– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Rydym yn ailymgynnull ar eitem 6, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar newyddiaduraeth ac ar gyfryngau lleol. Hoffwn ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, i'n tîm gwych o staff ac i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig.
Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno ei bod yn hanfodol i ddemocratiaeth fod gennym wasg a chyfryngau ffyniannus a all graffu ar bob un ohonom. Rwy'n siŵr y byddem i gyd hefyd yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd hanfodol gwybodaeth fanwl gywir ar adeg o argyfwng mewn cyfnod mor beryglus. Mae ein hadroddiad yn edrych ar dri maes yn hyn o beth. Gwelsom fod yr argyfwng wedi gwaethygu ac wedi tynnu sylw at heriau parhaus i gyfryngau Cymru a chyfryngau lleol, ac wedi dangos methiant parhaus rhai elfennau o gyfryngau'r DU i adrodd yn gywir ar faterion datganoledig. Edrychwyd ar natur a chywirdeb gwybodaeth am yr ymateb i'r pandemig, effaith y bygythiad o ddiswyddiadau ar wasanaethau newyddion allweddol a chefnogaeth hirdymor i newyddiaduraeth a chyfryngau lleol. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am dderbyn pob un ond un o'n hargymhellion.
Daeth adrodd ar faterion datganoledig yn fater problemus yn gyflym ar ddechrau'r pandemig. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar wasanaethau newyddion y DU am eu newyddion wrth gwrs, boed yn ddarlledwyr neu'n bapurau newydd. Roedd yn aml yn wir nad oedd darparwyr newyddion y DU yn ei gwneud yn glir fod rheolau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ar draws y pedair gwlad. Mae'n wir dweud bod adrodd ar faterion datganoledig wedi dechrau'n wael iawn a thrwy gyfnod y pandemig, fe wnaeth wella, a daeth yn amlwg fod mwy a mwy o bobl yn ymwybodol fod y rheolau'n wahanol yma. Yn raddol, gwelsom symud o adrodd am reoliadau Lloegr fel pe baent yn berthnasol i'r DU gyfan i adrodd ar Loegr a'r Alban, ac yn y pen draw, i adrodd ar y pedair gwlad.
Mae'n hanfodol ar yr adeg anodd hon fod pobl ledled y DU yn gwybod pa reolau sy'n berthnasol iddynt hwy, a dyma pam y gwnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i annog y Swyddfa Gyfathrebu i sicrhau bod darlledwyr yn parhau i fod yn ddiduedd ac yn gywir wrth adrodd ar bob un o bedair gwlad y DU yn gyfartal fel mater o drefn. Rydym yn falch fod Ofcom wedi ysgrifennu at ddarlledwyr i'w hatgoffa o hyn ac o'r cod darlledu. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant ers hynny, ond mae'n dal i fod yn wir fod hyn yn rhywbeth y mae angen atgoffa darlledwyr a newyddiadurwyr ohono o hyd. Mae'r pwyllgor wedi teimlo rhwystredigaeth yn hyn o beth, yn enwedig gydag elfennau o ddarlledu sector cyhoeddus.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Reach plc, sef y cwmni sy'n berchen ar rai o'n gwasanaethau newyddion cenedlaethol a'n gwasanaethau newyddion lleol pwysicaf, fod bron i 90 o swyddi newyddiadurwyr mewn perygl. Gallasom gymryd tystiolaeth gan y cwmni a chan undebau'r newyddiadurwyr. Roeddem yn pryderu'n fawr am y perygl o golli swyddi, a gofynnwyd ar y pryd i Lywodraeth Cymru gyfarfod â chynrychiolwyr o'r sector i gael dealltwriaeth o ba gymorth y gallai fod ei angen a'r hyn y gallent ei wneud bryd hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu dweud wrthym a yw wedi gallu datblygu'r gwaith y cytunodd i'w wneud gyda rhanddeiliaid allweddol.
Un ffynhonnell hanfodol o gymorth i wasanaethau newyddion lleol yw refeniw hysbysebu wrth gwrs. Gwnaethom argymell yn gryf iawn y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y dylai hysbysiadau statudol, sy'n ffynhonnell refeniw wych ac sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gael eu cyhoeddi gan ddarparwyr hyperleol ac ar-lein, yn ogystal â'r cyfryngau mwy. Ac unwaith eto, byddai'n dda clywed gan y Dirprwy Weinidog i ba raddau y mae hynny'n cael ei fonitro ac i ba raddau y mae hynny wedi digwydd.
Ar y pryd, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun cadw swyddi, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch iawn fod y cynllun hwnnw wedi'i ymestyn.
Fel y dywedais, mae'r pandemig wedi cyflymu problemau a oedd eisoes yn wynebu ein cyfryngau lleol a chenedlaethol yng Nghymru, a bu'r gostyngiad yng ngwerthiant papurau newydd yn enfawr, ac mae'n parhau wrth gwrs. Ar anterth y pandemig, prin y gwerthid papurau newydd ffisegol o gwbl. Clywsom lawer o dystiolaeth am anhawster moneteiddio cyfryngau newyddion ar-lein—pa mor anodd yw hi i gwmnïau wneud elw. Ar yr un pryd ag y mae'r Senedd wedi ennill pwerau pellach, mae'n eironig mewn rhai ffyrdd fod newyddiaduraeth lles y cyhoedd yn cael ei rhoi dan fygythiad yng Nghymru ac o bosibl yn cael ei gorfodi i encilio.
Galwasom ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i annog newydd-ddyfodiaid i'r farchnad ac i gefnogi dulliau arloesol o ddarparu newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru. Roeddem yn falch o glywed gan y Dirprwy Weinidog, yn y pwyllgor ar 17 Medi, ei fod wedi gofyn i Cymru Greadigol ystyried a allai weithredu fel corff hyd braich i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol uniongyrchol i wasanaethau newyddion lleol allweddol yng Nghymru, ac unwaith eto rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog ar hynny.
Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n awyddus iawn i glywed gan yr Aelodau eraill, aelodau'r pwyllgor ac eraill a fydd am gyfrannu yn y ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar eto i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, a gobeithio y gallwn i gyd gytuno ei bod yn hanfodol i ddyfodol ein democratiaeth ifanc fod newyddiadurwyr yn adrodd yn gywir ar y ddemocratiaeth honno, fel y gall pobl ddod yn ymwybodol o'r penderfyniadau pwysig a wneir yn y lle hwn sy'n effeithio arnynt. Diolch yn fawr.
Ceisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau rhagorol a wnaeth Helen Mary, ond hoffwn eu hategu'n llawn. Byddwn yn dweud hyn, serch hynny, am y gwelliant yn y sylw a roddir i faterion datganoledig, fod Mark Drakeford wedi dod yn dipyn o ffigwr cwlt ledled y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn ddatganiad di-bolisi ar fy rhan i, ond mae wedi cael proffil, mae wedi cael ei broffilio hefyd ar Radio 4 gan Nick Robinson, a chlywsom i gyd am ei fagwraeth yn Sir Gaerfyrddin a'i gariad at Glwb Criced Sir Forgannwg a'i ymweliadau â Sain Helen, a aeth â mi'n ôl i fy arddegau innau hefyd, rhaid i mi ddweud. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd felly y dylai fod—dylai pobl sylweddoli ein bod bellach yn wladwriaeth ddatganoledig. Ac ar rai pethau mae'n hollbwysig. Er enghraifft, roedd y Financial Times ychydig fisoedd yn ôl yn cynnwys un neu ddwy o erthyglau diddorol ar brofi ac olrhain, ac roedd yn cymharu dull Cymru â'r dull o weithredu mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig Lloegr, a dywedodd mai'r cysylltiad rhwng iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol yng Nghymru oedd y ffordd y dylid gwneud pethau. Nawr, mae'r dystiolaeth ar gael, ac mae'r FT wedi ffurfio ei farn ei hun, ond roeddwn yn meddwl bod hynny'n ddiddorol.
Gadewch i mi wneud dau bwynt penodol iawn. Yn gynharach yr hydref hwn, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Global Satisfaction with Democracy' gan Brifysgol Caergrawnt. Roedd iddo gyrhaeddiad rhyngwladol. Rwy'n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel yr ystyrir bod iddo gryn awdurdod. Rhybuddiai fod effaith y cyfryngau cymdeithasol yn gyrru pobl yn y gymdeithas i mewn i seilos, lle ceir dau lwyth sy'n gwrthwynebu ei gilydd, yn enwedig mewn gwledydd Eingl-Sacsonaidd, ac mae hyn yn adlewyrchu'r system ddwy blaid. Mae'n debyg y gallem ddweud yn fras ei fod yn dal i fodoli o ran dewis Llywodraeth ar lefel y DU, hyd yn oed os nad yw'n bodoli'n llwyr yn yr Alban ac yng Nghymru bellach. Ond rwy'n credu bod problem wirioneddol gyda phobl yn cael llawer o'u prif wybodaeth wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arf cyflenwol sy'n rhoi llais i gynifer o bobl, rwy'n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn wych, ond fel prif ffynhonnell mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn. A gan ein bod ar fin dechrau rhaglen frechu, a fydd yn agored i'r boblogaeth gyfan o fewn yr oddeutu chwe mis nesaf, mae'n ein hatgoffa o ba mor bwysig yw ffynonellau gwybodaeth ym maes iechyd y cyhoedd, oherwydd ceir llawer o newyddion ffug mewn perthynas â llawer o'r materion hyn.
Fy ail bwynt, af yn ôl i'r 1830au a'r damcaniaethwr mwyaf ar ddemocratiaeth mae'n debyg, Alexis de Tocqueville, y Ffrancwr a aeth i America ac a ysgrifennodd y llyfr enwog, Democracy in America. Credai fod un o'r pethau allweddol a oedd yn caniatáu democratiaeth, a rhywbeth yn agosáu at ddemocratiaeth dorfol, o ran y bleidlais i ddynion beth bynnag, yn digwydd am y tro cyntaf yn y byd—ni lwyddodd y Groegiaid hyd yn oed i fynd yn agos at hynny—yn America yn y 1830au, ac roedd yn credu mai'r hyn oedd ei angen oedd gwasg rydd, a chystadleuaeth mewn gwasg rydd. Ac os caf ddyfynnu un o'r pethau a ddywedodd Tocqueville:
Efallai y gellid edrych, gan hynny, ar sofraniaeth y bobl a rhyddid y wasg fel pethau sy'n perthyn i'w gilydd.
Mae angen y ddau arnoch, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw pwerus iawn.
Ac rwyf am orffen gyda'r darn hwn o dystiolaeth a gawsom; roeddwn yn meddwl mai dyma'r peth mwyaf pwerus a glywsom gan y newyddiadurwyr proffesiynol. Rydym yn colli newyddiadurwyr proffesiynol bob dydd ac mae'n crebachu ein democratiaeth. Ond pwysleisiwyd wrthym mai'r golled fwyaf yw nad yw'r newyddiadurwyr proffesiynol a arferai fyw yn y cymunedau lleol roeddent yn ysgrifennu amdanynt yno mwyach, ac mae hynny'n bryder mawr ac mae'n rhaid inni ddod o hyd i fodel busnes sy'n gallu mynd i'r afael â hynny.
Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond roedd gennyf lawer iawn o ddiddordeb yn yr adroddiad hwn, yn enwedig gan fy mod yn defnyddio dwy ffynhonnell o newyddiaduraeth o ansawdd da iawn—nid y rhai mawr—sef Senedd Home, a ddarparir gan Owen Donovan, ac sy'n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl fel llafur cariad. Dyma'r crynodeb gorau o'r dadleuon hyn a welwch yn unrhyw le, a byddwn yn argymell i unrhyw Aelod o'r Senedd—rwy'n gwybod fy mod wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog am hyn o'r blaen—ddefnyddio'r ffynhonnell honno ar gyfer darganfod beth sydd wedi digwydd ar ôl dadleuon, gan mai dyma'r crynodeb gorau a welwch, heb fynd i ddarllen drwy'r Cofnod cyfan eich hun, ac nid yw hynny'n bosibl wrth gwrs. Ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei grybwyll yn ei grynodeb hefyd, ac nid dyna pam rwy'n ei ddweud, Ddirprwy Weinidog. Y mater arall, serch hynny, yw nad yw hysbysiadau cyhoeddus yn berthnasol iddo oherwydd ei fod yn wasanaeth ar-lein. Felly, mae problem yn codi o ran cyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus.
Y ffynhonnell arall a ddefnyddiaf—ac mae Senedd Home yn gwbl annibynnol ac yn cefnogi annibyniaeth—yw'r Caerphilly Observer, ac mae'r Caerphilly Observer yn waith syfrdanol. Dechreuodd yn 2009 fel ffynhonnell ar-lein ac erbyn hyn mae ganddo gylchrediad print ar draws bwrdeistref Caerffili. Mae'n gwbl annibynnol, a gwn hynny am fod straeon ynddo sydd wedi fy ngyrru o 'nghof. Ond rwy'n gwybod hefyd fod yna straeon ynddo sydd wedi gyrru Plaid Cymru o'u cof. Ac mewn gwirionedd, mae'n dda gweld bod pobl Plaid Cymru yng Nghaerffili yn mynnu ei fod yn bapur Llafur ac mae'r bobl Lafur yn mynnu ei fod yn bapur Plaid Cymru, felly rydych chi'n gwybod yn iawn—a phe bai unrhyw Geidwadwyr yng Nghaerffili, rwy'n siŵr y byddent yn dweud yr un peth am bleidiau eraill. Ac mae'n ffynhonnell dda iawn o wybodaeth annibynnol. Gan fod ganddynt gylchrediad print, gallant redeg hysbysiadau cymunedol mewn print, fel eu bod yn cael cymhorthdal drwy'r llwybr hwnnw. Siaradais â'r cyhoeddwr neithiwr; cefais sgwrs gyda Richard Gurner, y gŵr a'i dechreuodd, a'i waith ef ydyw, ac un o'r pethau a ddywedodd oedd, os ewch ar hyd llwybr cymhorthdal uniongyrchol, y broblem yw atebolrwydd. O leiaf os ydych yn gwneud yr hysbysiadau cyhoeddus, mantais hysbysiadau cyhoeddus yw bod yna wasanaeth cyhoeddus y cewch eich talu amdano'n uniongyrchol. Ac rwy'n gwybod bod yr holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn fy nghymuned, y prif bleidiau gwleidyddol, yn hysbysebu yn y Caerphilly Observer. Ceir math arall o gymhorthdal cyhoeddus, a hynny heb ofn na ffafriaeth. Felly, credaf mai dyna'r llwybr gorau o ran—credaf mai argymhelliad 7 ydyw. Nid yw'r adroddiad gennyf wrth law, ond rwy'n credu mai argymhelliad 7 oedd hwnnw, Gadeirydd.
Ond nid yw'n celu'r problemau hirdymor enfawr y mae'r diwydiant yn eu hwynebu. Mae newyddion manwl gywir, safonol, da, wedi'i ymchwilio'n drylwyr yn llawer anos i'w foneteiddio na deunydd sy'n abwyd ar gyfer denu rhywun i glicio. Dyna'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r diwydiant ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod ein bod i gyd yn mynd ar Facebook ac yn darparu ein gwybodaeth mor gywir ag y gallwn, ni waeth beth fo'n plaid. Rwyf wedi gweld Aelodau ar draws y Siambr yn darparu gwybodaeth dda ar Facebook, ond mae yna lanw sy'n ein llethu i gyd, a'r perygl yw y bydd y llanw hwn yn llethu rhai fel y Caerphilly Observer. Felly, y broblem a wynebir hefyd yw nad yw busnesau sy'n hysbysebu yn eu rhifyn print ar hyn o bryd, wrth i gyfryngau electronig ddod yn fwyfwy poblogaidd, nid yw'r busnesau mwy newydd eisiau defnyddio'r argraffiad print ychwaith. Ar hyn o bryd maent yn cadw incwm da drwy hysbysebu mewn print, ond nid yw hynny'n debygol o gael ei gynnal yn hirdymor.
Felly, dywedodd cyhoeddwr y Caerphilly Observer wrthyf fod ganddo ddau beth yn ateb i hyn: parhau â'r cymhorthdal gwasanaethau cyhoeddus rydym wedi'i grybwyll; ond hefyd—ac fe ddefnyddiaf ei eiriau ef—'yr ateb yw datblygu cynulleidfaoedd ar-lein ymgysylltiol iawn sy'n barod i dalu am eu gwybodaeth, ond i'r wybodaeth honno fod ar gael i bawb hefyd'. 'Gwn nad yw pob un o fy nghynulleidfaoedd', meddai Richard Gurner o'r Caerphilly Observer, 'yn barod i wneud cyfraniad ariannol, ond os oes digon yn gwneud hynny, gallai arwain at fodel busnes cynaliadwy nad yw'n dibynnu ar hysbysebu. Mae'n gofyn llawer, ond nid yw'n amhosibl'. Ac fe ddywedaf hyn wrthych, os ewch i siop yng Nghaerffili a'ch bod yn sôn am ddigwyddiad diweddar, mae rhywun yn debygol o ddweud wrthych, 'O, gwelais hynny yn yr Observer.' Nid yr Observer ar ddydd Sul a olygant ond y Caerphilly Observer. Mae pobl yn siarad am y papur hwnnw, oherwydd mae'n ffynhonnell ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi, ac mae Richard yn dechrau gweld budd hynny drwy fod pobl yn tanysgrifio.
Y peth olaf a ddywedodd wrthyf oedd bod Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad wrth gefnogi'r sector annibynnol drwy'r gronfa newyddiaduraeth gymunedol annibynnol. Roedd hyn yn ei helpu i gadw i fynd, ond hoffai weld hynny'n cael ei ehangu. Felly, byddai'n bwysig iawn gweld hynny'n cael ei ehangu drwy'r sector annibynnol. Er ei fod yn dod yn ôl at fater cymhorthdal y wladwriaeth, mae'n gymhorthdal hyd braich i raddau, sy'n fuddiol. Felly, dyna lle mae fy niddordeb i. Rwyf am weld newyddiaduraeth hyperleol o ansawdd da; hyd yn oed os nad yw ar fy ochr i, rwyf am ei weld. Ac rwy'n credu mai'r ddwy enghraifft ddisglair a nodais heddiw—Senedd Home a'r Caerphilly Observer—yw'r rhai sy'n arwain y ffordd.
Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad byr a phwysig arall, ac hefyd argymhellion synhwyrol ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy ar gyfer cynnal a datblygu newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol. Bob tro rydyn ni'n trafod y maes yma, dwi yn datgan diddordeb, gan mai newyddiadurwr ydw i, ac aelod o undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, ers bron i 40 mlynedd erbyn hyn. Does dim dwywaith bod tirwedd newyddiaduraeth wedi newid yn sylweddol dros y cyfnod hwnnw, yn enwedig, efallai, yn yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae'r newid wedi cyflymu'n ddiweddar oherwydd COVID-19, fel rydyn ni'n gwybod. Fodd bynnag, byddwn i'n cytuno efo'r sylwadau mae eraill wedi'u gwneud, sef bod yna rôl sylfaenol ar gyfer newyddiaduraeth yn ein democratiaeth ni, a'r rôl honno'n sylfaenol ar gyfer cynnal democratiaeth iach.
Mae yna awydd enfawr am newyddion yn ystod y pandemig, ac mae hi wedi bod yn bwysicach nag erioed sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at newyddion sy'n gywir ac yn berthnasol iddyn nhw, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond er lles iechyd cyhoeddus. Ond, fel mae eraill wedi sôn, mae'r pandemig wedi amlygu'r heriau sy'n wynebu newyddiaduraeth, yn enwedig newyddiaduraeth leol a phrint.
Gaf i jest sôn wrthych chi am rai o syniadau Plaid Cymru? Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn hybu'r cyfryngau Cymreig sydd yn cynrychioli pobl Cymru, a'r hyn sydd o bwys iddyn nhw. Mi fyddem ni yn creu comisiwn cyfryngau Cymreig annibynnol i ariannu rhwydwaith newyddion digidol cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, fyddai hynny ddim ar draul newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg; mae angen sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i Golwg360 ac yn y blaen os ydyn nhw am ddatblygu ymhellach. Mae angen plwraliaeth yn ein newyddiaduraeth; mae angen dybryd am hynny yng Nghymru.
Mae angen mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd presennol sydd yn deillio o wendidau hanesyddol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan y cyfryngau wrth addysgu pleidleiswyr 16 ac 17 mlwydd oed wrth inni agosáu at yr etholiad. Ond mae yna ddiffyg democratiaeth ar draws ystod oedrannau, a dwi'n ddiolchgar i Delyth Jewell am godi'r pryderon hynny yn ddiweddar yn y Senedd. Dim ond 6 y cant o bobl Cymru sy'n darllen papurau Cymreig; 46 y cant ydy'r ffigwr ar gyfer yr Alban. Onid ydy hi'n bryd cael un papur newydd cenedlaethol i Gymru, tra'n derbyn, wrth gwrs, mai newyddiaduraeth a chyfryngau digidol ydy'r dyfodol a'r ffordd ymlaen?
Mae angen edrych ar sefydlu cynllun neu gronfa ar gyfer newyddiadurwyr amlgyfrwng i weithio mewn ardaloedd sydd heb bapur newydd—nid pawb sydd mor lwcus â chael Caerphilly Observer a Caernarfon and Denbigh Herald a phapurau felly. Mi fedrid modelu'r cynllun yma ar y cynllun gohebwyr democratiaeth leol sydd ar waith yn barod, ond ehangu ar hwnnw i gynnwys pob math o newyddion. Ac mae sicrhau mynediad rhwydd at y diwydiant newyddiadura yn hollbwysig hefyd. Mae newyddiadurwyr yn wynebu ystod eang o rwystrau, gan gynnwys, yn aml, gorfod cwblhau sawl interniaeth sy'n aml yn ddi-dâl neu ar gyflog isel, a bellach mae disgwyl i newyddiadurwyr fod â gradd baglor o leiaf. Mi ddylai'r Llywodraeth fod yn edrych ar ffyrdd amrywiol ac amgen, drwy gynlluniau prentisiaeth, efallai, i ddenu newyddiadurwyr newydd o gefndiroedd sydd heb eu cynrychioli yn ddigonol.
I gloi, mae gan y cyfryngau rôl bwysig iawn i'w chwarae yn y misoedd nesaf yma. Wrth i newyddion ynghylch brechiadau gael ei gyhoeddi, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna gynllun cadarn i hyrwyddo brechiadau ac i daclo'r camwybodaeth, y fake news sy'n cael ei rannu gan rai ar hyn o bryd. Mae gan newyddiaduriaeth rôl fawr i'w chwarae yn hynny, ac mae angen i'r Llywodraeth weithio yn agos efo'r sector i sicrhau bod yna ymgyrch iechyd cyhoeddus fawr newydd yn cael ei datblygu i addysgu'r boblogaeth ar y pwysigrwydd o gael brechiad yn ogystal â phwysleisio bod brechiadau yn ddiogel. Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am eu gwaith trwyadl unwaith eto.
Roedd hen faner Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn cynnwys fel ei brif logo, 'Knowledge is power', ac nid yw'r ymadrodd hwnnw erioed wedi bod yn fwy gwir. Nid oherwydd eu cariad at newyddiaduraeth, cariad at y gair printiedig neu'r cyfryngau yw'r rheswm pam y mae cynifer o biliwnyddion, miliwnyddion ac oligarchiaid am fod yn berchen ar y cyfryngau, ond yn hytrach oherwydd eu bod yn gwybod ei fod yn rhoi pŵer iddynt, a rhaid inni gydnabod bod rheoli'r wybodaeth honno a'r pŵer hwnnw'n effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd ein democratiaeth.
Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau a wnaed eisoes. Rwy'n croesawu hefyd, o'r dystiolaeth a gawsom yn ystod y pwyllgor hwn, y gwelliannau yn ansawdd darlledu o ran dechrau cydnabod datganoli, hyd yn oed i'r graddau fod gennym bellach Weinidogion Llywodraeth y DU sydd hefyd yn ymwybodol o ddatganoli ac sy'n cyfeirio'n benodol yng nghyd-destun eu cyfrifoldebau hwy, yn hytrach na chyfrifoldebau datganoledig. Credaf fod hynny'n gam arwyddocaol iawn ymlaen.
Hoffwn wneud ychydig o sylwadau am agweddau ar dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg ynglŷn â chyflwr y cyfryngau yng Nghymru, ac mae'n broblem hirdymor. Mae COVID wedi gwaethygu, crisialu a rhoi ffocws, rwy'n meddwl, i'r problemau penodol sydd gennym: y symud ar-lein o'r cyfryngau print, rheoli hynny, a hefyd, un o'r pryderon gwirioneddol a godwyd yn y pwyllgor rwy'n credu yw'r pwynt a wnaeth David Melding am golli newyddiaduraeth gymunedol. Byddwn hefyd yn dweud colli newyddiaduraeth ymchwiliol arbenigol. Rydym wedi gweld newyddiaduraeth ragorol yn ddiweddar, er enghraifft gan Martin Shipton ar WalesOnline, ond prin yw'r meysydd hynny o newyddiaduraeth ymchwiliol, ac yn aml, pan gânt eu gwneud, nid ydynt yn cael eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd polisi'r ffordd y mae'r cyfryngau'n gweithredu yng Nghymru. Hefyd, ceir pryderon ynglŷn â'r ffordd y mae'r cyfryngau'n dod fwyfwy o'r tu allan i Gymru, gyda'r holl sicrwydd a roddir rhaid cyfaddef, ond nid wyf yn credu bod llawer iawn o hyder gan bobl yn y sicrwydd hwnnw.
A gaf fi orffen gyda rhai sylwadau am y ffordd y mae radio cymunedol wedi dechrau dod yn effeithiol? Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae GTFM yn wasanaeth radio cymunedol sy'n cael ei redeg yn broffesiynol iawn—gwasanaeth hanfodol, er enghraifft, a oedd gennym yn ystod y llifogydd fis Chwefror diwethaf, yn hysbysu cymunedau am yr hyn oedd yn digwydd a ble i gael cymorth, ond nawr hefyd yn ystod COVID. Un o'r ffyrdd y gall y Llywodraeth gefnogi radio cymunedol yw drwy bethau fel darlledu gwasanaeth cyhoeddus. A gaf fi ddweud ei fod yn well nag y bu? Ond rwy'n credu ei fod yn dal yn anghyson.
Roedd yna adeg pan nad oedd llawer o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a gâi ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar ymgyrchoedd Cymru yn mynd ar radio cymunedol. Mae hynny'n newid, ond mae'n ymddangos i mi fel mater o drefn—. Er enghraifft, gyda'r wybodaeth gyhoeddus am frechu y byddwn yn ei chael, un o'r ffynonellau allweddol ar gyfer mynd i mewn i'n cymunedau yw'r defnydd o radio cymunedol. Ac yn y tymor hwy, credaf y dylem weld radio cymunedol yn gyfle gwirioneddol ar gyfer darparu gwybodaeth ddiduedd o safon i'n cymunedau am yr hyn sy'n digwydd yn y lle hwn, am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid inni ei gefnogi. Mae'n cael ei redeg ar y nesaf peth i ddim, mae'n amrywiol iawn ledled Cymru, a chredaf y dylem ei weld bellach fel ased democrataidd o safon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am baratoi adroddiad cynhwysfawr mewn amser byr ar fater sydd o bwys allweddol i ni i gyd mewn argyfwng iechyd cyhoeddus fel rydyn ni ynddo fo ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad yn dangos yr heriau sydd yn wynebu sector y cyfryngau yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig fyd-eang. Mae o hefyd yn ein hatgoffa ni o broblemau sydd wedi bod gyda ni ar hyd y blynyddoedd ynglŷn â sut y mae pobl Cymru yn gallu cyfathrebu â'i gilydd drwy gyfrwng y drefn sydd gyda ni ar hyn o bryd yn y cyfryngau. Fe garwn i gyfeirio yn benodol, gan fy mod i wedi derbyn pob un argymhelliad ond argymhelliad oedd yn ymwneud â'r BBC, at y rheswm pam ein bod ni wedi cymryd y safbwynt yma. Ac mi garwn i esbonio mai rheswm cyfansoddiadol yn unig ydy hyn ac ein bod ni'n awyddus iawn, yn enwedig o weld y datganiadau diddorol unwaith eto o ran rheolaeth y BBC yn ganolog, lle bydd Cymru yn chwarae rhan amlwg yn nyfodol y BBC yn ganolog, bod yna gyfle i gael trafodaeth o'r newydd gyda'r BBC ynglŷn â'r modd y gall y cyfrwng cyhoeddus hwnnw fod yn adlewyrchu datganoli yn llawer iawn cliriach.
Hefyd, fe garwn i ddiolch i'r pwyllgor am y modd y cysylltwyd yn effeithiol â rhanddeiliaid a rhoi pwyslais clir ar yr angen i gyfryngau Cymreig fod yn adlewyrchu ac yn cynhyrchu, oherwydd dwi'n meddwl mai un gwendid mawr ynglŷn â sawl trafodaeth am y cyfryngau ydy'r syniad mai dim ond adlewyrchu beth sy'n digwydd mae'r cyfryngau. Mae'r cyfryngau hefyd yn llewyrchu a hyd yn oed yn tywyllu. Hynny yw, os nad ydy materion yn cael y sylw taladwy, does dim democratiaeth yn bosib. A dyna oedd y tu ôl i'r cais a wnes i i Cymru Greadigol i ystyried eu rôl nhw mewn perthynas â chryfhau'r cyfryngau yng Nghymru. Ac mae'n dda gen i ddweud bod bwrdd Cymru Greadigol bellach wedi cyfarfod.
Yn anffodus, dwi ddim wedi cael cyfle i ymuno â nhw eto, ond yn y cyfarfod cyntaf y byddaf i yn mynd iddo fel Dirprwy Weinidog yn gyfrifol am y maes yma, fe fyddaf i yn trafod y modd y gallan nhw ein cynorthwyo ni i ddatblygu'r egwyddor yma o gael gwell cyfathrebu ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys hefyd, gobeithio, y gallwn ni ddatblygu partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yma, fel bod y materion—dwi'n gwybod bod hwn wedi bod yn fater o gonsyrn i Aelodau ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, nad ydyn ni ddim wedi cael y ddealltwriaeth ddigonol o'n gweithgaredd ni. A dwi'n meddwl bod yna le i Gomisiwn y Senedd, a dwi'n deall eu bod nhw'n barod i wneud hynny, i gydweithio mewn model o gyfathrebu ac o ddatblygu cyfathrebu yng Nghymru sydd yn fwy digonol.
Beth sydd yn bwysig i ni yw bod unrhyw gorff sydd yn cyllido cyfathrebu o unrhyw fath, a newyddiaduraeth o unrhyw fath, yn gweithredu'r egwyddor hyd braich, sydd wedi gweithio mor effeithiol yn y meysydd celfyddydol. A dwi'n sicr ei bod hi'n bosib i ni gael modd o weithredu hyd braich sy'n cynnal annibynniaeth newyddiadurol tra'n gofalu bod gallu pobl Cymru i gyfathrebu â'i gilydd a gallu Cymru i fod yn wlad ddealladwy yn y byd yn cael eu cadarnhau. Diolch yn fawr.
Nid oes gennyf Aelod sydd wedi gofyn am gael ymyriad, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Credaf fod ehangder y drafodaeth yn dangos pa mor bwysig yw'r materion hyn i Aelodau ar draws y Siambr ac nid i Aelodau ein pwyllgor yn unig. Wrth gwrs, nid oes gennyf amser i ymateb i sylwadau pawb, ond ceisiaf nodi rhai o'r prif rai.
Credaf fod sylwadau David Melding am y risg o lwythgarwch yn y cyfryngau cymdeithasol, sut y byddwn yn clywed yr hyn rydym eisiau ei glywed yn y pen draw; hynod bwysig, ac mae hynny'n atgyfnerthu'r angen am newyddiaduraeth brofedig, ac fel y dywedodd, newyddiadurwyr sy'n byw yn eu cymunedau, yn deall eu cymunedau. Ac wrth gwrs, heb wasg rydd a heb wybodaeth gywir, mae'n llygad ei le fod democratiaeth yn amhosibl, ac mae hwnnw'n bwynt y cyfeiriwyd ato gan sawl Aelod.
Rwyf am dreulio ychydig funudau'n ymateb i Hefin David, a oedd, yn fy marn i, yn gwneud rhai pwyntiau da iawn. Rwy'n defnyddio llawer ar Senedd Home hefyd ac nid wyf bob amser yn cytuno â'r hyn y mae'n ei ddweud, ond mae'n hynod o fanwl, ac yn y pwyllgor, credaf inni wneud argymhellion ar hyn, ynglŷn â'r mathau hynny o wefannau'n gallu cael arian sy'n dod drwy hysbysiadau cyhoeddus; fod ganddynt rôl hollbwysig i'w chwarae, ac mae honno, fel y dywed Hefin David, yn ffordd effeithiol iawn i'r sector cyhoeddus gefnogi newyddiaduraeth leol—neu newyddiaduraeth genedlaethol yn wir yn yr achos hwn, Senedd Home—ond heb y math o risgiau y mae'n tynnu sylw'n briodol atynt a ddaw yn sgil cyllid uniongyrchol, ond dof yn ôl at hynny mewn munud.
Mae'n ddiddorol, mewn sesiwn arall a gawsom, fod y Caerphilly Observer wedi'i ddisgrifio i ni fel enghraifft dda iawn o sut y gallodd rhywfaint o gyllid sbarduno drwy newyddiaduraeth leol gychwyn pethau a'i bod bellach yn fenter fasnachol lwyddiannus. Er hynny, dywedwyd wrthym yn y sesiwn honno hefyd na fyddai hynny'n gweithio ym mhob cymuned, a bod angen unigolyn arbennig arnoch i'w yrru.
Felly, dyna un model, o fath. Ond cawsom ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth y bydd angen mwy o gymorth cyhoeddus uniongyrchol, a daw hynny'n ôl at bwynt y Gweinidog ynglŷn â'r angen i wneud hynny hyd braich. Wrth gwrs, mae yna gynsail: mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny ar gyfer Golwg360. Nid yw'n swm enfawr o arian, ond fe wnaeth helpu i'w gael yn weithredol a'i wneud yn gynaliadwy. Credaf mai un o'r pethau a ddaeth drwodd oedd yr angen am amrywiaeth o fodelau, a phwynt Hefin David am fodelau tanysgrifio ar gyfer newyddiaduraeth ar-lein. Yn ein trafodaethau gyda Reach, roeddent yn amheus ynglŷn â hynny, ond credaf ein bod ni fel pwyllgor yn teimlo y dylent ei archwilio ymhellach. Roeddwn yn mynd i ddweud nad oeddent wedi ymdrechu'n ddigon caled, ond mae'n debyg nad yw hynny'n deg. Ond y dylid ymchwilio ymhellach i hynny, ac wrth gwrs, mae arloeswyr yn y sector yng Nghymru yn edrych ar yr union fath hwnnw o fodel ar gyfer newyddiaduraeth genedlaethol. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hefin David am ei gyfraniad oherwydd rwy'n credu ei fod yn un gwerthfawr iawn.
Diolch i Siân Gwenllian hefyd. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith nad yw'r heriau hyn i'r sector yn newydd ond fel y clywsom yn ein tystiolaeth, tynnodd y pandemig sylw atynt a'u gwneud yn waeth. Roeddwn yn meddwl bod y pwynt a wnaeth yn benodol ar fynediad i ystod ehangach o bobl ifanc at gyfleoedd proffesiynol mewn newyddiaduraeth yn un da iawn ac efallai fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd ar ei drywydd.
Roedd Mick Antoniw yn iawn i'n hatgoffa fod gwybodaeth yn bŵer, ac mae ei frwdfrydedd dros radio cymunedol yn hirsefydlog ac yn gwbl deilwng. Ac unwaith eto, y pwyntiau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio hysbysebu sector cyhoeddus.
Fe ddof â fy ymatebion i ben cyn gynted ag y gallaf, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Rwy'n falch ei fod yn bwriadu cael y trafodaethau hynny gyda Cymru Greadigol ynglŷn â sut y gallent greu math o fodel hyd braich i ddarparu cymorth, yn enwedig cymorth efallai i gael newyddiaduraeth leol yn weithredol. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu dod yn ôl at y pwyllgor yn fuan ar hynny, oherwydd yr hyn a glywsom yn ein tystiolaeth oedd bod gwasanaethau'n diflannu, mae newyddiadurwyr yn diflannu o un wythnos i'r llall ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny ar frys. Mae'n amlwg fod hwn yn fater y bydd y pwyllgor yn parhau i fod eisiau ei adolygu.
A dof i ben drwy ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod un peth y gall pob un ohonom ei wneud wrth gwrs, a gallwn brynu ein papur lleol. Gallwn ni, y rhai ohonom sy'n gallu ei fforddio, danysgrifio i wasanaethau sy'n gwneud hynny'n bosibl ac roedd y gwaith hwn yn sicr yn fy atgoffa na ddylwn bob amser fynd ar WalesOnline a dylwn fod yn prynu'r Western Mail. Felly, diolch i bawb unwaith eto am gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac yn y ddadl hon, ac mae'r rhain yn faterion y gwn y byddwn yn dychwelyd atynt. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.