Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:36, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Bu'n rhaid i'r Prif Weinidog a'i gyd-Weinidogion wneud penderfyniadau eithriadol o anodd yn ystod y pandemig, ac mae pob un ohonom ni yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa bellach yng Nghaerffili ac ar draws y de-ddwyrain. Rwyf i newydd wrando ar y drafodaeth rhyngoch chi a Laura Anne Jones, Prif Weinidog. Credaf fod diffyg cysylltiad rhwng difrifoldeb y sefyllfa a rhai agweddau cyhoeddus tuag at hyn, ac rwy'n meddwl tybed a allai hyn fod oherwydd rhai methiannau mewn cyfathrebu. Rwy'n teimlo y gallai'r cyfyngiadau sydd newydd gael eu trafod gyda'r sector lletygarwch, a gyflwynwyd ddydd Gwener diwethaf, fod wedi cael llai o wrthwynebiad pe byddai amser arweiniol hirach wedi bod, a fyddai wedi rhoi amser i fusnesau gynllunio o ran staffio a stoc, oherwydd arweiniodd y methiant i ganiatáu'r amser hwnnw at fusnesau yn gorfod cau ar fyr rybudd ac arllwys cwrw i lawr y draen. Rwy'n ymwybodol o un busnes, sydd yn sir Caerffili, a anfonodd neges at yr Aelodau yn dweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi terfyn ar rai gwasanaethau tan ganol mis Ionawr gan nad oedd ganddyn nhw hyder yng ngallu'r Llywodraeth i ymrwymo i amserlen ddibynadwy o lacio cyfyngiadau erbyn y dyddiad terfyn a addawyd. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa sicrwydd y gallech chi ei roi i'r sector lletygarwch y byddwch chi'n rhoi cymaint o amser â phosibl iddyn nhw baratoi yn y dyfodol, o ran llacio a gorfodi cyfyngiadau?