Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Nid cerdyn adnabod mo hwn. Nid oedd unrhyw fwriad erioed iddo fod yn gerdyn adnabod. Nid yw gwneud hynny o fewn ein pwerau. Mae a wnelo'n syml ag atgoffa pobl pryd i ddychwelyd i gael eu dos nesaf o'r brechlyn, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol. Ac wrth gwrs, bydd yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl y dônt i gysylltiad â hwy. Felly, nid oes agenda arall yma o gwbl. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r brechlyn a'r cyfle y mae'n ei ddarparu i bob un ohonom.