Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Hoffwn gofnodi fy mod yn cefnogi'r adroddiad, a chefnogaf argymhellion yr adroddiad, ond fel cynrychiolydd y Ceidwadwyr ar y pwyllgor hwn, er trylwyredd, credaf y dylai'r holl bapurau fod wedi'u darparu i'r adroddiad—wedi'u hatodi wrth yr adroddiad. Collais y bleidlais ar hynny, ac rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw. A dyna pam y bydd y grŵp Ceidwadol yn ymatal ar yr adroddiad hwn, oherwydd credwn y dylai'r papurau a oedd ger ein bron fod wedi bod ar gael yn eu cyfanrwydd yn yr adroddiad.