Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Yn ychwanegol at y canllawiau cenedlaethol a gyflwynwyd yn dilyn y cyfnod atal byr, mae'r tîm rheoli digwyddiadau ledled Gwent wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer ymyrraeth gymunedol. Mae pob un o'n partneriaid ar lawr gwlad yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i leihau cyfraddau heintio, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i'w cefnogi gyda’u hymdrechion.