Datganiad gan y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:33, 2 Rhagfyr 2020

Diolch, Llywydd. Erbyn dydd Mawrth nesaf, wrth gwrs, fe fydd y rheoliadau newydd yma ar waith. Felly, pa bwysau pellach fedrwch chi fel Llywydd ei ddwyn ar y Llywodraeth i sicrhau ein bod ni yn cael pleidlais ar yr egwyddor o gyflwyno'r rheoliadau newydd yma cyn iddyn nhw ddod i rym ddydd Gwener? Fe osodwyd cynsail i hyn efo'r cyfnod clo byr—y firebreak—pan gafwyd cyfle i bleidleisio cyn i hynny ddod i rym. Mae'r newidiadau yma a ddaw i mewn ddydd Gwener yn rhai sylweddol, ac rydyn ni hefyd angen gweld y dystiolaeth sydd wedi arwain at eu cyflwyno nhw. Felly, fe fyddwn i'n gofyn i chi a oes yna unrhyw ffordd y gallwch chi ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddod â'r ddadl yma ymlaen cyn dydd Gwener.