Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw ac rwy'n ei groesawu'n gyffredinol. Sefydlwyd tasglu'r Cymoedd yn 2016 i ganolbwyntio adnoddau ar gymunedau difreintiedig yng Nghymoedd y de, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr. Mae'r cymunedau hyn wedi wynebu materion economaidd a chymdeithasol sydd wedi cael effaith andwyol ar eu llesiant. Yn anffodus, mae gwaith tasglu'r Cymoedd wedi'i lesteirio'n sylweddol gan haint y coronafeirws. Ym mis Mehefin, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gadarnhau bod nifer o brosiectau wedi'u gohirio oherwydd pryderon iechyd a diogelwch a chyfyngiadau ar gapasiti. Fe wnaethoch chi hefyd ofyn i swyddogion gynnal adolygiad o bob un o saith blaenoriaeth rhaglen bresennol tasglu'r Cymoedd. O ystyried hyn, a wnewch chi amlinellu dyfodol tasglu'r Cymoedd yn ystod gweddill y rhaglen, a pha brosiectau a gaiff eu blaenoriaethu neu eu dileu i roi sicrwydd i randdeiliaid a'r cymunedau?
Er gwaethaf ei fwriadau da, nid yw tasglu'r Cymoedd wedi cyflawni'r newid trawsnewidiol yr oedd ei angen ar Gymoedd y de i wella ffyniant cymunedau lleol. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dywed Sefydliad Bevan fod ganddyn nhw bryderon o hyd am strategaeth, graddfa ac effaith y tasglu. Mae Sefydliad Bevan yn nodi bod y tasglu ei hun wedi helpu i ddal sylw ar y materion economaidd-gymdeithasol sy'n wynebu cymunedau'r Cymoedd. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn feirniadol o ddiffyg arweinyddiaeth a chyfeiriad Llywodraeth Lafur Cymru wrth sefydlu ac adnabod y tasglu.
Maen nhw hefyd yn beirniadu targed Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i gael 7,000 o bobl i mewn i waith erbyn 2021, sy'n nifer pitw o'i gymharu â'r 67,000 o swyddi yr amcangyfrifir bod eu hangen i ddiwallu anghenion swyddi'r ardal. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 4,500 o bobl wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglenni cyflogaeth gymunedol ers mis Gorffennaf 2017. Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn yn debygol o fod wedi'i wrthbwyso gan golli swyddi o ganlyniad i bandemig COVID-19. Sut ydych chi'n ymateb, Dirprwy Weinidog, i'r dystiolaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid bod tasglu'r Cymoedd wedi'i gyfyngu gan ddiffyg uchelgais gan Lywodraeth Lafur Cymru, a bod dull braidd yn anghyson o adfywio economaidd-gymdeithasol wedi arwain at ddarparu rhy ychydig o adnoddau a buddsoddiad ar draws y rhanbarth?
Mae nifer yr eiddo gwag yn rhanbarth y Cymoedd yn dal yn uchel. Dengys amcangyfrifon diweddar fod 994 eiddo gwag ym Mlaenau Gwent, sy'n cyfateb i 3 y cant o gyfanswm nifer yr anheddau yn yr ardal; 2,212 eiddo gwag yn Rhondda Cynon Taf, sy'n cyfateb i 2 y cant o gyfanswm nifer yr anheddau; a 520 eiddo gwag ym Merthyr Tudful, sy'n cyfateb i 1.9 y cant o gyfanswm yr anheddau yn yr ardal.
Canfu mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn 2019 fod trefi yng Nghymoedd y de yn fwy tebygol o brofi mwy o amddifadedd incwm ac amddifadedd iechyd na rhannau eraill o Gymru. Rwy'n gwybod eich bod wedi cyflwyno grant cartrefi gwag i fynd i'r afael â chartrefi gwag a diffaith yn rhanbarth y Cymoedd, ond daw'r cynllun hwn i ben ym mis Chwefror 2021. Mae angen buddsoddiad a chymorth wedi'u teilwra ar frys ar y Cymoedd i helpu cymunedau i adeiladu'n ôl yn well. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn defnyddio ei hadnoddau sydd heb eu dyrannu yn rhan o'r £5 biliwn ychwanegol o gyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Geidwadol y DU i helpu'r Cymoedd i wella ar ôl y pandemig? Diolch.