8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:17, 25 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhyfeddol ei bod hi wedi cymryd cymaint â saith neu wyth mis i golli trydan yn y tŷ ar ryw bwynt yn ystod sesiwn yn y Senedd, ond dwi'n falch o allu dod yn ôl.

Yr oll oedd gen i ar ôl i'w wneud yn fy nghyfraniad i oedd cyfeirio at yr hyn roeddem ni'n trio ei wneud drwy'n gwelliant ni. Rydyn ni'n meddwl bod angen adolygu y targedau sy'n cael eu defnyddio i ystyried sut maen nhw'n annog ymddygiad yn y byrddau iechyd, ac os ydyn nhw'n mesur y pethau iawn. Roeddwn i hefyd am ddweud ein bod ni hefyd yn meddwl, am bod yr ysbytai enfys gennym ni i ddarparu capasiti, y dylem ni ddefnyddio hynny i hybu llif drwy'r system. Ac i wneud y pwynt i gloi, mae COVID yn argyfwng ynddo fo'i hun, ond mae o wedi creu argyfwng arall, wrth gwrs, allan o'r pwysau oedd eisoes yn y system. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni weld mwy o frys a gweithredu mwy pwrpasol i ymateb iddo fo. Ond, Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gau pen y mwdwl yn y ffordd yna.