Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi eich clywed chi yn cadarnhau eich bod chi o blaid cyflwyno cod ymarfer yn sgil y Bil cwricwlwm, ond mi ddown ni yn ôl at y pwnc yma ar ryw adeg arall, dwi'n ffyddiog o hynny. Mi fyddai cyflwyno cod ymarfer ar addysgu'r Gymraeg yn y cwricwlwm yn gam pwysig ymlaen, dwi'n credu. A dwi'n meddwl bod yna gonsensws yn datblygu ar draws y pleidiau dros yr angen am god statudol, a gobeithio gallwn ni weithio efo'n gilydd i sicrhau hynny.
I gloi, buaswn i'n hoffi cyffwrdd ar sefyllfa fregus dau o'n sefydliadau cenedlaethol pwysig ni, sef yr Urdd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r Urdd wedi cyhoeddi ddoe y byddan nhw'n parhau i weithredu ac arloesi, gorau gallan nhw, o ran eisteddfod genedlaethol, ond na fydd yna un yn digwydd yn y ffordd arferol. Ac, yn y cyfamser, mae meysydd gwaith eraill yr Urdd, fel y gwersylloedd, yn amlwg yn parhau i fod ar stop ac yn achosi colli incwm. Yn ôl tystiolaeth yr Urdd i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mae'r mudiad wedi colli hanner ei weithlu ac fe allai wynebu dyledion o hyd at £18 miliwn. Dwi yn gwybod bod eich Llywodraeth chi wedi rhoi £3.1 miliwn o gefnogaeth ariannol i'r Urdd, ond a ydy hynny yn ddigon, ydy fy nghwestiwn i.
Ac, yn achos y llyfrgell genedlaethol, mi dderbyniodd £0.25 miliwn o gymorth gan y Llywodraeth yn ddiweddar, ond hynny ar ôl i chi gymryd £200,000 oddi arno fo ar ddechrau'r pandemig. Pa asesiad ydych chi fel Gweinidog wedi'i wneud fod cefnogaeth ariannol y Llywodraeth yn ddigon i gynnal y mudiadau hollbwysig yma? Ac ydych chi'n cytuno na fedrwn ni ddim gadael i gyrff sydd wedi cyfrannu cymaint i fywyd cenedlaethol a ieithyddol Cymru fethu?