– Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
O'r gorau. Felly, rydym yn ailymgynnull gydag eitem 8 ar ein hagenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig: effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7489 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019.
2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.
3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.
4. Yn gresynu at y ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn rhestrau aros.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi hwb i'r defnydd o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys;
b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;
c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;
d) cyflwyno cynllun adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru;
e) gweithredu ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. I'r rheini nad ydynt yn ymwybodol o drefniadau cyflwyno Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu Senedd Cymru fel y dylwn ei galw bellach, efallai y bydd y bobl hynny'n meddwl tybed pam nad ydym wedi rhoi'r amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf yn y cynnig. Ond fel y byddai pobl sy'n gwybod am y trefniadau cyflwyno'n gwybod, mae'n rhaid iddynt fod i mewn ar y prynhawn dydd Mercher.
Felly, credaf ei bod yn werth inni ystyried yr hyn a ddywedodd y ffigurau hynny wrthym ddydd Iau diwethaf. Ac mae'r rhain yn ffigurau ledled y DU hefyd—rydym yn derbyn y pwynt fod pob GIG ledled y DU wedi gweld cynnydd enfawr yn yr amseroedd aros—ond yma, yng Nghymru, cynyddodd yr amseroedd aros 36 wythnos a mwy 597 y cant i 168,000 o bobl, a chynyddodd 26 i 36 wythnos 250 y cant, o 54,000 o bobl i 116,000. Dyna faint yr her sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru, ni waeth pa Lywodraeth a ffurfir ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n fwy na 0.5 miliwn o bobl ar restr aros yma yng Nghymru: mae 517,000 o bobl bellach ar restr aros. Ac wrth gwrs, ar gyfer triniaeth y mae hynny.
Pan edrychwch ar amseroedd aros diagnostig a therapïau hefyd, bu naid sylweddol yn yr amseroedd aros hynny, a gwelwyd cynnydd mawr o rhwng 30,000 a 35,000 o bobl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Erbyn hyn mae 143,000 o bobl yn aros am apwyntiadau diagnostig a therapi yn GIG Cymru. Ac yn ddiddorol, ar y mathau hynny o rifau, mae'r niferoedd wedi tyfu'n sylweddol ers mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni. Bu gostyngiad gwirioneddol yn rhai o'r ffigurau hynny ar ddechrau'r pandemig, gan nad oedd pobl yn symud ymlaen drwy'r gwasanaeth iechyd i gael yr apwyntiadau cychwynnol hynny.
Felly, dyna faint yr her sy'n ein hwynebu, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma, fel y gallwn, gobeithio, gael dadl, trafodaeth, ac ymdeimlad o'r hyn y mae Llywodraeth bresennol Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn. Byddai'n hawdd treulio'r holl ddadl yn sôn am niferoedd a chynnydd canrannol a mynd ar goll yn y ffigurau hynny, ond mae'n bwysig pan fyddwn yn canolbwyntio ar y niferoedd fod pob un o'r pwyntiau canran roeddwn yn sôn amdanynt yn unigolyn, unigolyn yn eistedd ar restr aros nad yw, yn anffodus, wedi llwyddo i symud ymlaen drwy'r system.
Mae'n hanfodol nad yw ein gwasanaeth iechyd yn dod yn wasanaeth COVID yn unig yn y pen draw. Rhaid iddo barhau i fod y gwasanaeth iechyd gwladol rydym yn ei drysori ac yn ei garu gymaint. Ac ar y pwynt hwn, rwy'n credu ei bod yn werth i bawb ohonom dalu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff yn ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru sydd wedi mynd y tu hwnt i alw dyletswydd drwy gydol y pandemig, ac sydd eu hunain eisiau dychwelyd at y gwaith arferol o drin pobl yn y ddisgyblaeth iechyd y maent wedi'i hyfforddi ar ei chyfer ers cyhyd, er mwyn sicrhau ymdeimlad cymunedol fod y gwasanaeth iechyd yn cyflawni ar gyfer pob dyn, dynes a phlentyn yng Nghymru, a'n bod yn gwneud cynnydd gyda'r amseroedd aros.
Byddai'n anghywir hefyd i mi beidio ag ymdrin â'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, oherwydd roeddwn wedi gobeithio y gallem fod wedi cael cefnogaeth ehangach i'r cynnig sydd ger ein bron, ond rwy'n croesawu'r pwynt na chyflwynwyd unrhyw welliannau 'dileu popeth' i'r cynnig y prynhawn yma. Ond yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, oherwydd credwn fod pwynt 1, sy'n sôn am yr amseroedd aros a'r cynnydd ddengwaith cymaint a amlygwyd gan BBC Wales, yn ffaith. Mae'n ffaith y bu cynnydd ddengwaith cymaint yn yr amseroedd aros hynny, a chredwn fod angen i hynny fod ar flaen y cynnig ac yn ganolog iddo.
Mae gwelliant 2, a gyflwynir eto yn enw Rebecca Evans, yn ceisio dileu pwynt 4, ac mae'n ffaith bod y Gweinidog iechyd, yn anffodus, wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Wel, fel rwyf wedi nodi yn yr ystadegau a gyflwynais heddiw, mae taer angen cynllun i ymdrin â'r amseroedd aros. Rwy'n derbyn y pwynt ein bod yn dal ynghanol y pandemig a bod misoedd lawer, yn anffodus—blynyddoedd efallai hyd yn oed—cyn y daw i ben, ond mae angen inni gynllunio ac mae angen inni sicrhau bod hyder gan y GIG, ynghyd â'r sector gofal, fod y canol yn cynnal y GIG mewn unrhyw ran o Gymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cychwyn eto a'n bod yn gallu dechrau mynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn.
Mae'n bwysig ein bod yn cael ysbytai COVID-ysgafn ar waith, ac mewn amgylchedd diogel, fod llawdriniaethau'n gallu mynd rhagddynt yn y pen draw o fewn GIG Cymru, a dyna pam na allwn gefnogi gwelliant 3 sy'n ceisio dileu'r pwynt hwnnw o'r cynnig y prynhawn yma.
Ac yn anad dim felly, credwn fod angen cynllun adfer canser, fel y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi'i ddarparu ar gyfer eu GIG, er mwyn cael llwybr clir i wasanaethau canser yma yng Nghymru allu symud ymlaen a dychwelyd at y trywydd iawn. Oherwydd un peth y gwyddom am ganser yw bod ymyrraeth amserol yn hollbwysig—yn hollbwysig—i sicrhau canlyniad llwyddiannus i'r claf canser, i gael y canlyniad cywir o'r driniaeth a gawsant. Mae tystiolaeth ac adroddiadau newyddion Macmillan ei hun wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y ffaith bod tua 2,900 o bobl yn cerdded o gwmpas gyda chanser heddiw am eu bod heb gael diagnosis, ac yn anffodus bydd hyd at 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol am nad ydynt wedi gallu cael y driniaeth a mynd i mewn i'r system i gael diagnosis a mynd i'r afael â'r cyflwr y gallent fod yn ei wynebu. Mae hynny ynddo'i hun yn galw am weithredu ar frys gan y Gweinidog iechyd, ac felly dyna pam na fyddwn yn cefnogi gwelliant 4 yn enw'r Llywodraeth sy'n galw am ddileu pwynt (d) ein cynnig.
Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, oherwydd credwn ei fod yn ychwanegu at y cynnig ac rydym yn croesawu'r dadansoddiad o amseroedd aros 10 mlynedd a'r gallu i ddeall yr hyn y mae angen inni ei wneud wrth symud ymlaen i wella gallu'r GIG i fynd i'r afael ag amseroedd aros fel y disgrifiais yn fy sylwadau agoriadol. Ond mae'n ymwneud â chomisiynu mwy o gapasiti; mae'n ymwneud ag edrych ar ffyrdd newydd o weithio; mae'n ymwneud â sefydlu ysbytai COVID-ysgafn; ac mae'n ymwneud â gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cymunedol, yn hytrach na symud pobl i mewn i'r sector acíwt, lle gallwn fynd i'r afael â'r mater cyn gynted ag y bo modd drwy gynyddu gwariant ar adnoddau iechyd yn y gymuned yma yng Nghymru.
Mae dadl a thrafodaeth i'w cael bob amser ynglŷn â pha arian sydd ar gael i'r GIG, a gwyddom fod symiau canlyniadol sylweddol—. Ac rwy'n derbyn bod y symiau canlyniadol hynny wedi dod, nid oherwydd ein bod yn achos arbennig a'n bod yn eu haeddu, ond oherwydd gwariant a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd wedi ysgogi fformiwla Barnett. Mae gwerth £1.6 biliwn o arian yn gorwedd yng nghyllideb Cymru eisoes, heb ei wario a heb ei ddyrannu. A heddiw, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, bydd arian ychwanegol yn cyrraedd dwylo'r Gweinidog cyllid, a fydd, gobeithio, yn cael ei drosglwyddo i'r Gweinidog iechyd, fel y gellir comisiynu a chreu capasiti ychwanegol, a bod modd cynnwys y ffyrdd newydd hyn o weithio yn y GIG i ddechrau mynd i'r afael â'r amseroedd aros ofnadwy y mae llawer o bobl ledled Cymru yn eu hwynebu—y 0.5 miliwn o bobl ledled Cymru sydd ar restr aros y GIG heddiw. Pan wneir y dyraniad hwnnw, mae'n bwysig fod digon o gymorth staff cymorth yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod y staff, ar ba lefel bynnag y maent o fewn y GIG, boed yn borthorion, yn lanhawyr neu'n feddygon ymgynghorol a niwrolegwyr, yno ac yn cael eu hystyried, oherwydd heb y staff, ni fydd gennych GIG sy'n cyflawni. A'r hyn rydym eisiau ei weld yw GIG sydd heb gael ei droi'n GIG adfer COVID yn unig ac sy'n GIG i ni i gyd, ym mha bynnag ran o Gymru rydym yn byw.
Mae'n ffaith bod arolwg staff diweddar y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi nodi bod 34 y cant o'r staff—nyrsys yn enwedig—yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Dylwn ychwanegu mai dyna oedd y ffigur uchaf o dan unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Ac roedd 75 y cant o'r staff yn credu eu bod wedi gweld cynnydd yn y lefelau straen. Felly, bydd strategaeth staff i sicrhau bod cadw staff yn ganolog i'r hyn y mae ein byrddau iechyd yn ei wneud yn hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu strwythur staffio a all ymateb i argyfwng COVID, yn ogystal ag ailagor ac ail-beiriannu gwasanaethau ar draws GIG Cymru yn ei gyfanrwydd. A chan adeiladu ar y cymorth hwnnw i staff, mae angen inni sicrhau bod gennym adnoddau profi ar waith i wneud yn siŵr, lle mae heintiau mewn ysbytai—. Yn anffodus, mae fy ardal ranbarthol i, ardal sy'n dod o dan fwrdd iechyd Cwm Taf, wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer yr achosion a ddaliodd COVID yn yr ysbyty. Mae angen mwy o egni y tu ôl i'r cyfundrefnau profi yn ein hysbytai a chyda'n lleoliadau gofal, fel y gallwn ddychwelyd at amgylchedd gweithredol yn yr ysbytai hynny ac yn y cartrefi gofal. A chyda'r profion cyflym sydd bellach ar gael, mae'n ymddangos bod hyn yn newid sylfaenol o ran beth y gallwn ei wneud. Hoffwn annog y Gweinidog i sicrhau bod y profion hynny ar gael i GIG Cymru.
Ond yn anad dim, rhaid i'r arweinyddiaeth ganolog y gall Llywodraeth Cymru ei darparu, gyda'r gwasanaeth sifil yma yng Nghaerdydd, a'r mynediad at adnoddau, gael ei sbarduno a'i pheiriannu i sicrhau bod y byrddau iechyd yn mynd ati'n weithredol i gynllunio er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu hail-beiriannu a'u hailagor. A dim ond yr adnodd canolog hwnnw—capasiti'r adnodd canolog hwnnw—fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd. Mae angen inni sicrhau bod gennym ymgyrch negeseuon iechyd cyhoeddus gref fel bod pobl yn gwybod bod y GIG yn agored ac yn barod ar eich cyfer os bydd ei angen arnoch. Oherwydd gyda'r negeseuon a'r hyn rydym wedi mynd drwyddo yn y chwech i saith mis diwethaf, mae'n ffaith bod llawer o bobl—o'i roi'n blwmp ac yn blaen—yn ofni ymgysylltu â gwasanaethau, ac ni ddylai hynny ddigwydd. Mae angen inni ailadrodd yn gyson y neges fod y GIG yno ar eich cyfer, i chi gael y diagnosis hwnnw, i gael y driniaeth honno ac yn y pen draw, i ddychwelyd at ffordd arferol o fyw. Yn anffodus, mewn perthynas â gwasanaethau canser, mae Macmillan wedi nodi, er enghraifft, na fu ymgyrch gydgysylltiedig yma yng Nghymru ar wahân i ymgyrch fer ym mis Mehefin, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae gwaith i'w wneud yn y maes penodol hwnnw. Yn anad dim, yr hyn yr hoffwn ei weld hefyd yw cynllun cyflawni ar gyfer canser wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, rhywbeth y maent wedi gwrthod ei wneud yn anffodus, yn ôl ateb ysgrifenedig ataf. Gwyddom fod y cynllun canser presennol yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr eleni, a nododd yr ateb a gefais ddoe nad oes gwaith wedi'i wneud ar fformat ei gynllun olynol o hyd.
Felly, pan fyddwn yn ystyried datblygu model mwy canolog yn y pen draw i gynorthwyo'r GIG yma yng Nghymru i gyflawni ar amseroedd aros, darparu cymorth i staff cymorth, darparu adnoddau, a'n bod yn edrych wedyn ar un rhan allweddol o'r gwasanaeth iechyd—yr adrannau canser yn ein hysbytai—bydd eu cynllun cyflawni eu hunain yn dod i ben ym mis Rhagfyr, ac nid oes cynllun olynol ar waith ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i'r Llywodraeth ysgwyddo ei chyfrifoldeb, oherwydd, fel y dywedais, o ran gwasanaethau canser, gwyddom fod amser yn allweddol. A dyna pam rwy'n galw am gefnogaeth y prynhawn yma i'r cynnig fel y'i cyflwynwyd. Mae'n ffaith bod pob rhan o'r GIG, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn wynebu amseroedd aros hir. Nid ydym yn anghytuno â hynny, ac nid ydym yn beio'r Llywodraeth am eiliad am atal y gwasanaethau hynny yn ôl ym mis Mawrth. Ond mae ailweithredu'r gwasanaethau hynny wedi bod yn arafach yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a'r arafwch hwnnw sydd wedi gwaethygu'r amseroedd aros a amlygwyd y glir gan y niferoedd y soniais amdanynt ar ddechrau'r ddadl hon—yn gyntaf oll yr wythnos diwethaf, pan gawsant eu cyhoeddi gyntaf, ac eto drwy eu hailadrodd yma yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd, heb ei ddiwygio, fel ei fod mor gryf ag y gall fod ac yn y pen draw yn crisialu difrifoldeb yr her sy'n ein hwynebu. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol chwe gwelliant i'r cynnig. A gaf fi alw ar Vaughan Gething i gynnig gwelliannau 1 i 5, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.
Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.
Gwelliant 4—Rebecca Evans
Dileu is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le:
parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym.
Cynigiwyd yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Rhun.
Gwelliant 6—Siân Gwenllian
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'cynnal adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros;
ystyried defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif drwy'r system.'
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r cynnig yma. Mae o'n gynnig rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn cyd-fynd â fo yn gyffredinol. Dwi'n anghytuno efo'r geiriad mewn ambell i le—ardaloedd COVID-lite, er enghraifft, yn hytrach na COVID-free y mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn galw amdanyn nhw, sy'n fater eithaf pwysig. Ond, rydyn ni'n sicr yn cytuno efo'r bwriad yn y cynnig yma yn gyffredinol. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol er mwyn caniatáu pleidlais ar ein gwelliant ninnau.
Ymhell cyn y pandemig, roeddem ni'n poeni am restrau aros hir. Fel llefarydd iechyd, mae o wedi bod yn un o destunau trafod mwyaf y blynyddoedd diwethaf. Fel cynrychiolydd etholaeth, dwi'n gwybod am wn i ddim faint o etholwyr sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw aros ymhell dros flwyddyn am driniaeth frys, hyd yn oed. Mi fydd o'n brofiad sy'n gyffredin i bawb ohonom ni yn y Senedd yma, dwi'n siŵr.
Mae'r effaith ar gleifion yn fawr—nid yn unig yr effaith uniongyrchol o orfod byw efo salwch, yn aml iawn mewn poen, neu'n anghyfforddus, â'r pryder bod yr amser hir heb driniaeth yn creu difrod mwy, gan wneud y driniaeth yn y pen draw yn debyg o fod yn llai llwyddiannus—ond hefyd achos bod yr aros ei hun yn arwain at broblemau eraill. Mi gawsom ni adroddiad gwerthfawr gan y cynghorau iechyd yn ôl yn 2018, 'Ein bywydau ar stop', yn edrych ar effaith amseroedd aros ar ansawdd bywydau cleifion. Mae teitl yr adroddiad yn dweud y cyfan, mewn difrif. Rydyn ni'n sôn am effaith yr aros, nid yn unig ar iechyd corfforol, ond ar iechyd meddwl, ar unigrwydd, ar symudedd, y teimlad o golli urddas, yr effaith ar fywyd teulu, lle mae pobl hŷn a chyfrifoldebau gofal plant, er enghraifft, ac yn methu â gwneud hynny.
Yn hynny o beth, dwi'n meddwl bod y Llywodraeth braidd yn annidwyll yn eu gwelliannau nhw. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod bod rhestrau aros yng Nghymru yn llawer rhy hir cyn yr argyfwng yma. Mae angen iddyn nhw beidio, mewn unrhyw ffordd, drio osgoi'r realiti bod perfformiad yn erbyn y mesurau am amseroedd aros wedi bod yn broblem ers amser maith. Ond, mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu pethau. I lawer o bobl a oedd wedi bod yn aros yn barod cyn dechrau'r flwyddyn gythryblus yma, mi ddaeth pethau i stop. Pan wnaeth rhai triniaethau elective ailddechrau, mi glywsom bryderon bod yna anghysondeb ar draws Cymru yn nhermau mynediad at wasanaethau llawfeddygol.
Ond, cofiwch nad dim ond aros am driniaethau am salwch neu anhwylder sydd wedi cael ei adnabod yn barod ydy'r broblem. Rydyn ni hefyd, yn allweddol, wedi gweld oedi mawr—ac atal yn llwyr ar adegau—yn y gwasanaeth diagnosis, sydd mor, mor bwysig. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi dewis peidio â chwilio am gymorth meddygol oherwydd nerfusrwydd am ddal y feirws, neu am nad ydyn nhw eisiau bod yn fwrn ar y gwasanaeth iechyd mewn amser o argyfwng.
Y canlyniad? Rydyn ni wedi clywed mudiadau canser fel Macmillan yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n meddwl y gallai fod yn agos at 3,000 o bobl yng Nghymru yn debyg o fod yn byw efo canser heb ddiagnosis oherwydd effaith y coronafeirws. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut i ddelio efo'r backlog yn y system, a delio efo'r ffaith bod llawer o bobl yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu hanghofio. Mae o'n bwysig nid yn unig er mwyn y cleifion, ond er mwyn ein staff ymroddedig, yr ydym ni'n cael cyfle unwaith eto heddiw i ddiolch iddyn nhw.
Mae angen safleoedd COVID-lite pwrpasol ar frys, efo profion rheolaidd ar staff a chleifion a stoc ddigonol o PPE i gadw capasiti elective i fynd drwy'r misoedd tyngedfennol nesaf. Eto, dwi'n defnyddio'r term 'COVID-lite' yn hytrach na 'rhydd o COVID', fel mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ei ddweud, achos mewn difri does dim modd rhoi gwarant y gallwch chi gael gwared ar y feirws yn gyfan gwbl. Mae profion aml yn hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau llawfeddygol dewisol, cynllunio'r gweithlu, a diogelu safleoedd COVID-lite. Rhaid i staff gael eu profi'n rheolaidd hyd yn oed pan fyddan nhw'n asymptomatic.
Rydyn ni wedi cyflwyno ein gwelliant ni mewn ysbryd o symud ymlaen, ac o basio hwnnw mi fyddwn ni, fel dwi wedi awgrymu, yn cefnogi'r cynnig ei hun. Rydyn ni yn meddwl bod angen adolygu'r targedau—
Ymddengys ein bod wedi colli Rhun. Nid ydym wedi cael yr Aelod yn ôl, a chan ei fod yn brin o amser beth bynnag, rwy'n meddwl y dof â'i gasgliadau i ben ar ei ran a galw ar Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth ddechrau'r ddadl hon, hoffwn gofnodi eto'n bersonol, ac ar ein rhan ni fel Ceidwadwyr Cymreig, y diolch enfawr i holl staff y sector gofal iechyd am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad y maent yn parhau i'w dangos i gleifion Cymru. Nawr, gadewch inni fod yn onest, ni wnaeth y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddechrau'r pandemig ar y droed flaen. Ni chyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed. Nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers 10 mlynedd. Roedd gan 42 y cant o bobl yng Nghymru angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, ac roedd gan Betsi Cadwaladr, fy mwrdd iechyd fy hun, amseroedd aros erchyll ym mis Chwefror: 508 o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth clustiau, trwyn a gwddw, 903 ar gyfer wroleg, a 3,192 ar gyfer triniaeth trawma ac orthopedeg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn hollol gywir, unigolion yw'r rhain. Mae eu bywydau'n cael eu effeithio'n ddyddiol. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion diflino ein gweithwyr rheng flaen, mae effaith y pandemig ar yr unigolion hyn yn ddinistriol. Mae amseroedd aros i'r rhai sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu wyth gwaith; mae 168,944 o bobl wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Yn wir, roedd cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd Medi 2020 dros 0.5 miliwn.
Nawr, fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi ysgrifennu ato droeon gydag etholwyr y cofnodwyd eu bod bellach wedi aros blynyddoedd am lawdriniaeth orthopedig, a rhaid inni nodi adroddiad BBC Wales, sy'n dangos cynnydd ddengwaith cymaint yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth o unrhyw fath yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019. Nawr, nid canfyddiadau newydd yw'r rhain, ac nid ydym yn diystyru effaith COVID-19, ond mewn gwirionedd, cafwyd rhybuddion ynglŷn ag ôl-groniadau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i strôc yn ystod yr epidemig ffliw yn y DU yn 2009. Felly, mae perygl y bydd y pwyslais amlwg ar gleifion COVID yn arwain at oedi triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd eraill os na chaniateir i gleifion droi at ofal sylfaenol. Tynnodd Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sylw at bryderon difrifol fod pobl â chlefyd cronig yr ysgyfaint mewn mwy o berygl o waethygiad y gellid ei atal yn eu hiechyd.
Nododd Sefydliad Prydeinig y Galon y gallai'r gostyngiad o 20 y cant yn nifer y bobl a welir mewn ysbytai ledled Cymru yr amheuir eu bod wedi cael trawiad ar y galon ers y cyfyngiadau symud egluro'n rhannol y cynnydd yn nifer y marwolaethau na ellir eu priodoli i COVID-19 ar hyn o bryd. Nawr, er fy mod yn cytuno bod llawer o driniaethau wedi'u cau ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, yn amlwg, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, mae angen gweithredu ar frys yn awr i ailddechrau rhai o'r gwasanaethau hyn. Yn wahanol i'r Gweinidog, credaf y byddai'n synhwyrol rhoi cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Dylech roi hwb ar unwaith i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID. Fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys ledled y DU, gallai sefydlu ardaloedd ysbytai sy'n rhydd o COVID-19 atal 6,000 o farwolaethau diangen yn gysylltiedig â COVID-19—hyn ar ôl llawdriniaeth canser—dros y flwyddyn nesaf.
Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd GIG Lloegr drydydd cam ei ymateb i COVID-19, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar y capasiti sydd ar gael i sicrhau bod lefelau agos i'r arfer o wasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID yn dychwelyd. Ond o'i gymharu â hyn, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd gweithredu'n gyflym. Felly, erbyn 28 Awst, nid oedd gwelyau cyffredinol ac acíwt ar gael mewn ysbytai maes. Roedd hyn yn wir am bron i ddau fis tan 15 Hydref, pan ddaeth 115 o welyau ar gael. Mae hynny'n llai na hanner y capasiti a welwyd ar anterth y pandemig. Mae'r methiant hwnnw i beidio â defnyddio capasiti ysbytai annibynnol a maes yn gyson, cyn yr ail don, wedi rhoi pwysau ar ein hysbytai presennol yn ystod yr ail don. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon yn glir wrth inni ystyried y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru. Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau adfer canser ar waith ers sawl mis, ond nid yma. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau am gynllun ac ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser a bod angen iddynt fynd i'r ysbyty yn gwneud hynny. Argymhellodd hyd yn oed Cymorth Canser Macmillan y mis diwethaf fod yn rhaid i chi ymrwymo i gynllun clir ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu capasiti ymchwydd.
Hoffwn gloi drwy nodi bod y camau brys rydym yn gofyn amdanynt yn rhai ymarferol. Gwrthwynebiad adeiladol yw hwn. Caiff ei gefnogi gan sefydliadau iechyd, a gallwn roi hwb ymarferol hefyd i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID ledled Cymru drwy sicrhau bod gan fyrddau iechyd bolisïau clir ar fynd i'r afael â gofynion profi a'u hamlder ar gyfer staff a chleifion; cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol a chyflenwadau llawfeddygol digonol a pholisïau clir ar ba bryd a sut i'w defnyddio; cydgysylltu lleol i sicrhau bod llwybrau gofal cleifion yn cael eu rheoli'n briodol; defnyddio ysbytai y sector annibynnol i hybu capasiti; ac ysbytai Nightingale i barhau'n weithredol. Os gwelwch yn dda, Weinidog, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ym mhob man yn awr i ymdrin â'r sefyllfa sy'n ein hwynebu gyda COVID, ond gadewch i driniaethau arferol ysbytai y mae'r cyhoedd yng Nghymru eu hangen barhau a gadewch iddynt gael triniaethau mawr eu hangen. Diolch.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol a difrifol y mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Pan gaiff dadl ei chyflwyno yn y ffordd hon, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau fod hynny'n rhoi pwysau ar Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth i gyfiawnhau pam y byddent yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Ac mae cymaint â hynny'n bwysicach ein bod yn cyflwyno dadl gref pan gynhelir dadl yn y ffordd hon, ac mae'n ffordd dda o graffu.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wraidd y ddadl hon mae angen i reoli'r feirws ac atal lledaeniad y feirws i leoliadau ysbytai, a dyna wrth gwrs oedd diben y cyngor SAGE a roddwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig cyn cyfyngiadau'r cyfnod atal byr a ddigwyddodd ddechrau mis Tachwedd. O edrych ar bwynt Rhif 4 yn y cynnig, sy'n sôn am ateb clir a gonest iawn y Gweinidog iechyd am y broblem sy'n wynebu rhestrau aros o ganlyniad i COVID, diben y cyngor hwnnw gan SAGE i gyflwyno cyfyngiadau cyfnod atal byr oedd mynd i'r afael â'r union broblem honno. A chredaf y byddai'r Ceidwadwyr yn cydnabod bellach wrth edrych yn ôl eu bod wedi gwneud camgymeriad yn peidio â chefnogi'r cyfnod atal byr ar y pryd, oherwydd, fel y gwelsom yn Lloegr, cyflwynwyd cyfyngiadau symud hirach a llymach er mwyn mynd i'r afael â'r broblem honno. A dyna sydd wrth wraidd y ddadl hon—cymryd y mesurau a chymryd y strategaethau a fydd yn caniatáu i'r feirws gael ei reoli. Ac mae'n ddrwg gennyf ddweud wrth Andrew R.T. Davies, pe caniateid i mi adael i chi ymyrryd, fe fyddwn yn gwneud hynny—fe wyddoch y byddwn—ond nid yw'r rheolau'n caniatáu hynny ar hyn o bryd.
Felly, wrth edrych ar y sefyllfa, beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud? Wel, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd am y llwybr canser sengl a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2018. A'r hyn y mae'n ei wneud yw sicrhau bod pob claf, ni waeth beth fo graddau'r amheuaeth, pob claf sy'n cael eu gweld fel achosion canser posibl, yn cael eu trin ar lwybr canser sengl. Felly, fel y dywedodd y Gweinidog iechyd yn ei ddatganiad, mae
'yn ffordd lawer cywirach o fesur yr amser y mae cleifion yn aros i gael triniaeth yn ein system iechyd.'
Ond un o'r pethau a ddywedodd yn ei ddatganiad oedd,
'Bydd y Llwybr Canser Sengl yn ein galluogi i fynd i’r afael ag amrywiadau, a gwella canlyniadau a phrofiad y claf.'
Rwy'n credu mai dyletswydd y Gweinidog iechyd nawr yw ymhelaethu ar hynny a rhoi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y mae'r pethau hynny'n cael eu cyflawni, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol yr hoffwn i'r Gweinidog iechyd fynd i'r afael ag ef.
Ac o ran cymorth a thriniaeth canser, rhaid i mi ddweud, yn 2016, pan gefais fy ethol gyntaf, cyfarfûm â phrif weithredwr bwrdd iechyd Aneurin Bevan, a'i huchelgais oedd cyflwyno canolfan ragoriaeth canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr. Rwy'n falch iawn o ddweud bellach y byddwn yn gweld honno'n agor y flwyddyn nesaf, a bydd honno ynddi'i hun—y ganolfan ragoriaeth—yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau'r canlyniadau clinigol gorau, yn cynnwys triniaeth ddiagnostig bwrpasol ac ystafelloedd cwnsela a fydd yn gwneud diagnosis cyflymach yn bosibl. Ac yn wir, mae'r achos busnes a gyflwynwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dweud y bydd y ganolfan newydd yn cynyddu'r ystod o lawdriniaeth y fron y gellir ei chyflawni fel achosion dydd o 30 y cant i 70 y cant. Mae hynny'n digwydd yn Ysbyty Ystrad Fawr—maent yn gorfod ymestyn yr ysbyty i'w wneud. Dyna gyllid Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cleifion sydd â chanser y fron. Ac rwy'n meddwl, felly, yr hoffwn gyflwyno fy nghyfraniad heddiw i etholwr, Dawn Wilson.
Roedd Dawn Wilson yn byw yn Ystrad Mynach a chafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2017. Bu farw Dawn ar ddechrau Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ar 1 Hydref eleni, a threuliodd y blynyddoedd ers iddi gael y diagnosis terfynol yn ymgyrchu dros eraill i'w hatal rhag gorfod wynebu'r sefyllfa roedd hi ynddi. I gefnogi'r ymgyrch, rwy'n gwisgo fy nhei binc heddiw. Fe gymerodd yr ymgyrch Know Your Lemons, a ddeilliodd o waith Corrine Beaumont yn America—cymerodd yr ymgyrch honno fel ymgyrch godi ymwybyddiaeth a'i chyflwyno i Gymru. Y syniad yw bod yna boster gyda chyfres o lemonau a gallwch edrych ar y lemonau ac maent yn dangos y math o ganser y fron y gellid gwneud diagnosis ohono o edrych ar siâp y lemwn. Ac mae'n ganllaw gweledol clir iawn. Llwyddodd Dawn i gael GIG Cymru i fabwysiadu hynny. Ymgyrch Dawn ym mlynyddoedd olaf ei bywyd a lwyddodd i gael GIG Cymru i fabwysiadu'r ymgyrch honno, a lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch oherwydd Dawn Wilson. Felly, i gloi fy sylwadau, hoffwn inni gydnabod y cyfraniad a wnaeth, ei chyfraniad anhunanol ym mlynyddoedd olaf ei bywyd. Cyfarfûm â hi yma yn y Senedd ddwy flynedd yn ôl, ac euthum i'w thŷ yn Ystrad Mynach i siarad â hi am yr ymgyrch. Felly, mae'n bleser cyflwyno'r cyfraniad hwn iddi hi heddiw.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at lawer o bethau am ein GIG—gwydnwch ein staff, eu hymrwymiad i gleifion yn yr oriau ychwanegol niferus y maent wedi gweithio, a'r hyblygrwydd y mae cynifer o staff wedi'i ddangos i helpu i roi'r ymateb i'r pandemig ar waith. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at rai o'r gwendidau mewn system sydd wedi bod yn gwegian ers peth amser. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders fod rhestrau aros ar gynnydd cyn i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddechrau, a gwyddom fod yr ôl-groniad mor fawr erbyn hyn fel y bydd angen gweithredu am flynyddoedd i'w gael yn ôl i'r hyn ydyw'n arferol. Yn wir, cyfaddefodd prif weithredwr GIG Cymru y pwynt hwnnw yr wythnos diwethaf.
Wrth i ni nesáu at y gaeaf, rwy'n pryderu y bydd rhestrau aros yn tyfu'n hirach, fel y maent bob amser yn ei wneud ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig wrth i'r GIG ganolbwyntio ar bwysau COVID-19 a phwysau'r gaeaf. Mae hyn ar ei fwyaf amlwg yn fy ardal i yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd angen i'r bobl wybod nawr pryd y gallant ddisgwyl triniaeth nid yn unig ar gyfer materion arferol ond mynediad at driniaethau sy'n achub bywydau hefyd. Ym mis Medi eleni, roedd 26,974 o bobl yn aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau eu triniaeth yn ne-ddwyrain Cymru, pan fo'r targed yn sero, o'i gymharu â dim ond 1,313 flwyddyn yn ôl. Mae'n amlwg yn gynnydd aruthrol. Amlinellodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn eu tystiolaeth ddiweddar i'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fod ôl-groniad sylweddol o lawdriniaethau dewisol yn bodoli yng Nghymru cyn y pandemig COVID-19, ac y byddai wedi cynyddu'n anochel. Ym mis Ionawr 2020, dangosodd yr ystadegau diwethaf ar amseroedd aros cyn y pandemig fod bron i hanner miliwn o bobl yn aros i ddechrau triniaeth, gyda 76,862 yn aros mwy na 26 wythnos. Y perygl yw y bydd angen llawdriniaethau cymhleth ar lawer o gleifion os nad yw eu triniaeth yn digwydd yn amserol, gan arwain yn rhy aml, fel y gwyddom, at symptomau sy'n gwaethygu a dirywiad yn eu cyflwr.
Ddirprwy Lywydd, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu'r gwaith o adeiladu ac agoriad ysbyty newydd yn ddiweddar, Ysbyty Prifysgol Grange yng Nghwmbrân. Dylem i gyd fod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio'r modd y darperir gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion cleifion yn well, gyda chyfleusterau newydd, ffocws ar fodelau gofal arloesol a'r diweddaraf mewn technoleg ac offer. Mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn cael ei ddatblygu bellach ers ymhell dros 10 mlynedd—cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn rwy'n credu, cofiaf gymryd rhan yng nghyfarfodydd dyfodol clinigol Gwent ar y pryd—ac o'r diwedd mae gennym y cyfleuster rhagorol hwn. Ond os yw cyfleusterau newydd yn mynd i fod yn effeithiol, rhaid iddynt gael adnoddau priodol gyda'r lefel gywir o staff. Mae angen osgoi unrhyw risg o brinder, ac mae angen i bobl wybod bod modd cyrraedd yr ysbyty mewn car ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae'r materion hyn wedi'u dwyn i fy sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf. Y broblem yw, mae croesawu capasiti newydd yn ddigwyddiad rhy anghyffredin, ac mae'r gwrthwyneb yn wir am broblem amseroedd aros a rhestrau aros cynyddol—nid ydynt yn anghyffredin, ac maent yn rhywbeth y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn y gorffennol.
Yn yr ail Gynulliad, cyflwynodd y Gweinidog iechyd ar y pryd gynllun yr ail gynnig i leihau'r rhestrau aros a'r amseroedd aros drwy gynnig triniaeth mewn mannau eraill yn y GIG a thu allan i Gymru yn y sector annibynnol. Bryd hynny, cafodd llawer o bobl eu trin yn gyflymach. Yn wir, rhwng mis Ebrill a mis Medi 2005, cynigiwyd ysbytai amgen yn y sector preifat i gyfanswm o 495 o bobl o Went gael eu llawdriniaethau. A bod yn deg â'r Llywodraeth ar y pryd, dangosodd barodrwydd i edrych y tu hwnt i safbwyntiau gwleidyddol cul ynglŷn â thrin pobl y tu allan i Gymru a thu allan i'r GIG, a sicrhau ateb ymarferol i gleifion bryd hynny. Yng ngoleuni'r ffaith bod capasiti theatr ledled Cymru heb fod cystal ag y gallai fod ers peth amser, a yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio'r opsiwn o gynyddu capasiti tymor byr, gan weithio efallai gyda darparwyr y tu allan i Gymru a allai fod â chapasiti i fynd i'r afael â hyn?
Er y bydd holl gyrff y GIG ledled y DU yn rheoli'r ymateb i'r pandemig, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog nodi a oes capasiti'n bodoli mewn mannau eraill ac os yw'n bosibl, i gwmpasu rhyw fath o gynllun ail gynnig efallai—cam 2, os hoffech—i fynd i'r afael â'r argyfwng pwysig hwn. Os na, beth arall y gellir ei wneud i archwilio'r gallu i gynyddu'r capasiti ymchwydd blaenorol a gyflwynwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU i ddiogelu'r GIG rhag ofn y bydd niferoedd COVID-19 yn dechrau tanseilio capasiti'r GIG o ddifrif? Mae angen capasiti ychwanegol nawr i fynd i'r afael â chanlyniadau'r pandemig i filoedd o bobl y mae eu hangen am ofal y GIG yr un mor bwysig ag y bu yn y gorffennol.
Mae'r pandemig COVID wedi effeithio'n gwbl drychinebus ar lawer iawn o bobl. Collwyd bywydau o COVID ac am resymau heb gysylltiad â COVID, ac mae bywydau eraill wedi cael eu newid am byth, wedi'u cyffwrdd gan alar, colled a thrychineb. Mae eraill yn parhau i ddioddef effaith wanychol COVID hir, ac mae hyn i gyd yn berthnasol i gleifion a phobl ym mhobman, ond hefyd i staff y GIG a staff gofal. Mae rhai staff wedi colli eu bywydau drwy fynd i'r gwaith.
Mae'r cynnig yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd, ond weithiau, mae'r geiriau hyn yn llithro allan heb oedi. Realiti COVID: yr arswyd ar y wardiau yn y dyddiau cynnar heb gyfarpar diogelu personol digonol a phrofion annigonol a pheidio â gwybod, wardiau'n llawn ofn, staff yn teimlo'n agored i niwed ac mewn perygl. Gwelsom wasanaeth iechyd a oedd eisoes dan bwysau yn mynd y tu hwnt i ddyletswydd, gweithlu blinedig yn ceisio dal i fyny gyda galw rheolaidd yn ystod misoedd tawel yr haf fel y'u gelwir, cyn cael eu hymestyn eto nawr wrth i nifer yr achosion godi, wrth i ddefnydd gwelyau mewn ysbytai godi ac wrth i welyau mewn unedau gofal dwys lenwi eto. Y tro hwn, ymdrinnir ag achosion COVID ac achosion nad ydynt yn rhai COVID, ond nid yw'r capasiti yno. Mae trosglwyddiad feirysol asymptomatig yn golygu ymdrechu i gael wardiau sy'n rhydd o COVID, ond mae wardiau sy'n rhydd o COVID yn her enfawr ac mae'n debyg na ellir cyflawni hynny ar hyn o bryd. COVID-ysgafn yw'r gorau y gellir ei gael. Oherwydd yr angen i newid yr holl gyfarpar diogelu personol drwy'r amser, rhwng pob claf, mae'r ergyd i lif cleifion wedi bod yn enfawr.
Felly, mae yna restr hir o bethau i'w gwneud, ac mae'r gwahanol golegau brenhinol yn dweud wrthym beth i'w wneud. Mae 'n dal i fod angen i ni gael rheolaeth ar COVID, ac mae gan lawer o feddygon bryderon enfawr o hyd am wasanaeth profi ac olrhain a breifateiddiwyd Llywodraeth y DU, gyda rhai meddygon yn ei alw'n gamgymeriad angheuol. Creu system brofi ac olrhain o'r dechrau gan ddefnyddio cwmnïau preifat, heb fod unrhyw brofiad ym maes iechyd y cyhoedd gan yr un ohonynt, ynghanol pandemig, ar wahân i system brofi ac olrhain iechyd y cyhoedd y GIG a oedd yn bodoli eisoes—hynny yw, beth allai fynd o'i le?
Mae system gysylltu hynod effeithlon yn hanfodol, ac mae ynysu â chymorth yn allweddol. Talu £800 i bobl hunanynysu, cysylltu â phobl sy'n hunanynysu yn rheolaidd bob dydd, trefnu llety mewn gwesty lle bo'n briodol—mae'n gweithio mewn gwledydd eraill. Rhaid cefnogi a galluogi'r hunanynysu er lles pob un ohonom. Mae profion ac olrhain cysylltiadau iechyd y cyhoedd a GIG lleol yn gweithio'n hynod o dda. Mae angen inni ymdrechu nid yn unig i wneud hynny, a diddymu system breifat y DU sydd wedi'i llesteirio gan oedi, camgymeriadau a methiant, gan arwain at olrhain oddeutu 20 i 30 y cant yn unig o bobl sy'n gysylltiadau, pobl a ddylai fod yn hunanynysu, hunanynysu go iawn. Mae'r gweddill yn lledaenu'r feirws o gwmpas heb wybod. Mae angen i ni ailgyfeirio adnoddau i iechyd y cyhoedd y GIG a meddygon teulu, gan brofi ac olrhain cysylltiadau fel rydym bob amser wedi'i wneud ar gyfer unrhyw glefyd heintus hysbysadwy arall dros y blynyddoedd—TB, malaria, salmonela, y frech goch ac yn y blaen ac yn y blaen. Cynnwys meddygon teulu yn y drefn brofi ac olrhain, cyflenwi ocsifesuryddion pwls i bobl a gofal sylfaenol. Gellir mynd i'r afael â COVID yn y gymuned yn ddiogel y tu allan i ysbytai, mae profi ac olrhain yma ar gyfer y tymor hir, felly gadewch i ni gynllunio'n iawn ar gyfer y tymor hir.
Yn olaf, mae effaith drychinebus COVID yn gyffredin i'r holl wasanaethau iechyd. Gwyddom am yr amseroedd aros hirach yma yng Nghymru. Dros y ffin, nid yw'r sefyllfa yn Lloegr dan arweiniad y Ceidwadwyr yn well—mae'n waeth, os rhywbeth. Cyrhaeddodd nifer y bobl yn Lloegr a oedd yn aros mwy na 52 wythnos am driniaeth ddewisol 139,545 ym mis Medi 2020. Nid yw hynny'n 10 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, nid yw'n 20 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, nid yw'n 50 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, mae'n 107 gwaith yn fwy na'r nifer ym mis Medi 2019.
Mae brechlynnau'n ddarganfyddiad gwych, yn newid pethau'n llwyr, ond nid yw hynny'n digwydd eto. Mae gennym dymor salwch y gaeaf o hyd a phandemig COVID rhemp i fynd i'r afael ag ef yn gyntaf, gyda staff blinedig o dan bwysau ym mhobman. Gallwn i gyd wneud ein rhan. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi trefn ar brofi ac olrhain cysylltiadau nawr, a chael hunanynysu â chymorth yn weithredol cyn gynted â phosibl.
Er fy mod yn derbyn nifer fawr o negeseuon e-bost ynglŷn ag oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru, mae pob un ohonynt yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn disgrifio'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019 fel tuedd a welwyd ym mhob rhan o'r DU. Mae hyn yn wir wrth gwrs ac yn anochel. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwaith gwych a wnaethpwyd gan GIG Cymru yn gofalu am bobl sydd wedi dal COVID-19, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at broblemau yn ein GIG yng Nghymru o ganlyniad i dros ddau ddegawd o bolisïau Llafur Llywodraeth Cymru.
Roedd niwroleg eisoes yn cael ei danariannu'n helaeth yng Nghymru cyn y pandemig, gyda bylchau mawr yn y gwasanaethau a ddarperir yn arwain at oedi o fisoedd, a blynyddoedd weithiau cyn cael diagnosis, diffyg gofal dilynol a chymorth cymunedol, yn ogystal â lefelau isel o fynediad at ofal arbenigol a gofal diwedd oes. O ran mynediad at wasanaethau a thriniaethau, dangosodd arolwg gan y Gymdeithas MS yn 2019 fod Cymru eisoes ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU cyn y pandemig, gyda 42 y cant o bobl yng Nghymru ag angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, a bod 70 y cant o'r bobl yng Nghymru sy'n byw gydag MS heb gael unrhyw gymorth emosiynol na seicolegol , o'i gymharu â 13 y cant ledled y DU. Datgelodd arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru ar effaith y pandemig coronafeirws fod iddo oblygiadau mawr o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, gyda gwasanaethau a thriniaethau wedi eu gohirio neu eu hatal. Ar ôl i mi ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn pryd y bydd llawdriniaethau hanfodol yn ailddechrau ar gyfer plant neu oedolion ag epilepsi sy'n agored iawn i niwed, ysgrifennodd i ddweud nad yw llawdriniaethau epilepsi wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae ystadegau episodau ysbyty yn dangos niferoedd llawer is ac amseroedd aros hwy ar gyfer llawdriniaethau a llawfeddygaeth i ysgogi'r nerf fagws yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Dywedwyd wrthyf na fu unrhyw feddygfeydd ysgogi'r nerf fagws i oedolion, naill ai mewnblaniadau newydd neu ailosod batri, ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth, gan arwain at amddifadu pobl o'r llawdriniaeth a'r therapi hanfodol sydd eu hangen arnynt.
Ym mis Awst, cyfarfûm ag ymgyrchwyr Cymorth Canser Macmillan ar-lein i drafod eu profiad o'r effaith ofidus y mae'r pandemig coronafeirws yn ei chael ar wasanaethau canser yng Nghymru. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi nodi y bydd ôl-groniad Lloegr o gleifion canser yn cymryd llai o amser i fynd drwyddo nag yng Nghymru, lle roedd yr amser aros canolrifol i gleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ddiwedd mis Medi yn Lloegr yn llai na hanner yr hyn ydoedd yng Nghymru. Erbyn 29 Ebrill, sefydlwyd 21 o hybiau canser rhydd o COVID yn Lloegr, sy'n cael eu rhedeg gan gynghreiriau canser. Mae GIG yr Alban a GIG Gogledd Iwerddon hefyd wedi defnyddio capasiti ysbytai annibynnol i sefydlu hybiau canser rhydd o COVID. Fodd bynnag, fel y dywedodd Cymorth Canser Macmillan, mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr mewn perthynas â sefydlu hybiau rhydd o COVID-19 i drin cleifion canser yng Nghymru.
Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau ar waith ers sawl mis i sicrhau bod cleifion canser yn cael eu gweld ac yn cael llawdriniaeth yn gyflym. Fodd bynnag, fel y dywedodd Cymorth Canser Macmillan, mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cynllun adfer COVID-19 llawn ar gyfer gwasanaethau canser a mynd i'r afael ag ôl-groniad gofal canser na fydd ond yn parhau i dyfu bob tro y bydd tarfu ar wasanaethau canser yng Nghymru yn sgil y pandemig hwn. Mae eu hymchwil yn dangos y gallai tua 2,900 o bobl yng Nghymru fod yn byw gyda chanser heb gael diagnosis oherwydd y pandemig. Fel y dywedasant, mae'n gwbl amhriodol i Lywodraeth Cymru awgrymu y byddai cynllun ar gyfer clirio'r ôl-groniad canser sydd eisoes yn sylweddol yn 'ffôl'. Ni all canser aros i'r pandemig ddod i ben, meddant, ac mae Macmillan am sicrhau nad canser yw'r 'c' a anghofiwyd yn sgil y pandemig.
Mae Ymchwil Canser Cymru wedi rhybuddio y gallai fod canser ar lawer o'r bobl na chafodd wahoddiad oherwydd yr oedi i wasanaethau sgrinio am ganser, pobl sy'n gohirio gweld eu meddyg teulu oherwydd eu bod ofn COVID-19 neu bobl sy'n pryderu ynglŷn ag ychwanegu at bwysau'r GIG. Oni chaiff hyn sylw'n gyflym, roeddent yn dweud y bydd y canlyniadau i gleifion yng Nghymru yn llai cadarnhaol, fod gan Gymru enw gwael eisoes mewn perthynas â chanlyniadau canser ac y bydd yn cael ei niweidio'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, ac mai drwy gynllun adfer COVID-19 ar gyfer gwasanaethau canser y bydd Cymru'n gallu deall maint yr her ac yn gallu dwyn ynghyd y dulliau o bob rhan o Gymru. Fel y dywed ein cynnig felly, mae angen cynllun adfer canser ar Gymru, fel y gwelir mewn mannau eraill ledled y DU.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw ac ymdrin â gwelliannau a sylwadau'r Llywodraeth a wnaethpwyd yn ystod y ddadl. Mae'n ffaith ein bod, cyn y pandemig COVID, wedi gweld pedair blynedd o welliant parhaus mewn amseroedd aros ledled Cymru. Yn y flwyddyn ddiwethaf, dilynodd cyflymder y gwelliant o ganlyniad uniongyrchol i'r materion treth a phensiwn ledled y DU. Fel pob gwlad, mae'r pandemig wedi effeithio ac yn parhau i effeithio ar ein gallu i drin pob claf mor effeithlon ag yr hoffem—pwyntiau a gafodd eu cydnabod a'u nodi'n dda yng nghyfraniad Dai Lloyd.
Fel y dengys ystadegau mis Medi, mae llawer o gleifion bellach yn aros yn hwy o lawer. Mae'r ystadegau hynny'n dangos bod yr amseroedd aros dros 36 wythnos wedi cynyddu chwe gwaith rhwng mis Chwefror a mis Medi eleni. Fel rhannau eraill o'r DU, byddwn yn gweld cynnydd pellach wrth i ni ymateb i'r coronafeirws yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Efallai y dylwn fynd i'r afael ar y pwynt hwn â rhai o'r sylwadau am y capasiti yn Lloegr neu'r sector annibynnol. Mae gennym eisoes drefniadau ar waith gyda'r sector annibynnol drwy gydol y pandemig. Rydym eisoes yn defnyddio gweithgarwch y sector annibynnol o bryd i'w gilydd i ymdrin â chynlluniau rhestrau aros. Nid oes dim yn newydd yn hynny. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd y capasiti a ddefnyddir yn rheolaidd yn system Lloegr ar gael i ni oherwydd maint sylweddol yr ôl-groniad y bydd yn rhaid iddynt ymdrin ag ef.
Yn anffodus, fel yr amlygwyd yn ddiweddar yn adroddiad y cyngor iechyd cymuned ddoe, bydd cyflwr rhai cleifion yn gwaethygu tra byddant yn aros. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i reoli lledaeniad y coronafeirws ac i gynyddu nifer y llawdriniaethau a gynlluniwyd mor ddiogel a chyflym â phosibl. Mae'r coronafeirws wedi effeithio ar bron bob agwedd ar ofal iechyd, o ddysgu sut i drin a gofalu am bobl sy'n ddifrifol wael gyda COVID, trin COVID hir—rydym yn dal i ddysgu mwy am y cyflwr—i wneud newidiadau ffisegol i glinigau, meddygfeydd a theatrau llawdriniaethau er mwyn diogelu staff a chleifion rhag y risg o ddal y feirws hynod heintus hwn. Ac rwy'n parhau i fod yn hynod ddiolchgar i'n GIG ymroddedig a'n staff gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u tosturi yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Yn y cyfweliad diweddar ar BBC Wales Investigates, disgrifiais yn glir pam mai ein blaenoriaeth o reidrwydd yw ymateb i'r pandemig mewn ffordd strwythuredig a phwyllog. Mae hyn yn golygu datblygu dulliau i gefnogi'r cleifion sydd â'r angen mwyaf am driniaeth wedi'i chynllunio, a nodais hefyd ein bod eisoes yn edrych ar gamau ehangach i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ffordd ymlaen wedi'i chytuno ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer trin COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol fel canser, ac yn sicr nid dyna'r 'c' a anghofiwyd yn ystod y pandemig hwn. Nodir y disgwyliadau hynny yn y fframwaith cynllunio chwarterol a drafodwyd gennym eto yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon heddiw. Mae canllawiau manwl o fewn hynny ar ganser a gwasanaethau cysylltiedig eraill, megis endosgopi. Felly, mae gan y byrddau iechyd gynlluniau ar waith i ymateb i hyn, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy wrth inni ddeall a monitro'r ddarpariaeth.
Er hynny, mae'r pandemig wedi cael effaith dorcalonnus ar wasanaethau sy'n gofalu am bobl â chanser a thriniaethau eraill sy'n effeithio ar fywyd, ac mae ein prif swyddog meddygol wedi bod yn glir iawn fod sawl ffordd y bydd y pandemig yn achosi niwed, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. A dylwn nodi sylwadau Hefin David am ei etholwr, Dawn Wilson, ar y pwynt hwn. Cyfarfûm â Dawn cyn cymeradwyo a chefnogi ymgyrch Know Your Lemons, ac rwy'n cydnabod yr effaith a gafodd, ac roedd yn weithred gwbl anhunanol ar ei rhan i dreulio gweddill ei hoes yn ymgyrchu dros eraill. Un neges allweddol yn ein cyfathrebiad cenedlaethol sydd ar y ffordd fydd parhau i amlygu ac atgyfnerthu'r angen i gleifion gysylltu â'n GIG gydag unrhyw arwyddion neu symptomau canser. Bydd hyn yn parhau yn yr ymgyrch newydd, Helpwch Ni i'ch Helpu Chi. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i gefnogi ein negeseuon, gyda fideos ffocws, gan gynnwys rhai gan ffigyrau o'r byd pêl-droed a staff go iawn y GIG.
Mae byrddau iechyd yn gorfod ymdrin â sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac nid oes atebion gweithredol na moesegol syml i hyn. Mae popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud. Mae popeth y gellir ei ddarparu yn cael ei ddarparu. Ac rydym yn dal i ddysgu ac mae angen i ni addasu wrth i'n sylfaen dystiolaeth newid, wrth i'n gwybodaeth newid. Felly, mae'r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r maes pwysig hwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chlinigwyr i nodi opsiynau ar gyfer sut y gall arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a ddaw yn sgil oedi cyn cael triniaeth, nid yn unig dros y misoedd nesaf, ond dros dymor Senedd Cymru cyfan. Ein blaenoriaeth fydd lleihau'r risg o oedi a chefnogi blaenoriaethu clinigol. Fel y nododd prif weithredwr GIG Cymru yr wythnos diwethaf, mae angen mesurau diogelwch ychwanegol i ddiogelu cleifion a staff, ac maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan fod nifer y cleifion sydd â COVID yn parhau i fod yn uchel ym mhob un o'n lleoliadau gofal iechyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae hyn yn effeithio ar y math o wasanaethau sydd ar gael i drin cleifion eraill yn ogystal â'u maint. Felly, rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau'r llif mwyaf posibl o gleifion i mewn ac allan o driniaeth. Mae hynny'n cynnwys adolygu trefniadau rhyddhau diogel o'r ysbyty a'r ffordd orau o ddefnyddio ein hystâd ysbytai a gofal sylfaenol, gan gynnwys ysbytai maes.
Rwyf am ymdrin â'r opsiwn o ysbytai gwyrdd, neu fel y dywed y cynnig—ymadrodd gwahanol—ysbytai sy'n rhydd o COVID. Mae'n swnio'n syniad deniadol, ond nid yw'n hawdd ei wneud, ac rwy'n cytuno â Dai Lloyd nad wyf yn credu ei fod yn ateb ymarferol mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae angen inni wybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar fynediad lleol at wasanaethau brys, gan gynnwys gwasanaethau mân anafiadau, amseroedd teithio a straen ar adnoddau ambiwlans yn ystod y gaeaf. Yr ysbytai sy'n rhydd o COVID, fel y'u gelwir, a gefnogir gan y Torïaid—. Ac os ydynt o ddifrif am wneud hynny, mae angen inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu: felly, pa ysbyty yng ngogledd Cymru na fyddai ag adran damweiniau ac achosion brys mwyach? Ai Llwynhelyg neu Glangwili fyddai'n colli eu hadran damweiniau ac achosion brys neu fân anafiadau, neu lawdriniaeth frys, a sut y byddai mynediad mamolaeth yn cael ei drefnu? Oherwydd ym mhob un o'r pethau hyn, nid ydynt yn gydwedd ag ysbyty sy'n rhydd o COVID. Mae arnaf ofn nad yw'r slogan 'rhydd o COVID' yn ateb difrifol ac ymarferol i GIG Cymru nawr, ac mewn gwirionedd, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghymru wedi dweud yn glir fod ganddynt ddiddordeb mewn parthau COVID-ysgafn o fewn ein hystâd fel ateb ymarferol, fel y nododd Richard Johnson yn ddiweddar. A dylwn ei gwneud yn glir wrth gwrs, mewn perthynas â sylwadau Dr Lloyd am olrhain cysylltiadau, mae profi, olrhain, diogelu yng Nghymru yn gyhoeddus ac mae'n cyflawni i safon uchel.
Mae gan ein hysbytai maes rôl i'w chwarae yn cefnogi capasiti a llif, ond nid yw'n bosibl darparu llwybrau dewisol mewn ysbyty maes. Ac rwy'n credu o bosibl nad oedd sylwadau ar y mater gan Janet Finch-Saunders yn ystyried nac yn deall yn llawn y rôl y gallant ei chwarae ac y byddant yn ei chwarae ar y cam hwn o'r pandemig. Er enghraifft, mae llawer o driniaethau'n galw am ofal ôl-lawfeddygol a chyfleusterau ychwanegol wrth gefn, gan gynnwys gofal dwys. Wrth gwrs, nid oes theatrau llawdriniaethau ar gael mewn ysbytai maes.
Mae'r GIG wedi ymateb yn wych i'r argyfwng iechyd cyhoeddus mawr a digynsail hwn. Mae ein staff wedi dangos hyblygrwydd aruthrol i ddarparu gwasanaethau, i gleifion COVID a chleifion nad ydynt yn rhai COVID. A chredaf fod ein staff GIG a'u cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yn haeddu codiad cyflog priodol i adlewyrchu hyn. Mae hynny'n golygu athrawon, cynorthwywyr addysgu, glanhawyr, cogyddion, swyddogion iechyd yr amgylchedd, a'u cydweithwyr ar draws llywodraeth leol, yr heddlu, a'r lluoedd arfog, sydd wedi helpu cymaint yn ein hymateb i COVID yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r holl weision cyhoeddus hyn, a'u cydweithwyr, yn haeddu cymaint gwell na'r gic a gawsant heddiw gan y Canghellor. Byddwn ni yma yng Nghymru yn dal ati i weithio gyda'n GIG a'u partneriaid ac yn parhau i'w gwerthfawrogi, wrth inni barhau i wynebu heriau digynsail y pandemig hwn yn y misoedd nesaf, ac yn y blynyddoedd nesaf, a'r adferiad a fydd yn digwydd pan fydd y pandemig ar ben o'r diwedd.
Diolch. Bwriadaf alw yn awr ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am gael ymyriad. Rhun ap Iorwerth, sylwaf eich bod yn ôl gyda ni bellach; a ydych chi eisiau gwneud gwerth munud o ymyriad?
Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhyfeddol ei bod hi wedi cymryd cymaint â saith neu wyth mis i golli trydan yn y tŷ ar ryw bwynt yn ystod sesiwn yn y Senedd, ond dwi'n falch o allu dod yn ôl.
Yr oll oedd gen i ar ôl i'w wneud yn fy nghyfraniad i oedd cyfeirio at yr hyn roeddem ni'n trio ei wneud drwy'n gwelliant ni. Rydyn ni'n meddwl bod angen adolygu y targedau sy'n cael eu defnyddio i ystyried sut maen nhw'n annog ymddygiad yn y byrddau iechyd, ac os ydyn nhw'n mesur y pethau iawn. Roeddwn i hefyd am ddweud ein bod ni hefyd yn meddwl, am bod yr ysbytai enfys gennym ni i ddarparu capasiti, y dylem ni ddefnyddio hynny i hybu llif drwy'r system. Ac i wneud y pwynt i gloi, mae COVID yn argyfwng ynddo fo'i hun, ond mae o wedi creu argyfwng arall, wrth gwrs, allan o'r pwysau oedd eisoes yn y system. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni weld mwy o frys a gweithredu mwy pwrpasol i ymateb iddo fo. Ond, Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gau pen y mwdwl yn y ffordd yna.
Diolch. Ac Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am ailadrodd fy mod yn credu bod safbwynt y Ceidwadwyr ar gyfyngiadau'r cyfnod atal byr yn safbwynt cyson, a phe bai'r bleidlais honno'n dod heddiw, byddem yn sefyll wrth y bleidlais honno ac yn pleidleisio yr un ffordd. Oherwydd roedd cyngor SAGE ddiwedd mis Medi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd effeithiolrwydd a chanlyniadau cyfnod atal byr o'r fath, neu'r cyfyngiadau symud—beth bynnag y dymunwch ei alw—yn wybyddus, ac mewn gwirionedd mae'r niwed hwnnw'n llawer mwy. Rydym yn cefnogi cyfyngiadau i atal y feirws—nid ydym yn dweud na ddylid cael cyfyngiadau; rydym yn cefnogi hynny. Ac rydym yn cefnogi'r cyfyngiadau lleol, a fyddai wedi cael mwy o effaith na rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno hyd yma. Felly roeddwn eisiau cofnodi hynny, oherwydd yn anffodus nid yw'r amodau gweithredu'n caniatáu'r ymyriad. [Torri ar draws.]
Na, ni allwch wneud hynny, mae arnaf ofn; ni all neb ymateb i unrhyw ymyriad, mae arnaf ofn. Rwy'n mynd i alw ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl. Angela.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes gennyf lawer o amser, felly nid wyf yn mynd i allu crybwyll cyfraniadau unigol pawb. Hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn am y cywair y cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r ddadl hon ynddo—yn anffodus nid y cyfan.
Nid yw hyn yn ymwneud ag anelu cic at y GIG a'r bobl sy'n gweithio mor eithriadol o galed ynddo, na'r meddygon a'r nyrsys. Yn wir, nid yw hyd yn oed yn gic wedi'i hanelu at y Llywodraeth fel y cyfryw, oherwydd, gadewch inni fod yn glir, roedd y pandemig hwn yn rhywbeth na welodd yr un ohonom erioed mohono'n dod, ac mae llawer o bobl mewn llawer o sefydliadau, cyhoeddus a phreifat, wedi camu i'r adwy mewn ffordd na welwyd ei thebyg o'r blaen. Ac i bob un ohonynt, mae fy niolch yn enfawr.
Ond y gwir bryder y tu ôl i hyn i gyd yw bod gennym fwy na COVID yn ein bywydau, mae gennym lawer o afiechydon eraill, llawer o glefydau eraill. Ac nid yw'n ymddangos bod gennym gynllun, a dyna'r hyn rydym yn galw amdano, ac rydym wedi galw amdano'n glir iawn yn ein gwelliant heddiw. Mae gan wahanol fyrddau iechyd ffyrdd gwahanol o ymdrin â'u rhan hwy ohono. Nid yw'n glir i gleifion. Felly, rwyf am nodi'n gyflym iawn pam y credaf fod angen cynllun arnom.
Mae arnom angen cynllun i roi gobaith i gleifion. Mae gormod o bobl yn ysgrifennu at ormod ohonom yn rhy aml i ddweud na allant gael mynediad at driniaeth, maent yn poeni'n fawr, ni allant gael y diagnosis sydd ei angen arnynt, dywedwyd wrthynt y gallai fod canser arnynt, nad yw eu calon mewn cyflwr gwych, cawsant brawf coluddyn flwyddyn yn ôl ac maent i fod i gael prawf dilynol. Mae'r bobl yn ofnus, maent angen gwybod bod gan y Llywodraeth gynllun clir.
Mae angen inni gael cynllun i gefnogi'r staff ymroddedig, a blinedig a dweud y gwir. Mae angen iddynt wybod bod yna ffordd ymlaen, nad COVID, COVID, COVID yn unig fydd hi. Mae angen inni gael cynllun i sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn y lle iawn ar yr adeg iawn—nad oes gennym loteri cod post. Mae rhai byrddau iechyd wedi cyflawni'n eithriadol o dda yn ystod y pandemig hwn, ac eraill yn llai felly. Bydd cynllun clir ar sut rydym yn mynd i ddal i fyny gyda'r amseroedd aros hyn, gyda'r ôl-groniad hwn, yn helpu i godi pawb i'r un lefel a sicrhau tegwch. Mae arnom angen cynllun i fanteisio i'r eithaf ar sgiliau ac ymrwymiad y timau arbenigol, er mwyn rhoi hyder i'r gweithwyr proffesiynol.
Rhaid inni gael cynllun i ateb pryderon ac ofnau'r sefydliadau niferus. Ni allaf eu rhestru i gyd, ond mae gennym Gynghrair Canser Cymru, mae gennym Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Asthma UK, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Sefydliad Prydeinig y Galon, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, y Gymdeithas Sglerosis Ymledol a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'r bobl hyn yn gwybod eu gwaith, ac maent yn codi pryderon am y diffyg cynllun.
Mae angen inni gael cynllun i sicrhau ein bod yn gwneud cystal â'r gwledydd cartref eraill. Ac mae angen cynllun arnom i sicrhau bod y cydweithio rhanbarthol yn gweithio'n effeithiol iawn—os na allwch gael eich triniaeth yn Hywel Dda, fod modd i chi fynd i fyny'r ffordd. Os na allwch gael eich triniaeth yn Betsi Cadwaladr, gallwch fynd i fwrdd iechyd arall. A hyd yn oed yn bwysicach, Weinidog, os na allwch gael eich triniaeth yng Nghymru, y bydd eich porthgeidwaid yn camu lawr ac yn caniatáu i chi fynd i wledydd eraill lle gallai peth o'r driniaeth arbenigol hon fod ar gael o hyd.
Mae fy amser ar ben, Weinidog, fel y mae fy amserydd—gall pawb ohonoch ei glywed mae'n debyg, ac nid wyf yn gwybod sut i'w ddiffodd—yn dweud. Hoffwn ddweud, nid yw'n fater o ddweud wrth y GIG, 'Nid ydych yn ei wneud yn dda.' Rydych chi wedi bod yn rhyfeddol. Ond mae'n ymwneud â dweud, 'Nid dim ond cadw ein llygaid ar dân mawr COVID yw ein dyletswydd ni nawr', oherwydd os nad edrychwn ar yr holl danau bach eraill sy'n parhau i losgi, hwy fydd y rhai a fydd yn llosgi ein hadeilad i'r llawr yn y pen draw, ac ni allwn fforddio hynny, ac nid yw ein dinasyddion yn haeddu hynny. Felly, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Clywais hynny, diolch. Rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n atal y cyfarfod am bum munud cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd cymorth TG wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau.