Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Wel, rwy'n hynod ddiolchgar i bobl ar draws y diwydiant lletygarwch am y ffordd y maent wedi newid ac addasu. Ac rwy’n cydymdeimlo'n fawr â hwy oherwydd yr amser ofnadwy o anodd y maent yn ei wynebu. Roeddem yn awyddus i adael y cyfnod atal byr gyda phatrwm a fyddai’n para hyd at ddiwedd y flwyddyn, ond fel y dywedodd y Prif Weinidog, dywedais efallai y byddai angen inni weithredu eto pe bai’r cyfraddau’n newid. Ac fel rwyf newydd ddweud mewn ymateb i gwestiwn Alun Davies, mae'r cyfraddau yng Nghymru heddiw dros 220 ym mhob 100,000. Felly, nid yw'r cyfle i gyrraedd diwedd y flwyddyn heb ymyrraeth bellach ar gael inni, a bu’n rhaid inni benderfynu beth i wneud.
Edrychwch, gwn nad yw'n hawdd gwneud elw yn y sector lletygarwch. Gwn fod y rhain yn aml yn fusnesau bach, busnesau teuluol, ac mae gan bobl gysylltiad personol iawn â'u busnes. Gwn hefyd fod hwn yn sector sy'n cyflogi llawer o bobl iau y mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lawer o'r ffyrdd y maent yn byw eu bywydau ac yn mwynhau eu bywydau, ac nid yw'n ddewis y mae Gweinidogion wedi’i wneud yn rhwydd neu’n ddiofal. Mae Eluned Morgan, sydd gyda ni yn y Siambr heddiw, wedi cael llawer o'r sgyrsiau hynny gyda'r sector lletygarwch. Hi yw ein Gweinidog arweiniol wrth weithio gyda'r sector, ac mae'n anodd. Ac mae pob un ohonom yn deall pam eu bod mor ofidus, a pham na fyddent? Mae cyfyngiadau sylweddol wedi’u cyflwyno yn y sector hwnnw, a gwyddom y bydd hynny'n peri niwed. Ac eto, gwyddom nad yw gwneud dim yn opsiwn. Y dystiolaeth sydd gennym yw mai cyfyngiadau tebyg i gyfyngiadau haen 3 yn Lloegr a'r Alban sydd â'r gobaith gorau o reoli’r coronafeirws. Y gwahaniaeth arwyddocaol o ran lle mae Cymru heddiw a haen 3 yn Lloegr neu'r Alban yw lletygarwch. A byddwch wedi clywed y prif swyddog meddygol ar y radio’r bore yma yn sôn am y ffaith bod Cymru, ar hyn o bryd, yn unigryw yn yr ystyr fod ganddi ymagwedd fwy hael o lawer o ran lletygarwch ac alcohol, ac nid oedd modd parhau yn y ffordd honno. Ac mae'r dystiolaeth yno, o brofiad o fewn ynysoedd Prydain—felly, Llywodraethau a gwledydd y gallwn gymharu ein hunain â hwy’n llawer haws—lle mae'r cyfyngiadau hynny wedi cael effaith. Gwnaethom rannu'r wybodaeth honno gyda hwy; gwn fod Eluned Morgan wedi treulio amser yn siarad â hwy, nid yn unig dros yr wythnosau diwethaf, ond dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, wrth drafod y dystiolaeth gyda hwy. Mae amharodrwydd yno, oes, a pham na fyddent yn amharod? Ond mae rhywfaint o ddealltwriaeth yno hefyd fod angen inni weithredu.
Nid wyf yn mwynhau sefyll a dadlau dros gyfyngiadau ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau a'r ffordd y mae busnesau'n gweithredu, ond mae arnaf ofn fod y dystiolaeth yno, pe na baem yn gwneud hyn, pe na baem yn mabwysiadu tystiolaeth o'r hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r DU, byddem yn cael sgwrs wahanol mewn ychydig wythnosau ynglŷn â pham fod y Llywodraeth, er gwaethaf y dystiolaeth honno, er gwaethaf y dystiolaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r papur y byddwn yn ei gyhoeddi cyn bo hir gan ein cell cyngor technegol ein hunain—pam y gwnaethom ddewis peidio â gweithredu. Bydd cost wahanol inni edrych arni bryd hynny, ac nid yw'n un rwy’n barod i’w thalu.