Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Darren Millar am ddewis y pwnc hwn ar gyfer ei ddadl fer, a Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad. Nid wyf am fynd i ddadlau pwy sy'n hyrwyddo pa rywogaethau, ond rwy'n credu y byddai'r frân goesgoch hefyd yn destun da ar gyfer dadl fer.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y wiwer goch wrth gwrs fel eicon yn ein cefn gwlad, ac yn anffodus, fel symbol o golli ein bioamrywiaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf. Fel y dengys yr adroddiad 'Cyflwr Mamaliaid', a lansiais yr wythnos diwethaf, mae traean o'n mamaliaid brodorol mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys colledion parhaus llawer o'n rhywogaethau mwyaf eiconig, megis y wiwer goch. Fodd bynnag, mae ymyriadau lleol wedi troi'r llanw mewn rhai lleoliadau, lle mae poblogaethau lleol yn gwella, gan ddefnyddio dulliau sydd bellach wedi'u profi. Fel y nodwyd, y bygythiad allweddol i'r wiwer goch yw clefyd feirysol a elwir yn frech y wiwer, ac nid yw'n gwneud fawr o niwed i'r gwiwerod llwyd goresgynnol anfrodorol, ond fel arfer mae'n angheuol i wiwerod coch. Gall gwiwerod llwyd heintio gwiwerod coch yn hawdd lle daw poblogaethau i gysylltiad â'i gilydd.
Cynefin naturiol gwiwerod coch yw coetir collddail brodorol Cymru. Fodd bynnag, mae llawer ohono wedi'i boblogi'n drwm yn awr gan wiwerod llwyd. Maent yn niweidio coed gan eu gwneud yn fwy agored i glefydau, ac felly maent yn fygythiad difrifol i'n coetiroedd brodorol a masnachol, gan leihau eu gallu i adfywio a'u gwerth fel cynefin, a hefyd ar gyfer pren. Mae planhigfeydd conwydd anfrodorol yn ffafrio gwiwerod coch dros rai llwyd, ond mae'r rhain yn niweidiol i lawer o agweddau eraill ar gadwraeth natur, gan gynnwys ansawdd y dŵr yn ein hafonydd sy'n cael eu bwydo o ardaloedd conwydd. Mae poblogaeth y wiwer goch ar Ynys Môn yn gwella'n gryf, ac mae unigolion bellach yn lledaenu i dir mawr Cymru, a hefyd yn gwasgaru drwy Arfon. Diolch yn bennaf i ymdrechion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Cymru, sydd wedi cael gwared ar wiwerod llwyd i raddau sylweddol o goedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, coedwig gonwydd yn bennaf, ac wedi atgyfnerthu poblogaeth weddilliol y wiwer goch drwy gyflwyno gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed o fannau eraill. Yn dilyn amrywiaeth o weithrediadau ar y tir mawr i reoli gwiwerod llwyd, mae gwiwerod coch o Ynys Môn bellach yn gwasgaru i'r coedwigoedd ar y tir mawr. Ac ymhellach i'r de, o dan stiwardiaeth Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae poblogaeth y wiwer goch yng nghanolbarth Cymru, a oedd i'w gweld yn agos at ddiflannu, hefyd wedi sefydlogi ac o bosibl yn cynyddu.
Derbyniodd y prosiect Cochion Iach tair blynedd o hyd presennol ychydig o dan £0.25 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ychydig o dan £50,000 drwy gynllun cymunedol treth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru i barhau â'r nod o fonitro poblogaethau o wiwerod coch a chodi ymwybyddiaeth. Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cryfhau niferoedd isel yn y goedwig drwy ryddhau gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed. Fe'u cefnogir gan Sw Mynydd Cymru, a cheir rhywfaint o dystiolaeth gynnar fod gwiwerod coch o Glocaenog yn gwasgaru i'r dirwedd ehangach. Mae rheoli gwiwerod llwyd yn hanfodol ar gyfer iechyd gwiwerod coch a'u cynefin naturiol brodorol. Fodd bynnag, mae gweithgarwch rheoli yn amhoblogaidd ymhlith rhai pobl sy'n caru anifeiliaid, gan eu bod yn cynnwys trapio a difa gwiwerod llwyd. Nid yw gwiwerod llwyd yn cael eu saethu gan sefydliadau cadwraeth neu sefydliadau coedwigaeth mawr, ond mae'n hysbys fod nifer o unigolion yn defnyddio'r dull hwn, yn bennaf ar gyfer diogelu pren. Mae beleod yn ysglyfaethwyr apig cyffredinol y gwyddys eu bod yn lleihau poblogaethau gwiwerod llwyd, ac mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent wedi llwyddo i ailgyflwyno nifer o feleod i ganolbarth Cymru. Gall y gostyngiad dilynol yn nifer y gwiwerod llwyd greu cyfleoedd i'r wiwer goch ailgytrefu'n naturiol neu gael ei hailgyflwyno. Trafodwyd camau pellach i fridio gwiwerod coch mewn caethiwed yn fforwm gwiwerod diwethaf Cymru, ar 7 Hydref. Anogodd fy swyddogion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac aelodau eraill o'r fforwm i lunio cynigion, gan gynnwys nodi safleoedd rhyddhau posibl ymhellach i'r de, yn dilyn protocol bridio a thrawsleoli Cytundeb Gwiwerod y DU. Er nad oes cynnig wedi dod i law eto, rwy'n deall ei fod ar y gweill.
Drwy gydol y pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i flaenoriaethu camau gweithredu i gefnogi creu rhwydweithiau ecolegol gwydn a fydd o fudd i amrywiaeth o rywogaethau, fel y nodir yn y diweddariad o'r cynllun gweithredu adfer natur ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn darparu mwy o gynefinoedd wedi'u cysylltu'n well er mwyn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch a mamaliaid eraill. Ac rydym wedi lansio cynllun grant, sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu i helpu i adfer ein cynefinoedd pwysicaf, a rhwydwaith Natura 2000, a sefydlwyd i sicrhau bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn goroesi'n hirdymor. Bydd ein rhaglen fforest genedlaethol yn creu ac yn gwella coetiroedd ledled Cymru, gan helpu unwaith eto i wella a chysylltu coetiroedd a chynefinoedd eraill. Bydd hyn hefyd yn galluogi gwiwerod coch i wasgaru i ardaloedd newydd, ac yn mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â darnio cynefinoedd a phoblogaethau. Fodd bynnag, mae angen inni wneud mwy i wella ein tystiolaeth a'n dealltwriaeth, a sefydlu camau trawsnewidiol ar gyfer bioamrywiaeth ar draws pob sector. I'n helpu gyda hyn, bydd gan y bartneriaeth Natur am Byth a sefydlwyd yn ddiweddar, partneriaeth rwy'n ei chefnogi, raglen gyfathrebu ar raddfa fawr a fydd yn dathlu ystod eang o rywogaethau prin a bregus ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'n werth nodi na fydd y prosiect yn cynnwys y wiwer goch yn ei restr o tua 70 o rywogaethau targed oherwydd y cyfoeth o bartneriaethau a mentrau, y clywsom am rai ohonynt heddiw, sy'n bwrw ati i weithredu dros y rhywogaeth hon yng Nghymru. Diolch.