Iechyd Meddwl a Llesiant Pobl Ifanc

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:29, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae angen ymagwedd amlasiantaethol a thrawslywodraethol er mwyn gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Mae ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ ar gyfer 2019-22, a gafodd ei adnewyddu yn ddiweddar yng ngoleuni COVID-19, yn nodi sut y byddwn yn gweithio ar hyn gyda'n partneriaid.