Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Nid wyf yn credu bod rhaglenni mentora cymheiriaid yn newydd; credaf fod enghreifftiau o hynny'n digwydd, mewn gwahanol ffyrdd, mewn llawer o wahanol sectorau. Rwy'n credu'n gryf fod hyn yn rhywbeth lle gall pobl gefnogi ei gilydd ac y gall y profiad hwnnw fod yn drawsnewidiol—mae gwybod nad ydych ar eich pen eich hun pan fyddwch mewn lle tywyll yn rhywbeth defnyddiol iawn ynddo'i hun. Credaf fod y cymorth mentora sydd ar gael i rieni yn ogystal â phobl ifanc, fel bod rhieni'n deall yr hyn y mae eu plant yn mynd drwyddo, hefyd yn rhywbeth y credaf y gallwn ei annog, ac yn rhywbeth rydym eisoes yn ei annog. A cheir enghreifftiau, fel y dywedwch, o arferion gorau y gallwn eu dysgu, ac yn sicr mae'r model mynydd iâ a welsom yng Ngwent, sy'n cael ei arwain i raddau helaeth gan Liz Gregory, yn rhywbeth rydym yn gobeithio y gallwn ei gyflwyno i rannau eraill o Gymru.