Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Mae'n dda clywed am ddechrau cynnar y Gweinidog heddiw. A gaf fi nodi wrtho fod nifer o fy etholwyr wedi bod mewn cysylltiad i ddweud pa mor falch ydynt fod y pedair Llywodraeth ledled y DU wedi rhannu’r un dull o fynd ati ar gyfer cyfnod y Nadolig mewn perthynas â’r cyfyngiadau COVID, a’u bod yn meddwl tybed pam na ellir cael ymateb o'r fath ar sail y DU gyfan yn fwy cyffredinol?