1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau diogelu iechyd ym Mlaenau Gwent? OQ55955
Yn ychwanegol at y canllawiau cenedlaethol a gyflwynwyd yn dilyn y cyfnod atal byr, mae'r tîm rheoli digwyddiadau ledled Gwent wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer ymyrraeth gymunedol. Mae pob un o'n partneriaid ar lawr gwlad yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i leihau cyfraddau heintio, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i'w cefnogi gyda’u hymdrechion.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog, ac rwy'n ymuno â naws y trafodaethau y prynhawn yma, lle mae pob un ohonom yn croesawu'r newyddion y bydd y brechlyn ar gael, ac edrychwn ymlaen at weld hynny’n newid y sefyllfa iechyd ym Mlaenau Gwent a mannau eraill yn sylweddol. Ond yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym wedi gweld niferoedd yr haint heddiw sy'n dangos bod Blaenau Gwent ar frig y cyfraddau hyn yng Nghymru unwaith eto. Ac rwy’n cydnabod yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud gyda rheoliadau, a buom yn trafod hynny ddoe; byddwn yn ei drafod eto yr wythnos nesaf. Ond ni chredaf y bydd rheoliadau ynddynt eu hunain yn ddigon i gyflawni'r math o ostyngiad sydd ei angen arnom yn y niferoedd ym Mlaenau Gwent i gadw pobl yn ddiogel.
A hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa ystyriaeth y mae'n ei rhoi i'r math o brofi torfol a welwn dros ein ffiniau sirol yng Nghynon ac ym Merthyr Tudful, a mwy o orfodaeth hefyd. Credaf mai un o'r rhwystredigaethau sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf yw bod pobl yn gweithio'n galed iawn i gydymffurfio â'r rheoliadau, i sicrhau eu bod yn cadw pobl yn ddiogel, ond nid yw'r orfodaeth yn digwydd mewn modd digon trylwyr i sicrhau bod pawb yn gwneud hynny. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gennym ymagwedd fwy cyfannol tuag at bolisi mewn lleoedd fel Blaenau Gwent?
Rydym yn sicr yn ceisio mabwysiadu ymagwedd gyfannol gyda'r holl offer a chapasiti sydd ar gael i ni, a'r gwir amdani yw bod cyfyngiadau ar y capasiti hwnnw mewn gwahanol leoedd. Felly—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto—gwn fod swyddogion iechyd yr amgylchedd, gweithwyr llywodraeth leol, wedi bod yn rhan enfawr o’r gwaith o gadw Cymru’n ddiogel. Maent wedi bod ar y rheng flaen o ran gorfodi, ond maent hefyd wedi ymgysylltu â busnesau, i helpu i'w cefnogi i wella eu harferion. Nifer cyfyngedig o swyddogion iechyd yr amgylchedd sy'n bodoli, a phe gallem, byddem yn ehangu'r gweithlu’n sylweddol, ond nid oes llawer o bobl ychwanegol i'w cael.
Yr hyn a wnaethom—a phob clod i arweinwyr llywodraeth leol a'r Gweinidog, Julie James—oedd cytuno i gael proses lle roedd pobl yn cytuno i recriwtio pobl ychwanegol gyda'i gilydd i geisio sicrhau nad oedd 22 awdurdod yn cystadlu â'i gilydd i gael yr un bobl. Ond hyd yn oed gyda hynny, mae'r swyddogion hynny wedi ymlâdd—nid ydynt wedi stopio. Felly, rwy'n ddiolchgar iddynt, ond rwy'n cydnabod na allwn fynnu cael mwy ohonynt a dweud wrthynt am ddal ati ac i redeg yn gyflymach am fod arnom angen iddynt wneud hynny. Felly, mae her yno o ran yr hyn y gallwn ei wneud, a chredaf eich bod yn llygad eich lle pan ddywedwch nad yw'r rheolau a'r rheoliadau’n ddigon ar eu pen eu hunain—yn sicr, nid ydynt yn ddigon, a dyna pam fod y dewisiadau a wnawn mor bwysig. Felly, bydd y dewisiadau a wnewch o ran sut rydych yn byw eich bywyd, y dewisiadau y mae eich etholwyr chi a fy etholwyr innau’n eu gwneud ynglŷn â phwy y maent yn eu gweld, pa mor aml y maent yn eu gweld, ym mha amgylchedd y maent yn eu gweld, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran ein gallu i helpu i ostwng y cyfraddau hynny, nid yn unig ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Merthyr Tudful a Chynon, ond ledled y wlad, gan fod cyfradd gyffredinol Cymru dros 220 heddiw, a dylai hynny fod yn destun gwir bryder i bob un ohonom. Mae'n sicr yn destun cryn bryder i mi.
A chredaf y byddwn yn dysgu mewn modd cadarnhaol gan Ferthyr Tudful a Chynon. Mae'r prif swyddog meddygol eisoes wedi gofyn am rywfaint o waith myfyriol ar y profiad cynnar, beth a ddysgasom o Lerpwl a Sheffield. Gwyddom eisoes fod mwy o bobl yn dod o'r poblogaethau mwy breintiedig—mae'r grwpiau cyfoethocach o bobl yn dod mewn niferoedd a chyfrannau mwy—felly mae angen inni wneud rhywbeth am hynny o hyd i sicrhau nad ydym yn gweld, os mynnwch, y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn digwydd o'n blaenau.
Ond rwyf hefyd yn wirioneddol awyddus i ddysgu o'r profi mewn perthynas ag ysgolion, gan fod y tair ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful wedi bod yn awyddus iawn i'w myfyrwyr a'u staff gael eu profi, felly byddwn yn cael rhan fwy cyflawn o’r boblogaeth gyda’r profion hynny, a'r coleg addysg bellach hefyd. Unwaith eto, gall pobl ddysgu o hynny. Rwyf wedi siarad gyda'r bwrdd iechyd ac eraill ynglŷn â’r posibilrwydd, pe bai profi torfol yn parhau, y gallai Blaenau Gwent a Thorfaen gael eu profi nesaf, ond rydym yn disgwyl y brechlyn ymhen dyddiau. Ein dyddiad targed yw yr hoffem fod mewn sefyllfa i ddechrau'r imiwneiddio erbyn dydd Mawrth nesaf. Felly, rydym yn mynd i weld gobaith yn dod ar hyd y ffordd tuag atom, ond golyga hynny fod angen i bob un ohonom wneud y peth iawn am ychydig fisoedd yn rhagor, ac os gallwn wneud hynny, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol llawer gwell, i ddysgu mwy am y cyfnod o amser y bydd y brechlynnau’n ei roi inni. Ond pan fyddwn wedi darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan unwaith, bydd gennym fwy o hyder ynghylch ei wneud eto, gyda'r adferiad hir ac anodd sy'n wynebu pob un ohonom pan fydd y pandemig drosodd o'r diwedd.
Weinidog, mae tafarndai a bwytai wedi gwneud yn anhygoel wrth addasu a chyflwyno mesurau diogelu iechyd yn eu busnesau a gwneud hynny’n gyflym yn ystod y pandemig hwn, fel hylif diheintio dwylo, mesurau cadw pellter cymdeithasol a chofnodi gwybodaeth tracio ac olrhain. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddynt am y gwaith caled y maent wedi'i wneud i sicrhau bod pob un ohonom yn fwy diogel? Ac a ydych yn cytuno y bydd gwahardd gwerthu alcohol yn yr amgylcheddau cymharol ddiogel hyn yn gorfodi pobl i brynu alcohol mewn archfarchnadoedd, ac yfed gartref, mewn niferoedd mwy na chanllawiau Llywodraeth Cymru o bosibl, gyda’r risg o ledaenu'r feirws ymhellach?
Wel, rwy'n hynod ddiolchgar i bobl ar draws y diwydiant lletygarwch am y ffordd y maent wedi newid ac addasu. Ac rwy’n cydymdeimlo'n fawr â hwy oherwydd yr amser ofnadwy o anodd y maent yn ei wynebu. Roeddem yn awyddus i adael y cyfnod atal byr gyda phatrwm a fyddai’n para hyd at ddiwedd y flwyddyn, ond fel y dywedodd y Prif Weinidog, dywedais efallai y byddai angen inni weithredu eto pe bai’r cyfraddau’n newid. Ac fel rwyf newydd ddweud mewn ymateb i gwestiwn Alun Davies, mae'r cyfraddau yng Nghymru heddiw dros 220 ym mhob 100,000. Felly, nid yw'r cyfle i gyrraedd diwedd y flwyddyn heb ymyrraeth bellach ar gael inni, a bu’n rhaid inni benderfynu beth i wneud.
Edrychwch, gwn nad yw'n hawdd gwneud elw yn y sector lletygarwch. Gwn fod y rhain yn aml yn fusnesau bach, busnesau teuluol, ac mae gan bobl gysylltiad personol iawn â'u busnes. Gwn hefyd fod hwn yn sector sy'n cyflogi llawer o bobl iau y mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lawer o'r ffyrdd y maent yn byw eu bywydau ac yn mwynhau eu bywydau, ac nid yw'n ddewis y mae Gweinidogion wedi’i wneud yn rhwydd neu’n ddiofal. Mae Eluned Morgan, sydd gyda ni yn y Siambr heddiw, wedi cael llawer o'r sgyrsiau hynny gyda'r sector lletygarwch. Hi yw ein Gweinidog arweiniol wrth weithio gyda'r sector, ac mae'n anodd. Ac mae pob un ohonom yn deall pam eu bod mor ofidus, a pham na fyddent? Mae cyfyngiadau sylweddol wedi’u cyflwyno yn y sector hwnnw, a gwyddom y bydd hynny'n peri niwed. Ac eto, gwyddom nad yw gwneud dim yn opsiwn. Y dystiolaeth sydd gennym yw mai cyfyngiadau tebyg i gyfyngiadau haen 3 yn Lloegr a'r Alban sydd â'r gobaith gorau o reoli’r coronafeirws. Y gwahaniaeth arwyddocaol o ran lle mae Cymru heddiw a haen 3 yn Lloegr neu'r Alban yw lletygarwch. A byddwch wedi clywed y prif swyddog meddygol ar y radio’r bore yma yn sôn am y ffaith bod Cymru, ar hyn o bryd, yn unigryw yn yr ystyr fod ganddi ymagwedd fwy hael o lawer o ran lletygarwch ac alcohol, ac nid oedd modd parhau yn y ffordd honno. Ac mae'r dystiolaeth yno, o brofiad o fewn ynysoedd Prydain—felly, Llywodraethau a gwledydd y gallwn gymharu ein hunain â hwy’n llawer haws—lle mae'r cyfyngiadau hynny wedi cael effaith. Gwnaethom rannu'r wybodaeth honno gyda hwy; gwn fod Eluned Morgan wedi treulio amser yn siarad â hwy, nid yn unig dros yr wythnosau diwethaf, ond dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, wrth drafod y dystiolaeth gyda hwy. Mae amharodrwydd yno, oes, a pham na fyddent yn amharod? Ond mae rhywfaint o ddealltwriaeth yno hefyd fod angen inni weithredu.
Nid wyf yn mwynhau sefyll a dadlau dros gyfyngiadau ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau a'r ffordd y mae busnesau'n gweithredu, ond mae arnaf ofn fod y dystiolaeth yno, pe na baem yn gwneud hyn, pe na baem yn mabwysiadu tystiolaeth o'r hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r DU, byddem yn cael sgwrs wahanol mewn ychydig wythnosau ynglŷn â pham fod y Llywodraeth, er gwaethaf y dystiolaeth honno, er gwaethaf y dystiolaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r papur y byddwn yn ei gyhoeddi cyn bo hir gan ein cell cyngor technegol ein hunain—pam y gwnaethom ddewis peidio â gweithredu. Bydd cost wahanol inni edrych arni bryd hynny, ac nid yw'n un rwy’n barod i’w thalu.
Ac yn olaf, cwestiwn 9—Joyce Watson.