– Senedd Cymru am 6:09 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Y ddadl fer, felly, sydd nesaf, ac mae dadl heddiw i'w chyflwyno gan Darren Millar ar fywyd gwyllt eiconig Cymru—helyntion y wiwer goch yng Nghymru. Dwi'n galw ar Darren Millar i gyflwyno'r pwnc.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Rhun ap Iorwerth.
Fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yma yn y Senedd, rwy'n falch o siarad am yr anifeiliaid anhygoel hyn, a diolch i Dduw fod Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi fy mharu â symbol mor annwyl ac eiconig o fywyd gwyllt Cymru. Gallaf gofio wynebau cyd-Aelodau wrth i'w rhywogaethau gael eu datgelu yn y Senedd yn ôl yn 2016. Cafwyd gwên gan Paul Davies wrth iddo gael ei benodi'n hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y pâl, rhyddhad gan Janet Finch-Saunders wrth iddi gael ei pharu â'r llamhidydd, y cegau agored wrth i Kirsty Williams gael ei pharu â'r brithyll brown, ac ymdeimlad o anghyfiawnder wrth i Jeremy Miles gael ei benodi'n hyrwyddwr y llyffant dafadennog.
Ond mae bod yn hyrwyddwr rhywogaethau yn rhywbeth rwyf wedi bod o ddifrif yn ei gylch, ac i mi o leiaf, mae wedi cynnau diddordeb gwirioneddol yn nhrafferthion bywyd gwyllt Cymru. Yn fyd-eang, statws cadwraeth gwiwerod coch Ewrasiaidd yw 'dan ddim bygythiad' ond wrth gwrs, nid yw hyn yn wir yma yng Nghymru, oherwydd mae'r wiwer goch yn ffynnu mewn mannau eraill ledled Ewrop—mewn gwirionedd, mor bell i'r gorllewin â Sbaen, a'r holl ffordd draw i Siberia yn y dwyrain—ond yma yng Nghymru mae'r wiwer goch wedi bod dan fygythiad ers dros ganrif.
Fel yr unig rywogaeth o wiwer frodorol yng Nghymru, mae'r wiwer goch yn symbol eiconig o fywyd gwyllt Cymru a'n treftadaeth naturiol. Ers dros 10,000 o flynyddoedd, mae gwiwerod coch wedi poblogi'r mwyafrif llethol o ynysoedd Prydain. Mor ddiweddar â 1945, y wiwer goch oedd y rhywogaeth fwyaf ac amlycaf o wiwerod ym Mhrydain, gan gynnwys yma yng Nghymru, ac eto heddiw mae poblogaeth y wiwer wedi gostwng yn eithafol, ac mae dau brif reswm dros y dirywiad dychrynllyd hwn: colli cynefin a dyfodiad y wiwer lwyd i Brydain yn y 1800au. Ceir cofnodion ohonynt yn cael eu rhyddhau, gyda'r rhan fwyaf ohonynt o gasgliadau preifat neu anifeiliaid anwes, yn dyddio mor bell yn ôl â 1828, pan ryddhawyd un wiwer, mae'n debyg, ger Neuadd Llantysilio yn Sir Ddinbych. Mae cofnod hefyd o bum gwiwer o Woburn yn cael eu rhyddhau yn Wrecsam yn 1903, a nifer o Sw Llundain yn cael eu rhyddhau yn Aberdâr yn 1922. Ac o'r dechreuadau bach hyn, collodd gwiwerod coch dir yn gyflym i'w cefndryd Americanaidd mwy o faint a mwy ymosodol, gan na allent gystadlu am gynefin na bwyd. Ac ar ben hyn, daeth y gwiwerod llwyd â chlefyd—brech y wiwer. Profodd y clefyd cymharol ddiniwed hwn i wiwerod llwyd, a oedd wedi magu imiwnedd dros ddegau o filoedd o flynyddoedd, yn ddinistriol ac yn angheuol i'n gwiwerod coch brodorol, nad oes ganddynt imiwnedd naturiol i'r feirws, ac mae wedi lladd llawer.
Nid yw'n syndod, felly, fod y wiwer lwyd wedi cytrefu yng Nghymru i raddau helaeth erbyn y 1980au. Yn anhygoel, mae poblogaethau'r wiwer goch ym Mhrydain wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i boblogaeth gyfredol amcangyfrifedig o ddim ond 120,000. Wrth inni nesáu at ddiwedd y mileniwm, roedd yr unig wiwerod coch a oedd ar ôl yng Nghymru wedi'u cyfyngu i dri lle yn unig. Llwyddodd llai na 50 i oroesi ar Ynys Môn, roedd rhai cannoedd ar ôl yn Sir Ddinbych ac roedd rhai cannoedd wedi goroesi yn groes i'r disgwyl yng nghanolbarth Cymru hefyd. Erbyn diwedd y 1990au, bernid bod y canolfannau poblogaeth hyn mewn perygl sylweddol, a heb amheuaeth roedd dyfodol y wiwer goch yn llwm.
Ond mae rhywfaint o obaith. Yn 1998, dechreuodd y frwydr i'w chael yn ôl. Dechreuwyd yr ymdrechion cadwraeth cychwynnol ar Ynys Môn. Cawsant eu harwain gan Menter Môn gyda chyllid yr UE a grantiau treth tirlenwi yn ddiweddarach. Ac mae'n ddigon posibl mai Ynys Môn yw'r llwyddiant mwyaf calonogol i unrhyw gadwraethwr sy'n edrych ar droi'r llanw yn achos rhywogaethau sy'n dirywio. Pan ddechreuodd yr ymdrechion cadwraeth ar Ynys Môn, dim ond tua 40 o wiwerod oedd ar ôl ar yr ynys, ond oherwydd arweinyddiaeth Craig Shuttleworth ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, mae'r ymdrechion hyn wedi talu ar eu canfed. Gyda'i gilydd, heddiw, mae tua 800 o wiwerod coch ar yr ynys honno'n unig, ac mae'r boblogaeth mor fawr fel bod nifer o wiwerod coch wedi dianc o Ynys Môn hyd yn oed, gan groesi afon Menai, i ffurfio poblogaeth fechan yn ardal Bangor. Erbyn 2013, roedd yr holl wiwerod llwyd wedi cael eu symud o'r ynys, ac erbyn 2015 datganwyd ei fod yn barth di-wiwer lwyd. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw ymdrech gadwraeth, cafwyd rhai methiannau. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae saith gwiwer lwyd wedi'u dal ar yr ynys, a phe na bai'r gwiwerod hynny wedi'u dal gan y cadwraethwyr ymroddedig, byddai eu hymdrechion i amddiffyn ein cyfeillion blewog wedi cael eu difetha.
Rwy'n falch o allu dweud bod fy etholaeth i hefyd yn gartref i un o'r tair lloches ar gyfer gwiwerod coch yng Nghymru. Ar ddiwedd y 1990au, roedd coedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych i'w gweld yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yn y wlad. Ond erbyn 2011, daeth yn eithaf clir fod y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i boblogaeth gynyddol o wiwerod llwyd yn yr ardal. Roedd yn amlwg fod y wiwer goch yng nghoedwig Clocaenog dan fygythiad a bod rhaid gwneud rhywbeth.
Rwy'n falch o ddweud bod ymdrechion cadwraeth a arweiniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru wedi gweld llwyddiant mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Drwy reoli coedwigoedd yn ofalus a thrwy ryddhau gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed i'r ardal i gryfhau'r boblogaeth frodorol, rydym wedi gweld adferiad araf a chyson yn nifer y gwiwerod coch yn yr ardal. Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog wedi helpu'r gwaith hwn, ac mae'n rhaid i mi ddatgan fy aelodaeth o'r ymddiriedolaeth honno. Mae wedi meithrin perthynas a phartneriaeth gref gyda CNC ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru er mwyn troi'r llanw ar ffawd yr anifeiliaid bendigedig hyn.
Y partneriaethau cryf hyn rhwng grwpiau cadwraeth, asiantaethau'r Llywodraeth a gwirfoddolwyr sydd wedi gosod glasbrint mor gadarn ar gyfer ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr niferus y cyfarfûm â hwy wrth ymweld â choedwig Clocaenog, gan gynnwys Chris Bamber, cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Dave Wilson a Vic Paine. Mae eu hymdrechion cadwraeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Ac wrth gwrs, nid yw'r ymdrechion cadwraeth wedi'u cyfyngu i Ynys Môn nac i Sir Ddinbych. Maent hefyd ar y gweill yng nghoedwig Tywi yng nghanolbarth Cymru. Mae tua 300 o wiwerod coch bellach yn galw'r goedwig yn gartref iddynt, diolch i ymdrechion prosiect Red Squirrels United—rhaglen gadwraeth dair blynedd a ariennir gan gronfa dreftadaeth y loteri. Mae cymaint o waith wedi'i wneud i warchod ein poblogaeth o wiwerod coch, ond wrth gwrs, rydym ymhell iawn o fod wedi gorffen. Mae gan ddyfodol cadwraeth gwiwerod coch botensial i fod yn feiddgar ac yn fywiog—fel gwiwer o fywiog yn wir.
Yng ngogledd Cymru, mae'r prosiect Mamaliaid Hudolus ar fin dechrau. Prosiect pum mlynedd yw hwn sy'n cael ei ddatblygu i ddod â CNC, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru at ei gilydd i ffurfio ymdrech gadwraeth flaenllaw yn fy etholaeth i ac o'i hamgylch. Ond nid yw'r ymdrechion cadwraeth hyn wedi'u cyfyngu i goedwigoedd yn unig; mae'r gwaith yn mynd rhagddo mewn mannau eraill hefyd. Fel hyrwyddwr y wiwer goch ac yn noddwr balch ac aelod oes o Sw Mynydd Cymru, rwy'n hynod falch o raglen fridio'r wiwer goch sydd wedi'i lleoli ym Mae Colwyn. Yn 1989, dechreuodd y sw ei brosiect cadwraeth hiraf, sydd hyd heddiw yn ymrwymedig i warchod gwiwerod coch ar draws ynysoedd Prydain. A thrwy weithio ledled y DU, mae'r rhaglen fridio honno wedi arwain ymchwil hanfodol ar ailgyflwyno bywyd gwyllt ac effaith brech y wiwer. Chwaraeodd ein sw genedlaethol ran flaenllaw a chynnar yn y gwaith o ailgyflwyno rhan eiconig o fywyd gwyllt Cymru ar Ynys Môn ac yng Nghaeaenog, ac rwyf am achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'r sw am yr holl waith cadwraeth y mae wedi'i wneud gyda gwiwerod coch, a rhywogaethau eraill yn wir, oherwydd nid oes amheuaeth, heb ein sw genedlaethol, byddai ein bywyd gwyllt yn llai amrywiol ac yn llai cyfoethog nag y mae.
Yn ogystal â'r rhaglenni bridio sy'n digwydd mewn caethiwed, mae dulliau cadwraeth eraill hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Rhwng 2015 a 2017, rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent dros 50 o feleod ger Pontarfynach yng Ngheredigion. Fel ysglyfaethwr naturiol i'r wiwer lwyd, mae cyflwyno'r beleod wedi helpu i gadw'r boblogaeth o wiwerod llwyd i lawr a than reolaeth. Mae angen inni fabwysiadu ymdrech gadwraethol gyfannol o'r fath os yw poblogaeth y wiwer goch ledled Cymru a gweddill y DU i wella ymhellach. Yn ogystal â bygythiad gwiwerod llwyd, mae cwympo coed hefyd yn fygythiad hirdymor sylweddol i'n ffrindiau blewog. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, diolch byth, mae nifer o amddiffyniadau cyfreithiol gan y wiwer goch. Mae'n anghyfreithlon i ladd neu achosi anaf i wiwer goch yn fwriadol, mae'n anghyfreithlon i aflonyddu ar neu rwystro nythod gwiwerod sy'n cael eu defnyddio, ac wrth gwrs, mae'n anghyfreithlon i darfu ar wiwer tra mae yn ei nyth. Ac er bod croeso mawr i'r amddiffyniadau hyn, nid ydynt yn ddigon, oherwydd er bod y gyfraith yn diogelu coed unigol sy'n gartref i wiwerod rhag cael eu cwympo, nid yw'n diogelu'r cynefin cyfagos, sydd, wrth gwrs, yr un mor bwysig ar gyfer goroesiad hirdymor y rhywogaeth. Mae angen i reolwyr cynefinoedd coedwigoedd fod wrth wraidd yr ymdrech gadwraeth hon, ac er cymaint y mae CNC eisiau diogelu ein bywyd gwyllt, mae arnaf ofn nad oes ganddynt ddigon o bwerau ar hyn o bryd i allu gwneud hynny.
Fel y mae pethau, yr unig reswm y gall CNC wrthod trwydded cwympo coed yw am resymau'n ymwneud ag arferion rheoli coedwigoedd gwael. Nid yw'r gyfraith yn caniatáu i CNC wrthod trwydded, hyd yn oed os gwyddys y bydd y drwydded honno'n achosi niwed sylweddol i gynefin naturiol gwiwerod coch. A gwn, Weinidog, fod hyn yn rhywbeth rydym wedi gohebu arno yn y gorffennol mewn perthynas â'r trefniadau presennol hyn. Rwy'n eu hystyried yn anghywir, ac nid wyf yn credu eu bod yn adlewyrchu'r gwerth y mae pobl ledled Cymru yn ei roi ar ein bywyd gwyllt, ac ar y wiwer goch yn arbennig. Felly, rwy'n eich annog chi, a'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, i gyflwyno model trwyddedu gwahanol a fyddai'n caniatáu i CNC allu gwrthod trwyddedau cwympo coed sy'n cael effaith andwyol annerbyniol ar gynefin bywyd gwyllt. Mae hyn yn digwydd eisoes yn yr Alban, a chredaf fod hwnnw'n fodel y dylem ei fabwysiadu.
Ddirprwy Lywydd, mae trafferthion y wiwer goch, a rhywogaethau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, wedi mynd o dan y radar yn rhy hir. Heb y camau priodol i ddiogelu ein bywyd gwyllt yma yng Nghymru, mae perygl inni achosi niwed na ellir ei unioni i'n treftadaeth naturiol. Yma yng Nghymru, rydym wedi cael ein bendithio â chefn gwlad bendigedig a bywyd gwyllt gwych, a'n dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol yw pasio'r cyfoeth toreithiog hwnnw a etifeddwyd gennym mewn gwell cyflwr nag y'i cawsom. Yng ngeiriau'r Prif Weinidog gwych, Margaret Thatcher,
Nid oes gan yr un genhedlaeth rydd-ddaliad ar y ddaear hon. Y cyfan sydd gennym yw tenantiaeth oes—gyda les atgyweirio lawn.
Ac rwyf am annog holl Aelodau'r Senedd, a Llywodraeth Cymru, i anrhydeddu'r denantiaeth oes honno. Ein dyletswydd yw diogelu ein hamgylchedd a chefnogi'r wiwer goch a bywyd gwyllt eiconig arall yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Darren Millar am gynnig y wiwer goch fel testun i'r ddadl yma. Fel rydyn ni wedi clywed, mae o'n anifail sy'n cael ei gysylltu'n agos iawn efo Ynys Môn. Mae o'n eicon yn Ynys Môn, ac mae'n werth i mi fod yn onest, dwi'n sensitif iawn ynglŷn â'r ffaith nad Aelod Ynys Môn gafodd ei ddewis i fod yn bencampwr y wiwer goch. Ond, yn digwydd bod, mae gennym ni sawl anifail eiconig yn Ynys Môn, felly dwi'n browd iawn o fod yn bencampwr y frân goesgoch, y chough. Felly edrych ar ôl y wiwer, Darren.
Ond mae yna bwyntiau pwysig iawn wedi cael eu gwneud yn fan hyn. Nid ar ddamwain mae'r wiwer goch wedi cael ei achub. Mae wedi cael ei achub drwy waith caled. Dwi'n ddiolchgar i Craig Shuttleworth a'i dimau o gadwraethwyr, a dwi'n ddiolchgar i Menter Môn, ond mae angen gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu dyfodol y wiwer hefyd, mewn deddfwriaeth lle mae hynny'n bosib, a drwy sicrhau cyllid ar gyfer gwaith parhaol mewn blynyddoedd i ddod. Ond diolch am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau, a dwi'n edrych ymlaen am sicrwydd o'r gefnogaeth yna i barhau gan y Gweinidog heddiw.
Galwaf yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Darren Millar am ddewis y pwnc hwn ar gyfer ei ddadl fer, a Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad. Nid wyf am fynd i ddadlau pwy sy'n hyrwyddo pa rywogaethau, ond rwy'n credu y byddai'r frân goesgoch hefyd yn destun da ar gyfer dadl fer.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y wiwer goch wrth gwrs fel eicon yn ein cefn gwlad, ac yn anffodus, fel symbol o golli ein bioamrywiaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf. Fel y dengys yr adroddiad 'Cyflwr Mamaliaid', a lansiais yr wythnos diwethaf, mae traean o'n mamaliaid brodorol mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys colledion parhaus llawer o'n rhywogaethau mwyaf eiconig, megis y wiwer goch. Fodd bynnag, mae ymyriadau lleol wedi troi'r llanw mewn rhai lleoliadau, lle mae poblogaethau lleol yn gwella, gan ddefnyddio dulliau sydd bellach wedi'u profi. Fel y nodwyd, y bygythiad allweddol i'r wiwer goch yw clefyd feirysol a elwir yn frech y wiwer, ac nid yw'n gwneud fawr o niwed i'r gwiwerod llwyd goresgynnol anfrodorol, ond fel arfer mae'n angheuol i wiwerod coch. Gall gwiwerod llwyd heintio gwiwerod coch yn hawdd lle daw poblogaethau i gysylltiad â'i gilydd.
Cynefin naturiol gwiwerod coch yw coetir collddail brodorol Cymru. Fodd bynnag, mae llawer ohono wedi'i boblogi'n drwm yn awr gan wiwerod llwyd. Maent yn niweidio coed gan eu gwneud yn fwy agored i glefydau, ac felly maent yn fygythiad difrifol i'n coetiroedd brodorol a masnachol, gan leihau eu gallu i adfywio a'u gwerth fel cynefin, a hefyd ar gyfer pren. Mae planhigfeydd conwydd anfrodorol yn ffafrio gwiwerod coch dros rai llwyd, ond mae'r rhain yn niweidiol i lawer o agweddau eraill ar gadwraeth natur, gan gynnwys ansawdd y dŵr yn ein hafonydd sy'n cael eu bwydo o ardaloedd conwydd. Mae poblogaeth y wiwer goch ar Ynys Môn yn gwella'n gryf, ac mae unigolion bellach yn lledaenu i dir mawr Cymru, a hefyd yn gwasgaru drwy Arfon. Diolch yn bennaf i ymdrechion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Cymru, sydd wedi cael gwared ar wiwerod llwyd i raddau sylweddol o goedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, coedwig gonwydd yn bennaf, ac wedi atgyfnerthu poblogaeth weddilliol y wiwer goch drwy gyflwyno gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed o fannau eraill. Yn dilyn amrywiaeth o weithrediadau ar y tir mawr i reoli gwiwerod llwyd, mae gwiwerod coch o Ynys Môn bellach yn gwasgaru i'r coedwigoedd ar y tir mawr. Ac ymhellach i'r de, o dan stiwardiaeth Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae poblogaeth y wiwer goch yng nghanolbarth Cymru, a oedd i'w gweld yn agos at ddiflannu, hefyd wedi sefydlogi ac o bosibl yn cynyddu.
Derbyniodd y prosiect Cochion Iach tair blynedd o hyd presennol ychydig o dan £0.25 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ychydig o dan £50,000 drwy gynllun cymunedol treth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru i barhau â'r nod o fonitro poblogaethau o wiwerod coch a chodi ymwybyddiaeth. Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cryfhau niferoedd isel yn y goedwig drwy ryddhau gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed. Fe'u cefnogir gan Sw Mynydd Cymru, a cheir rhywfaint o dystiolaeth gynnar fod gwiwerod coch o Glocaenog yn gwasgaru i'r dirwedd ehangach. Mae rheoli gwiwerod llwyd yn hanfodol ar gyfer iechyd gwiwerod coch a'u cynefin naturiol brodorol. Fodd bynnag, mae gweithgarwch rheoli yn amhoblogaidd ymhlith rhai pobl sy'n caru anifeiliaid, gan eu bod yn cynnwys trapio a difa gwiwerod llwyd. Nid yw gwiwerod llwyd yn cael eu saethu gan sefydliadau cadwraeth neu sefydliadau coedwigaeth mawr, ond mae'n hysbys fod nifer o unigolion yn defnyddio'r dull hwn, yn bennaf ar gyfer diogelu pren. Mae beleod yn ysglyfaethwyr apig cyffredinol y gwyddys eu bod yn lleihau poblogaethau gwiwerod llwyd, ac mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent wedi llwyddo i ailgyflwyno nifer o feleod i ganolbarth Cymru. Gall y gostyngiad dilynol yn nifer y gwiwerod llwyd greu cyfleoedd i'r wiwer goch ailgytrefu'n naturiol neu gael ei hailgyflwyno. Trafodwyd camau pellach i fridio gwiwerod coch mewn caethiwed yn fforwm gwiwerod diwethaf Cymru, ar 7 Hydref. Anogodd fy swyddogion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac aelodau eraill o'r fforwm i lunio cynigion, gan gynnwys nodi safleoedd rhyddhau posibl ymhellach i'r de, yn dilyn protocol bridio a thrawsleoli Cytundeb Gwiwerod y DU. Er nad oes cynnig wedi dod i law eto, rwy'n deall ei fod ar y gweill.
Drwy gydol y pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i flaenoriaethu camau gweithredu i gefnogi creu rhwydweithiau ecolegol gwydn a fydd o fudd i amrywiaeth o rywogaethau, fel y nodir yn y diweddariad o'r cynllun gweithredu adfer natur ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn darparu mwy o gynefinoedd wedi'u cysylltu'n well er mwyn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch a mamaliaid eraill. Ac rydym wedi lansio cynllun grant, sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu i helpu i adfer ein cynefinoedd pwysicaf, a rhwydwaith Natura 2000, a sefydlwyd i sicrhau bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn goroesi'n hirdymor. Bydd ein rhaglen fforest genedlaethol yn creu ac yn gwella coetiroedd ledled Cymru, gan helpu unwaith eto i wella a chysylltu coetiroedd a chynefinoedd eraill. Bydd hyn hefyd yn galluogi gwiwerod coch i wasgaru i ardaloedd newydd, ac yn mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â darnio cynefinoedd a phoblogaethau. Fodd bynnag, mae angen inni wneud mwy i wella ein tystiolaeth a'n dealltwriaeth, a sefydlu camau trawsnewidiol ar gyfer bioamrywiaeth ar draws pob sector. I'n helpu gyda hyn, bydd gan y bartneriaeth Natur am Byth a sefydlwyd yn ddiweddar, partneriaeth rwy'n ei chefnogi, raglen gyfathrebu ar raddfa fawr a fydd yn dathlu ystod eang o rywogaethau prin a bregus ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'n werth nodi na fydd y prosiect yn cynnwys y wiwer goch yn ei restr o tua 70 o rywogaethau targed oherwydd y cyfoeth o bartneriaethau a mentrau, y clywsom am rai ohonynt heddiw, sy'n bwrw ati i weithredu dros y rhywogaeth hon yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw. Diolch.