Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch am yr ateb yna. Does yna neb yn gwadu, wrth gwrs, yr heriau sy'n codi o'r amgylchiadau mae'n rhaid cadw'r brechiad ynddyn nhw. Mae fy ail gwestiwn i yn ymwneud â'r her ddosbarthu yna; mae o ynglŷn â sicrhau bod yna gyfle cyfartal i bobl, lle bynnag maen nhw yng Nghymru, i gael y brechiad. Mae hi wedi cael ei awgrymu i mi mewn briefings gan swyddogion efallai nad y brechlyn yma ydy'r un mwyaf addas i ardaloedd mwy anodd i'w cyrraedd—ardaloedd gwledig, er enghraifft. Ond, wrth gwrs, dim ond hwn sydd gennym ni wedi cael sêl bendith ar hyn o bryd. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd pobl yn cael eu trin yn yr un ffordd o ran eu gallu i gael y brechlyn, os ydyn nhw yn y grŵp targed penodol, p'un a ydyn nhw yn Wrecsam neu Risga neu Aberdaron neu Aberdâr?