Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn eich datganiad y bore yma, yn amlwg, fe dynnoch chi sylw at yr hyn a fydd yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r rhaglen frechu, pa frechlyn bynnag a fydd—sef y staff a'r unigolion sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith ar lawr gwlad. Fe ddywedoch chi fod ymarferion hyfforddi wedi'u cynnal gyda staff amrywiol ledled Cymru. A allwch roi sicrwydd inni fod yr ymarferion hynny wedi ystyried y gwahaniaethau amrywiol rhwng y brechlynnau? Beth yw'r adborth cychwynnol ynghylch maint y gweithlu a allai fod yn ofynnol i gyflwyno rhaglen frechu genedlaethol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf?