Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:51, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn gyfnod pryderus iawn i unrhyw berson ifanc, yn enwedig o ran gwaith ysgol ac yn benodol, y rhai a oedd yn bwriadu sefyll arholiadau. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol fel Llywodraeth i awdurdodau lleol, a thrwyddynt hwy, i ysgolion, a'r bobl nad ydynt wedi gallu cael mynediad at addysg ar-lein. Rhan o'r broblem ychwanegol, wrth gwrs, yw y gallwch ddarparu caledwedd i bobl ond mewn gwirionedd, mae angen i chi sicrhau bod y ddarpariaeth band eang ar gael a'u bod yn gallu cael mynediad at gymorth yn y ffordd honno. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa, ac os oes gennych enghreifftiau o fannau lle nad yw'n bosibl i bobl gael mynediad ato, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol anfon y rheini ymlaen at y Gweinidog Addysg.