Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Weinidog, gwn y byddwch yn ymwybodol o'r pwysau enfawr sydd ar CAMHS, y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi bod fel hyn ers sawl blwyddyn, cyn y pwysau ychwanegol a roddwyd ar ein pobl ifanc yn ystod y pandemig. Mae llawer o hyn oherwydd bod pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at y system pan fo'u hanghenion iechyd meddwl yn ysgafn neu'n gymedrol, sef yr adeg fwyaf synhwyrol a phwysig wrth gwrs i geisio atgyfeiriadau am gymorth, ond mae'n broblem i'r system CAMHS oherwydd ei bod wedi'i chynllunio i gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn unig. Felly, a allech chi roi rhagor o wybodaeth inni am yr ymyriadau cynnar hynny y cyfeiriwyd atynt yn eich ateb blaenorol i Delyth Jewell, a sut y gall yr ymyriadau cynnar hynny sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn ffordd amserol a phriodol i sicrhau nad yw eu hiechyd meddwl yn dirywio ymhellach?