Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Mae ein pobl ifanc wedi wynebu cymaint o straen eleni, gydag ansicrwydd ynghylch arholiadau, methu gweld ffrindiau, eu trefn arferol yn diflannu, a gwyddom, fel y dywedwyd, y bydd y pandemig wedi cael effaith anochel ar eu hiechyd meddwl. Ond mae'r ffigurau diweddaraf ar wariant y GIG ar gyfer 2018-19 yn dangos bod llai nag 1 y cant o gyllid y GIG wedi'i wario ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Fesul y pen o'r boblogaeth, £18.17 yn unig a gafodd iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y flwyddyn honno, a hyn i gyd er bod Mind wedi dweud y bydd un o bob pedwar o bobl yn profi problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Yn amlwg, mae pobl ifanc angen llawer mwy o fuddsoddiad yn eu llesiant. Felly, a wnewch chi fy sicrhau bod cyllideb arfaethedig Cymru yn ymrwymo adnoddau a fydd yn bodloni'r graddau a'r uchelgais sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth?