Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Cyhoeddais ddatganiad yr wythnos diwethaf yn nodi’n glir iawn ein bod wedi caffael cyfarpar diogelu personol yn llwyddiannus ac yn unol â'r rheolau a chyda’r uniondeb priodol. Mae cwestiynau amlwg wedi’u gofyn—nid gan gyhoeddiadau asgell chwith, ond gan 'The Times' ac eraill, a bydd yn rhaid ateb y rheini. Rwy’n llwyr ddisgwyl nid yn unig y bydd rhagor o sylw’n cael ei roi iddo gan adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gyfer Lloegr, ond credaf y bydd mwy o bobl yn croesawu’r sicrwydd y gallaf ei roi nad oes unrhyw weithgarwch amheus wedi bod o ran cyfarpar diogelu personol yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae tîm Cymru—yn enwedig ein tîm cydwasanaethau—wedi mynd ati i gaffael cyfarpar diogelu personol yn llwyddiannus ac mewn ffordd gwbl dryloyw i wasanaethu anghenion ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen.