6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:10, 2 Rhagfyr 2020

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am baratoi adroddiad cynhwysfawr mewn amser byr ar fater sydd o bwys allweddol i ni i gyd mewn argyfwng iechyd cyhoeddus fel rydyn ni ynddo fo ar hyn o bryd.

Mae'r adroddiad yn dangos yr heriau sydd yn wynebu sector y cyfryngau yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig fyd-eang. Mae o hefyd yn ein hatgoffa ni o broblemau sydd wedi bod gyda ni ar hyd y blynyddoedd ynglŷn â sut y mae pobl Cymru yn gallu cyfathrebu â'i gilydd drwy gyfrwng y drefn sydd gyda ni ar hyn o bryd yn y cyfryngau. Fe garwn i gyfeirio yn benodol, gan fy mod i wedi derbyn pob un argymhelliad ond argymhelliad oedd yn ymwneud â'r BBC, at y rheswm pam ein bod ni wedi cymryd y safbwynt yma. Ac mi garwn i esbonio mai rheswm cyfansoddiadol yn unig ydy hyn ac ein bod ni'n awyddus iawn, yn enwedig o weld y datganiadau diddorol unwaith eto o ran rheolaeth y BBC yn ganolog, lle bydd Cymru yn chwarae rhan amlwg yn nyfodol y BBC yn ganolog, bod yna gyfle i gael trafodaeth o'r newydd gyda'r BBC ynglŷn â'r modd y gall y cyfrwng cyhoeddus hwnnw fod yn adlewyrchu datganoli yn llawer iawn cliriach.

Hefyd, fe garwn i ddiolch i'r pwyllgor am y modd y cysylltwyd yn effeithiol â rhanddeiliaid a rhoi pwyslais clir ar yr angen i gyfryngau Cymreig fod yn adlewyrchu ac yn cynhyrchu, oherwydd dwi'n meddwl mai un gwendid mawr ynglŷn â sawl trafodaeth am y cyfryngau ydy'r syniad mai dim ond adlewyrchu beth sy'n digwydd mae'r cyfryngau. Mae'r cyfryngau hefyd yn llewyrchu a hyd yn oed yn tywyllu. Hynny yw, os nad ydy materion yn cael y sylw taladwy, does dim democratiaeth yn bosib. A dyna oedd y tu ôl i'r cais a wnes i i Cymru Greadigol i ystyried eu rôl nhw mewn perthynas â chryfhau'r cyfryngau yng Nghymru. Ac mae'n dda gen i ddweud bod bwrdd Cymru Greadigol bellach wedi cyfarfod.

Yn anffodus, dwi ddim wedi cael cyfle i ymuno â nhw eto, ond yn y cyfarfod cyntaf y byddaf i yn mynd iddo fel Dirprwy Weinidog yn gyfrifol am y maes yma, fe fyddaf i yn trafod y modd y gallan nhw ein cynorthwyo ni i ddatblygu'r egwyddor yma o gael gwell cyfathrebu ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys hefyd, gobeithio, y gallwn ni ddatblygu partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yma, fel bod y materion—dwi'n gwybod bod hwn wedi bod yn fater o gonsyrn i Aelodau ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, nad ydyn ni ddim wedi cael y ddealltwriaeth ddigonol o'n gweithgaredd ni. A dwi'n meddwl bod yna le i Gomisiwn y Senedd, a dwi'n deall eu bod nhw'n barod i wneud hynny, i gydweithio mewn model o gyfathrebu ac o ddatblygu cyfathrebu yng Nghymru sydd yn fwy digonol. 

Beth sydd yn bwysig i ni yw bod unrhyw gorff sydd yn cyllido cyfathrebu o unrhyw fath, a newyddiaduraeth o unrhyw fath, yn gweithredu'r egwyddor hyd braich, sydd wedi gweithio mor effeithiol yn y meysydd celfyddydol. A dwi'n sicr ei bod hi'n bosib i ni gael modd o weithredu hyd braich sy'n cynnal annibynniaeth newyddiadurol tra'n gofalu bod gallu pobl Cymru i gyfathrebu â'i gilydd a gallu Cymru i fod yn wlad ddealladwy yn y byd yn cael eu cadarnhau. Diolch yn fawr.