Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:47, 2 Rhagfyr 2020

Diolch, Llywydd. Mae heddiw yn ddiwrnod mor galonogol o ran y cyhoeddiad bod y brechlyn cyntaf wedi cael sêl bendith. Y ffordd dwi'n ei gweld hi ydy ein bod ni ar ddechrau—nid diwedd, ond dechrau—y bennod olaf yn y pandemig yma. Ond rŵan, wrth gwrs, wrth inni symud tuag at y golau ym mhen draw y twnnel, gobeithio, mae eisiau dosbarthu'r brechlyn yma. Rydyn ni wedi clywed yn barod gyfeiriad at y ffaith bod grŵp sydd ar frig y rhestr o flaenoriaethau, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal, sef pobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal, yn methu â chael brechlyn oherwydd rhesymau ymarferol. Mae hynny yn fy mhryderu fi, mae'n rhaid dweud. Ydy'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder i bod gosod blaenoriaeth a dweud, yn syth bin, bod dim modd gwireddu yr amcan o gyrraedd y grŵp blaenoriaeth yna yn syth yn tanseilio, braidd, yr hyder y gall pobl ei gael yn y broses ar gyfer dosbarthu'r brechlyn yma?