Gwydnwch Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:09, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i ofyn am yr asesiadau effaith ar iechyd meddwl a gynhaliwyd, does bosibl, cyn gwneud penderfyniadau mor aruthrol a hirdymor i ddileu ein hawliau sifil. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro y bydd yr effaith ar ein hiechyd meddwl cyfunol yn enfawr. Rwy'n pryderu'n benodol am ein pobl ifanc, felly pa drafodaethau rydych yn eu cael mewn gwirionedd gyda'r sector addysg ynglŷn ag atal problemau iechyd meddwl yn ein hysgolion? Diolch.