Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch, Llywydd. Rwy'n derbyn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion yn llawn. Mae'n hanfodol i rediad llyfn y Senedd, ac i sicrhau democratiaeth fywiog, fod gofod diogel i grwpiau gwleidyddol gael trefnu a thrafod eu gwaith mewn ffordd sy'n cydnabod y cyd-destun pleidiol. Mae ble mae'r ffin rhwng gwaith pleidiol a'r gwaith seneddol yn gallu bod yn aneglur. Yn wir, mae'r comisiynydd ei hun yn cydnabod nad oedd y cod ymddygiad na'r canllawiau, fel ag yr oedden nhw ar y pryd ar adeg y cyfarfod dan sylw, yn ôl yn haf 2017, sydd dair blynedd a hanner yn ôl bellach, yn rhoi unrhyw ganllawiau ar beth yw gweithgarwch priodol Aelodau mewn perthynas â defnyddio ystafelloedd, nac yn rhoi canllawiau ar ystyr 'dibenion pleidiol wleidyddol', i ddyfynnu union eiriau y comisiynydd.
Er hynny, rwy'n derbyn dyfarniad y comisiynydd, yn yr achos penodol hwn, nad oedd defnydd yr ystafell o fewn y rheolau. Rwyf yn awyddus i achub ar y cyfle i bwysleisio, serch hynny, nad yw'r tramgwydd hwn yn ymwneud â chamddefnydd arian cyhoeddus mewn unrhyw ffordd.
Wrth edrych ymlaen, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Comisiwn bellach wedi diweddaru'r canllawiau yn ymwneud â defnydd ystafelloedd ac adnoddau'r Senedd yn fwy cyffredinol. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn wedi nodi parodrwydd i gadw'r canllawiau dan adolygiad, fel nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn codi ohonynt. Rwy'n gobeithio y bydd hyn oll yn hwyluso cydymffurfiaeth Aelodau â'r rheolau yn y dyfodol, ac y bydd yn ein galluogi ni i gynnal ein gwaith yn briodol. Diolch yn fawr.