brys, gan gynnwys gwasanaethau mân anafiadau, amseroedd teithio a straen ar adnoddau ambiwlans yn ystod y gaeaf. Yr ysbytai sy'n rhydd o COVID, fel y'u gelwir, a gefnogir gan y Torïaid—. Ac os ydynt o ddifrif am wneud hynny, mae angen inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu: felly, pa ysbyty yng ngogledd Cymru na fyddai ag adran damweiniau ac achosion brys mwyach? Ai Llwynhelyg neu Glangwili fyddai'n colli eu hadran damweiniau ac achosion brys neu fân anafiadau, neu lawdriniaeth frys, a sut y byddai mynediad mamolaeth yn cael ei drefnu? Oherwydd ym mhob un o'r pethau hyn, nid ydynt yn gydwedd ag ysbyty sy'n rhydd o COVID. Mae arnaf ofn nad yw'r slogan 'rhydd o COVID' yn ateb difrifol ac ymarferol i GIG Cymru nawr, ac mewn gwirionedd, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghymru wedi dweud yn glir fod ganddynt ddiddordeb mewn parthau COVID-ysgafn o fewn ein hystâd fel ateb ymarferol, fel y nododd Richard Johnson yn ddiweddar. A dylwn ei gwneud yn glir wrth gwrs, mewn perthynas â sylwadau Dr Lloyd am olrhain cysylltiadau, mae profi, olrhain, diogelu yng Nghymru yn gyhoeddus ac mae'n cyflawni i safon uchel.
Mae gan ein hysbytai maes rôl i'w chwarae yn cefnogi capasiti a llif, ond nid yw'n bosibl darparu llwybrau dewisol mewn ysbyty maes. Ac rwy'n credu o bosibl nad oedd sylwadau ar y mater gan Janet Finch-Saunders yn ystyried nac yn deall yn llawn y rôl y gallant ei chwarae ac y byddant yn ei chwarae ar y cam hwn o'r pandemig. Er enghraifft, mae llawer o driniaethau'n galw am ofal ôl-lawfeddygol a chyfleusterau ychwanegol wrth gefn, gan gynnwys gofal dwys. Wrth gwrs, nid oes theatrau llawdriniaethau ar gael mewn ysbytai maes.
Mae'r GIG wedi ymateb yn wych i'r argyfwng iechyd cyhoeddus mawr a digynsail hwn. Mae ein staff wedi dangos hyblygrwydd aruthrol i ddarparu gwasanaethau, i gleifion COVID a chleifion nad ydynt yn rhai COVID. A chredaf fod ein staff GIG a'u cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yn haeddu codiad cyflog priodol i adlewyrchu hyn. Mae hynny'n golygu athrawon, cynorthwywyr addysgu, glanhawyr, cogyddion, swyddogion iechyd yr amgylchedd, a'u cydweithwyr ar draws llywodraeth leol, yr heddlu, a'r lluoedd arfog, sydd wedi helpu cymaint yn ein hymateb i COVID yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r holl weision cyhoeddus hyn, a'u cydweithwyr, yn haeddu cymaint gwell na'r gic a gawsant heddiw gan y Canghellor. Byddwn ni yma yng Nghymru yn dal ati i weithio gyda'n GIG a'u partneriaid ac yn parhau i'w gwerthfawrogi, wrth inni barhau i wynebu heriau digynsail y pandemig hwn yn y misoedd nesaf, ac yn y blynyddoedd nesaf, a'r adferiad a fydd yn digwydd pan fydd y pandemig ar ben o'r diwedd.