Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 2 Rhagfyr 2020

Diolch am y sicrwydd ar y pwyntiau yna. Mae hynny'n bwysig—hynny ydy, sicrhau bod Cymru'n cael ei siâr o bob batsh, nid o'r holl archeb, a bod y gwahanol wledydd yn y Deyrnas Unedig yn gallu dechrau ar y broses yr un pryd.

Rydyn ni yn aros am sêl bendith o leiaf ddau frechlyn arall yn y tymor byr, rydyn ni'n gobeithio. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod bod y cwestiwn o ddibynadwyedd brechlyn Rhydychen—AstraZeneca—wedi bod yn destun cryn ddadlau yn ddiweddar. Rydyn ni'n mawr obeithio, yn sicr, y bydd o yn ddigon effeithiol i gael ei gymeradwyo, ond efallai na fydd o'r un mor effeithiol â'r brechiadau eraill. Ond—ac mae hyn yn allweddol—efallai y bydd o'n rhatach. A gawn ni sicrwydd na fydd penderfyniad ar ba frechlyn sy'n cael ei ddefnyddio yn lle, o ran gwahanol lefydd daearyddol neu wahanol gyd-destunau, yn cael ei wneud ar sail cost?