Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Credaf fod sawl pwynt gwahanol yno. O ran yr alwad y gwn i chi ei gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol am Weinidog brechu, oni bai fod y Prif Weinidog yn penderfynu fel arall, fi yw hwnnw. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd, mae hon yn rhaglen imiwneiddio, byddech yn disgwyl iddi gael ei darparu drwy’r lle hwn. Nid yw'n syndod mai'r prif swyddog meddygol yw'r uwch-swyddog, ynghyd â Gill Richardson, sy'n uwch-gynghorydd proffesiynol i'r prif swyddog meddygol ac yn gyn-gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a'u bod yn arwain o safbwynt gweision sifil ac yn dod â phobl ynghyd mewn byrddau iechyd a fydd wedyn yn cyflawni. Ac rwy'n ddiolchgar iawn—dylwn wneud y pwynt hwn eto—am y ffordd y mae cynllunwyr milwrol wedi ymroi i gynorthwyo ein gwasanaeth iechyd gwladol. Drwy gydol y pandemig, mae'r lluoedd arfog wedi chwarae rhan ragorol yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ein hamcanion i helpu i gadw Cymru'n ddiogel, ac maent yn rhan fawr o'r dull tîm Cymru o gyflenwi’r brechlyn.
Gyda phob parch, drwy'r gaeaf, gyda'r holl bwysau arferol, a chyda heriau cyfradd heintio gynyddol y coronafeirws yn dal i fod yn sylweddol, a’r holl niwed a ddaw yn sgil hynny, mae arnaf ofn nad wyf yn credu ei fod yn ddisgwyliad realistig i ddweud y gallem fod yn disgwyl rhaglen frechu sylweddol yn ogystal â gallu mynd i’r afael â'r ôl-groniad yn yr amseroedd aros. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith ofnadwy o flaenoriaethu, ac os na allwn adfer rheolaeth a brwydro yn erbyn y coronafeirws, hyd yn oed os nad ydym yn brechu pobl ar yr un pryd, efallai y bydd yn rhaid inni wneud mwy o ddewisiadau ynghylch gweithgarwch dianghenraid, ac mae hynny hefyd yn arwain at niwed, ac rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Felly dyna'r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, gyda rhaglen frechu ar ben hynny. Mae’n amlwg fod hon yn flaenoriaeth hollbwysig, felly bydd rhaid inni ymdrin â'r blaenoriaethau angenrheidiol hynny. Rwy'n gobeithio, serch hynny, ei fod yn cadarnhau i'r cyhoedd yr angen i ystyried y rhaglen frechu a fydd yn cychwyn yn y dyfodol agos iawn fel cyfle i gyrraedd y dyfodol hwnnw yn un darn, ac i beidio â gollwng gafael ar yr holl aberthau a wnaed hyd yn hyn, a pheidio â gweithredu cyn y daw’r brechlyn fel pe na bai angen parhau â'r cyfyngiadau anffodus ac annymunol rydym yn byw gyda hwy, gyda'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a'r ffordd na allwn gael y cyswllt dynol sydd mor bwysig i bob un ohonom. Ond os gallwn ddal ati a dygnu arni, dilyn y cyfyngiadau, a gwneud yr hyn y dylem ei wneud am ychydig fisoedd yn rhagor, fe gawn ddyfodol gwahanol ac yn sicr bydd gennym ôl-groniad sylweddol i fynd i'r afael ag ef yma yng Nghymru, ac yn wir, ym mhob gwlad yn y DU.