1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru na chaniateir i fusnesau lletygarwch werthu alcohol, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau am 6 p.m., mae John Evans, landlord tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon, wedi dweud:
Nid yw'n deg ar y tafarndai a'r bwytai niferus hynny sydd wedi dilyn y rheolau a gwneud y peth iawn.
Bydd y golled o refeniw yn aruthrol—bydd yn rhaid i ni daflu cwrw a stoc arall i ffwrdd.
Yng Nghaerdydd, mae rheolwr cyffredinol tafarn y Grange, Dai Dearden, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn 'ergyd drom'. Ac ym Mrynbuga, Sir Fynwy, mae Kelly Jolliffe, perchennog y Greyhound Inn, wedi dweud ei bod hi'n 'hynod siomedig' yn y rheoliadau. Felly, Prif Weinidog, beth yw eich neges i'r busnesau hyn, a llawer mwy ledled Cymru, y mae eu bywoliaeth mewn perygl oherwydd eich penderfyniad i gau'r sector lletygarwch yn rhannol yma yng Nghymru?
Wel, fy neges i i'r busnesau hynny yw, er gwaethaf yr holl ymdrechion y maen nhw wedi eu gwneud—ac rwy'n cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae cynifer o fusnesau wedi eu gwneud—rydym ni'n dal i wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac er gwaethaf yr ymdrechion hynny a phopeth arall sydd wedi ei wneud, mae nifer y bobl sydd wedi'u heintio â coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu bob dydd, ac mae hynny yn trosi ei hun, yn anochel, i fwy o bobl mewn gwelyau ysbyty yng Nghymru, mwy o bobl angen gofal critigol a mwy o bobl yn colli eu bywydau. Dyna'r cyd-destun na ellir ei osgoi y mae'r penderfyniad yn cael ei wneud oddi mewn iddo.
Ac, ar ôl dweud hynny wrth bobl, bod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus lle mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu bywydau y gellir eu hachub ac a fyddai fel arall yn cael eu colli, byddwn i'n dweud wrthyn nhw ein bod ni wedi rhoi'r pecyn cymorth mwyaf hael i'r diwydiant hwnnw yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig—£340 miliwn a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r diwydiant hwnnw drwy'r wythnosau anodd iawn sydd o'n blaenau. Rwy'n deall bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi £40 miliwn heddiw ar gyfer Lloegr gyfan ar gyfer y diwydiant lletygarwch. Bydd £340 miliwn ar gael yma yng Nghymru yn unig. A dyna'r peth arall y byddwn i'n ei ddweud wrth y diwydiannau hynny, mai'r cymorth y byddan nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru fydd y gorau sydd ar gael mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Wel, Prif Weinidog, mae cau lletygarwch Cymru yn rhannol yn ergyd drom i'r sector, a bydd tafarndai a bwytai, mewn ardaloedd lle mae cyfraddau trosglwyddo yn isel, a fydd yn briodol yn teimlo'n ofidus bod eu busnesau yn cael eu rhoi mewn perygl, heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, ac mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw dystiolaeth bod rhyngweithio lletygarwch yn arwain at gynnydd i gyfraddau trosglwyddo. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym ni ei bod yn estyn allan i'r sector dros y penwythnos, ond mae'n amlwg nad yw safbwyntiau'r sector wedi cael eu cymryd i ystyriaeth ac y bydd llawer o fusnesau ledled y wlad na fyddant yn goroesi'r gaeaf. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni gyda phwy y gwnaethoch chi a'ch Llywodraeth gyfarfod dros y penwythnos i drafod y cynigion hyn, a pha drafodaethau a gawsoch chi am gau'r sector yn rhannol? A pha mor ffyddiog ydych chi y bydd y mesur hwn yn lleihau ffigurau trosglwyddo a ddim yn arwain at bobl yn ymgynnull mewn cartrefi ac yn cael partïon tŷ yn hytrach, oherwydd nad ydyn nhw'n cael prynu diod alcoholig mewn tafarn?
Wel, Llywydd, mae bywydau pobl yn cael eu peryglu yma yng Nghymru heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain oherwydd y feirws hwn. Rwyf i wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, ac rwy'n siŵr, yn y pen draw, y bydd yn cydnabod bod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac mai dyma pam mae'r camau hyn yn cael eu cymryd. Nid wyf i wedi ei glywed yn cyfeirio at hynny unwaith yn ei gwestiynau hyd yn hyn.
Dros y penwythnos hwn, roedd Gweinidogion mewn trafodaethau gydag amrywiaeth eang o wahanol grwpiau buddiant. Roeddem ni'n siarad â'n cydweithwyr yn yr awdurdod lleol; roeddem ni'n siarad gyda'r undebau llafur; roeddem ni'n siarad gyda'r awdurdodau gorfodi; roeddem ni'n siarad gyda'r sector ei hun. Nid oes unrhyw benderfyniadau hawdd yn y fan yma. Nid oes unrhyw benderfyniadau hawdd o unrhyw fath ar hyn o bryd. Fe wnaethom ni edrych yn ofalus iawn ar y cyfyngiadau haen 3 yn Lloegr lle mae busnesau ar gau yn llwyr; nid ydyn nhw'n agor eu drysau o gwbl. Fe wnaethom edrych yn ofalus ar y cyfyngiadau lefel 3 yn yr Alban. Fe wnaethom edrych ar adolygiad SAGE o'r ddau ddull hynny, ac mae dull SAGE yn awgrymu nad oes gwahaniaeth iechyd cyhoeddus rhwng y ddau fesur—mae'r ddau yn llwyddiannus. Oherwydd hynny, ein dewis oedd dilyn model yr Alban, lle bydd y busnesau hynny sy'n dewis agor yn gallu parhau i fasnachu tan 6 o'r gloch fin nos. A dyna oedd ein penderfyniad, mewn trafodaeth â'r sector, i wneud yr hyn a allem i sicrhau'r cydbwysedd anodd rhwng achub bywydau pobl a gorfod rhoi sylw i fywoliaeth pobl. A bydd y cymorth y byddwn ni'n ei gynnig i bobl y mae eu busnesau yn cael eu heffeithio yn mynd y tu hwnt i unrhyw beth sydd wedi bod ar gael hyd yn hyn yng Nghymru, a'r tu hwnt i unrhyw beth a fyddai ar gael iddyn nhw mewn unman arall yn y Deyrnas Unedig.
Prif Weinidog, rydych chi newydd gyfeirio at SAGE, ond dywedodd SAGE ym mis Medi y byddai cyrffyw ar fariau yn cael effaith ymylol ar leihau trosglwyddiadau. Rydych hi'n dweud bod tystiolaeth; wel, os oes tystiolaeth, cyhoeddwch y dystiolaeth honno fel y gall pobl weld canlyniadau eich cynigion. A gadewch i ni fod yn eglur: nid oes busnesau lletygarwch yn unman arall yn y DU yn wynebu'r mathau hyn o fesurau ar sail genedlaethol. Yma, yng Nghymru, bydd tafarn ar agor ond ni fydd yn cael gwerthu unrhyw alcohol pa un a yw yng Nghaerdydd neu yng Nghonwy. A ydych chi'n disgwyl i'r busnesau hyn oroesi ar ddiodydd ysgafn a chrafiadau porc?
Nawr, Prif Weinidog, mae Carlsberg UK wedi dweud hyn, a dyfynnaf: 'Mae gadael tafarndai ar agor, ond dim ond tan 6.00 p.m. heb weini cwrw neu wydraid o win i'w fwynhau yn gyfrifol yn dangos diffyg dealltwriaeth a pharch llwyr at y rhan hollbwysig hon o'n cymdeithas a'r sector.' Ac mae Alistair Darby o Brains wedi dweud bod y rheolau newydd i dafarndai yn 'ergyd enfawr' i'r sector. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nawr bod cymorth busnes ar gael ar frys, a'i fod yn hygyrch i'r rhai sydd ei angen.
Nawr, bydd yn rhaid i chi faddau i fusnesau ledled Cymru os nad ydyn nhw'n gwbl ffyddiog y byddan nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ni ddylid caniatáu i'r ffordd draed moch o ymdrin â cham 3 y gronfa cadernid economaidd gael ei hailadrodd. Fodd bynnag, rydym ni newydd glywed gan eich Gweinidog yr economi na fydd busnesau yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol tan fis Ionawr. Prif Weinidog, nid yw hynny'n ddigon da. A ydych o ddifrif yn credu y bydd busnesau yn goroesi'r cyfnod hwn, o gofio na fyddan nhw'n gallu cael cymorth tan fis Ionawr, ac, felly, a wnewch chi ailystyried nawr y penderfyniad trychinebus hwn a sicrhau bod busnesau yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw nawr ac nid ymhen pedair neu bum wythnos?
Wel, Llywydd, gwrandewais eto ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid. Cynigiais gyfle iddo gydnabod yr argyfwng iechyd cyhoeddus, y bywydau sydd yn y fantol yn y fan yma, ac am y trydydd tro y prynhawn yma, methodd â gwneud hynny. Nawr, mae'n ddigon hawdd iddo eistedd yn y fan yna yn honni ei fod, wrth gwrs, yn ei gredu, ond gallai fod wedi dweud hynny, oni allai? Gallai fod wedi dweud hynny. Yn hytrach, mae'n ymddwyn fel pe byddai hon yn gyfres hawdd iawn o benderfyniadau lle gellid bod wedi sicrhau'r cydbwysedd yr ydym ni wedi ei sicrhau yn hawdd iawn mewn ffordd arall.
Gadewch i mi ddweud hyn wrtho: yn union fel yr ydym ni eisiau lleihau heintiau coronafeirws i achub bywydau, felly hefyd y mae eu lleihau yn allweddol i achub yr economi.
Meddyliwch am eiliad beth fyddai'n digwydd i'n heconomi pe byddem ni'n caniatáu i heintiau gyrraedd y fath lefel fel bod ein GIG yn cael ei orlethu. A fyddai teuluoedd yn chwilio am fariau gorlawn a bwytai prysur pe bydden nhw'n gwybod y gallen nhw fod yn heintio ffrindiau a pherthnasau na ellid eu trin pe bydden nhw'n cael eu taro'n wael? A fyddem ni'n heidio i arwerthiannau mis Ionawr pe byddai drysau ein hysbytai ar gau?
Nid fy ngeiriau i, Llywydd, ond geiriau Michael Gove dros y penwythnos. Ie, geiriau Michael Gove. Ni fyddech chi'n eu hadnabod, wrth gwrs. Ond yr hyn yr oedd Michael Gove yn ei ddweud oedd hyn yn union: oni bai eich bod chi'n barod—[Torri ar draws.] Oni bai eich bod chi'n barod—. Peidiwch â phwyntio ataf i. Dim pwyntio.
Andrew R.T. Davies, y cwestiwn gan arweinydd eich plaid yw hwn, nid oes angen i chi fod yn pwyntio bys at—. Nid wyf i eisiau bysedd yn cael eu pwyntio yn y Siambr hon, os gwelwch yn dda. Y Prif Weinidog i barhau, os gwelwch yn dda.
Mae'r cydbwysedd yr ydym ni'n ei sicrhau bob amser rhwng achub bywydau pobl a rhoi sylw i'w bywoliaeth, a dyna'r cydbwysedd yr ydym ni wedi ei sicrhau yn y pecyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi dros y penwythnos ac yna ddydd Llun.
Mae'r Aelod yn gofyn am y cymorth a roddwyd i fusnesau yma yng Nghymru: dyfarnwyd 64,000 o grantiau ardrethi busnes eisoes—eisoes—i fusnesau yng Nghymru, gwerth £768 miliwn. Yn y gronfa fusnes cyfyngiadau symud 175, a oedd ar gael rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd yn unig—felly, ychydig wythnosau yn unig yn ôl—dyfarnwyd 31,000 o grantiau i fusnesau eisoes, gwerth bron i £100 miliwn. Wrth gwrs, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gyda'n cydweithwyr sydd dan bwysau mewn llywodraeth leol, i gael y cymorth yr ydym ni wedi ei gyhoeddi i ddwylo'r rhai sydd ei angen, cyn gynted ag y gallwn. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector yn cydnabod maint y cymorth sy'n cael ei ddarparu iddyn nhw, yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i roi'r cymorth hwnnw lle mae ei angen fwyaf, a'r ffaith ein bod ni, drwy weithredu yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud, yn diogelu iechyd pobl yng Nghymru a rhagolygon hirdymor y busnesau hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Fel y dywed adroddiad diweddaraf y gell cynghori technegol, collwyd effeithiau cadarnhaol y cyfnod atal byr i raddau helaeth. Fe wnaethom ni gefnogi'r cyfnod atal byr ar yr amod nad cyfyngiadau symud oedd y strategaeth ddiofyn. Fe wnaethom ni rybuddio bod angen i'r cyfyngiadau wrth ddod allan o'r cyfnod atal byr fod yn llymach. Mae'r camgymeriad hwnnw a'r methiant parhaus i gael trefn ar y system brofi wedi arwain at gyhoeddiad anffodus ddoe. Y sector lletygarwch sy'n dwyn y baich unwaith eto. Mae llawer o fusnesau na fyddant yn goroesi, a cheir gwrthwynebiad cyhoeddus dealladwy. A all y Prif Weinidog roi i ni fanylion y cyngor a'r dystiolaeth wyddonol sy'n sail i'r penderfyniad i gau caffis, bwytai a bariau am 6 p.m. ac i wahardd gwerthu alcohol yn llwyr, ac a gawn ni ofyn i'r rhain gael eu cyhoeddi yn llawn heddiw? Ac a allwch chi ddweud, Prif Weinidog, yn ogystal ag edrych ar fodel haen 3 yr Alban a model haen 3 Lloegr, a wnaethoch chi hefyd fodelu ateb unigryw i Gymru i gydbwyso achub bywydau a bywoliaeth mewn gwahanol ffordd i'r penderfyniad a wnaed gennych?
Wel, mae'r hyn sydd gennym ni yn fodel unigryw i Gymru, Llywydd. Nid yw'n copïo dull Lloegr na dull yr Alban yn llawn. Ni fwriadwyd erioed y byddem ni'n cael dull llusgo a gollwng o rywle arall, felly byddwch yn gweld gwahaniaethau sylweddol rhwng y mesurau sydd gennym ni yma yng Nghymru a'r rhai a ddefnyddir mewn mannau eraill. Maen nhw'n fwy hael mewn nifer o ffyrdd. Ym model yr Alban, nid yw'n bosibl i bedwar o bobl o bedair aelwyd gyfarfod gyda'i gilydd mewn lletygarwch. Felly, bydd yr Aelod yn gweld bod gwahaniaethau pwysig iawn, wedi'u cynllunio yn benodol i fodloni'r amgylchiadau sy'n ein hwynebu ni yma yng Nghymru yn yr ymarfer cydbwyso anodd iawn hwnnw.
Mae'r wyddoniaeth eisoes ar gael i'r Aelodau. Fe'i cyhoeddwyd gan SAGE ar 11 a 19 Tachwedd. Cyfeirir ato yn ein hadroddiadau cell cynghori technegol eisoes. Yr un wyddoniaeth yw hon, Llywydd, a arweiniodd at Lywodraeth yr Alban a'i gydweithwyr ef yno yn gwneud y penderfyniadau a wnaed ganddyn nhw. Yr un wyddoniaeth yw hon a oedd ar gael i Weinidogion Lloegr pan gyflwynwyd mesurau haen 3 ganddyn nhw yn Lloegr. Yr un wyddoniaeth yw hon a argyhoeddodd ein prif swyddog meddygol a phrif weithredwr y GIG yng Nghymru i argymell y camau gweithredu hyn i Lywodraeth Cymru. Nid oes diffyg tystiolaeth; mae'r dystiolaeth yr un dystiolaeth ag sydd wedi arwain at Lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig ac, yn wir, ledled Ewrop yn cymryd y camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd.
Rwy'n synnu braidd at gyfeiriad yr Aelod at y system brofi, oherwydd yn y system brofi yma yng Nghymru, ers 21 Mehefin tan 21 Tachwedd, holl gyfnod ein trefn Profi, Olrhain, Diogelu, cafwyd gafael ar 98 y cant o achosion mynegai a chafwyd gafael ar 92 y cant o achosion dilynol. O'r achosion mynegai hynny, cafwyd gafael ar 87 y cant o'r rhai y llwyddwyd i gael gafael arnyn nhw yn ystod yr wythnos diwethaf o fewn 24 awr, cysylltwyd ag 80 y cant o'r cysylltiadau hynny y llwyddwyd i gael gafael arnyn nhw o fewn 24 awr, a'r wythnos diwethaf, Llywydd, cwblhawyd 91 y cant o'r profion yr oedd angen cael canlyniad cyflym yn eu cylch o fewn un diwrnod. Nawr, mae hynny'n dweud wrthyf i fod y system sydd gennym ni yma yng Nghymru yn system lwyddiannus sy'n llwyddo, ac mae rhan o hynny oherwydd y buddsoddiad ychwanegol y cytunwyd arno ar gyfer y system honno yn ystod y cyfnod atal byr.
Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei herydu, oherwydd nid yw pobl yn deall rhesymeg y penderfyniad fel y mae'n cael ei gyfleu ar hyn o bryd. Sut gall pedwar o bobl o bedair gwahanol aelwyd yn cael paned gyda'i gilydd fod yn fwy diogel na dau berson o'r un aelwyd yn cael peint? Pam mae gwin poeth alcoholig sy'n cael ei weini yn yr awyr agored mewn marchnad Nadolig yn berygl? Mae'r diffyg rhesymeg hwn mewn perygl o danseilio cydymffurfiad cyffredinol, a cheir perygl wedyn y bydd mwy o bobl yn mynd i gartrefi ei gilydd o ganlyniad.
Ein cynnig amgen fyddai caniatáu i gaffis, bwytai a bariau aros ar agor tan 8 p.m. gydag alcohol yn cael ei weini tan saith. Gallai hyn ddilyn canllawiau llymach a oedd yn cynnwys cyfyngu nifer y diodydd alcoholig, gyda gwasanaeth bwrdd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn unig. Gellid hefyd gwahardd gwerthu alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig ac archfarchnadoedd ar ôl y terfyn o 7 p.m. i annog pobl i beidio ag ymgynnull mewn cartrefi. Oni fyddech chi'n cytuno, Prif Weinidog, y byddai hwn yn gyfaddawd symlach, mwy eglur a mwy cyson sy'n sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng niweidiau COVID a niweidiau nad ydyn nhw'n rhai COVID wrth i'r olaf ddod yn fwyfwy amlwg yr hiraf y bydd y pandemig yn parhau?
Wel, Llywydd, rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol bod wedi ystyried gwahanol ddulliau a gwahanol syniadau. Rwy'n credu, fodd bynnag, mai'r cwbl a fyddai'n digwydd fyddai y byddai un gyfres o anomaleddau yn cael ei disodli gan wahanol gyfres o anomaleddau, oherwydd nid oes dianc rhag y ffaith, yn y systemau cymhleth y mae'n rhaid i ni eu gweithredu, bod pethau ymylol y gellir tynnu sylw atyn nhw bob amser a gall pobl ddweud, 'Pam mae hyn yn cael ei ganiatáu pan nad yw hynna wedi'i ganiatáu? Pam na allaf i wneud hyn pan mai'r dystiolaeth ar gyfer hyn yw ei fod yn ddiogel?' Nid oes modd osgoi'r anomaleddau hynny pan fyddwch chi'n ceisio ymateb i gymhlethdod y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni heddiw. Y cwbl y byddai'r camau y mae'r Aelod wedi eu hargymell, sydd, fel y dywedais, yn gyfraniad defnyddiol at y ddadl a'r ystyriaethau am hyn i gyd, yw ein harwain i wahanol gyfres o gyfaddawdau, gwahanol gyfres o anomaleddau. Nid oes dianc rhag y ffaith, pan fyddwch chi'n ceisio llunio ymatebion i'r amgylchiadau anodd iawn sy'n newid yn gyflym yr ydym ni yn eu hwynebu, nad yw'n bosibl cael rhesymeg sy'n gynhwysfawr ar bob un achlysur ac ym mhob un agwedd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ofyn i bobl ei wneud yw cymryd y pecyn yn ei gyfanrwydd, ac mae'r pecyn yn ei gyfanrwydd wedi'i gynllunio yma yng Nghymru i'n rhoi ni yn ôl mewn sefyllfa lle gall ein gwasanaeth iechyd ymdopi â nifer yr achosion o coronafeirws, y gall y gwasanaeth iechyd barhau i wneud yr holl bethau eraill yr ydym ni angen iddo eu gwneud, lle bydd bywydau yn cael eu hachub. Dyna'r wobr y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei chadw o'n blaenau.
Er bod y pecyn ychwanegol o gymorth ariannol a gyhoeddwyd ddoe yn amlwg i'w groesawu, nid yw'n digolledu'r sector lletygarwch yn llawn am y refeniw y bydd yn ei golli dros dymor yr ŵyl, a cheir sectorau eraill sy'n cael eu cloi allan o gymorth digonol yn barhaus—y gyrwyr tacsi y mae eu masnach ym mis Rhagfyr yn dibynnu i raddau helaeth ar fynd â phobl i fariau a bwytai ac oddi yno, a gweithwyr yn yr economi gig, sy'n dibynnu ar waith tymhorol. I gynifer o bobl, mae'r cyfyngiadau hyn fel y maen nhw wedi'u sefydlu ar hyn o bryd yn ffon i gyd a dim moron, ac nid yw'r cymorth yn eu digolledu yn ddigonol am y golled o enillion. Rydym ni wedi cael y cyhoeddiad am Debenhams heddiw a'r cyhoeddiad gan Brains; ers dechrau 2020, bu cynnydd o 41 y cant i ddiweithdra yng Nghymru o'i gymharu â 18 y cant yn Lloegr, sy'n golygu bod tua 20,000 o bobl ychwanegol yn chwilio am waith. I ddiogelu swyddi ac er budd llesiant ehangach pobl, ac i gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y polisi iechyd cyhoeddus cyffredinol, a gaf i annog y Prif Weinidog i ailystyried penderfyniad ddoe?
Wel, rwy'n amau'n fawr y byddai ailystyried penderfyniad ddoe yn ychwanegu at ymddiriedaeth y cyhoedd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw ei fod, wrth gwrs, yn iawn i dynnu sylw at effaith echrydus coronafeirws ym mywydau cynifer o bobl. Nid yw'r pecyn cymorth yr ydym ni wedi ei gyhoeddi yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar letygarwch ei hun; bydd £180 miliwn ohono yn cael ei ddarparu i'r 8,000 o fusnesau lletygarwch hynny a'r 2,000 o fusnesau sy'n eu cefnogi yn y gadwyn gyflenwi, ond mae gweddill y pecyn gwerth £340 miliwn ar gael i helpu amrywiaeth ehangach o fusnesau y mae'r penderfyniad yn effeithio arnyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys busnesau manwerthu, pan eu bod nhw'n gallu dangos y bu effaith uniongyrchol ar eu gallu i fasnachu, ond mae hefyd yn cynnwys unig fasnachwyr hefyd. Ceir elfen bwysig yn y pecyn a fydd yn caniatáu i lanhawyr, er enghraifft, sy'n glanhau lleoedd lletygarwch—nid ydyn nhw'n cael eu cyflogi gan y busnes, maen nhw'n cael eu cyflogi ganddyn nhw eu hunain—allu cael cymorth o'r pecyn hwn, ac felly hefyd gyrwyr tacsis, Llywydd. Cefais gyfarfod â grŵp o yrwyr tacsi ddydd Sul, fy hun. Gofynnwyd i mi yn gynharach pa grwpiau yr oeddem ni wedi siarad â nhw dros y penwythnos. Ymwelais â mosg fy hun ddydd Sul, yn benodol i gyfarfod â grŵp o bobl yn y fasnach dacsis, ac maen nhw wedi cael amser eithriadol o galed yn ystod y cyfnod hwn, ond mae cymorth ar gael iddyn nhw, yn rhannol drwy Lywodraeth Cymru ac yn rhannol drwy Lywodraeth y DU. Ac mae'r pecyn hwn yn parhau i helpu pobl, nid yn unig ym maes lletygarwch ond y rhai y mae eu bywoliaeth yn gysylltiedig ag ef.