4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:13, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, ers yn rhy hir o lawer, bu'r ddadl ynghylch y Cymoedd yn dipyn o sioe Pwnsh a Jwdi, gyda phobl yn tynnu sylw'n briodol at effaith dad-ddiwydiannu ac effaith Llywodraeth Thatcher, ac rwyf wastad wedi bod yn amharod i gymryd yr abwyd yna, ond roedd y cyfraniad hwnnw gyda'r mwyaf chwerthinllyd i gyd, mae'n rhaid imi ddweud. I Laura Anne Jones dynnu sylw at fwlch o 67,000 o swyddi yn y Cymoedd a beio Llywodraeth Cymru amdano, rwy'n credu fod hynny yn ymestyn hygrededd y tu hwnt i'w derfynau. Ac mae'r £5 biliwn tybiedig hwnnw y mae Laura Anne Jones wedi cyfeirio ato y mae Llywodraeth y DU wedi'i bod mor hael yn ei roi i ni prin yn diwallu costau cynyddol y GIG ac yn gadael ein harian cyhoeddus dan bwysau sylweddol; yn anad dim, nid ydym yn cael y gyfran Barnett briodol ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd ac ar gyfer HS2, a allai, pe bai gennym ni'r rheiny, arwain at fuddsoddiad pellach yn y Cymoedd. Felly, credaf fod y sylwadau di-sylwedd hyn yn gwbl ddi-fudd, o ystyried maint yr her yr ydym yn ei hwynebu. Felly, nid af ymhellach i mewn i'r sioe Pwnsh a Jwdi benodol honno, ond mae digon y gallwn i ei ddweud pe hoffwn i.

I droi at rai o'i sylwadau mwy synhwyrol, o ran sut y gallwn ni wneud y rhaglen eiddo gwag yn hunangynhaliol, o gofio, fel y dywedodd yn gywir, maint yr her yn y Cymoedd—Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, sydd â'r ail nifer fwyaf o gartrefi gwag yn y DU gyfan—credaf mai un o'r pethau da am y cynllun a ddatblygodd y Cynghorydd Andrew Morgan a'i gydweithwyr yn Rhondda Cynon Taf oedd y byddai hyn yn hunangynhaliol. Rydym ni wedi sicrhau, gan ein bod wedi cynllunio hyn gyda'r awdurdodau, eu bod wedi buddsoddi i gyfateb i'n buddsoddiad ni, ac, yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf, gofynnwyd iddyn nhw gynyddu'r dreth gyngor ar gartrefi gwag, fel eu bod yn creu rhywfaint o refeniw a all wedyn gynyddu'r cylch nesaf o grantiau y gellir eu dyfarnu. Ac wrth gwrs, grantiau yw'r rhain y mae'n rhaid eu had-dalu os bydd pobl yn gwerthu eu heiddo neu'n symud o fewn pum mlynedd. Felly, yr hyn yr ydym ni yn gobeithio yw, drwy gael awdurdodau lleol i gydweithredu fel hyn a chydweithio, y byddwn yn agor eu llygaid i'r posibilrwydd o'r hyn y mae Rhondda Cynon Taf wedi'i wneud a lledaenu hynny, ac y byddan nhw wedyn yn buddsoddi eu hadnoddau eu hunain ac yn gweld y budd i'w cymunedau eu hunain. Wedi'r cyfan, dechreuodd Rhondda Cynon Taf hyn oherwydd eu bod yn cael problem gyda swyddogion iechyd cyhoeddus yn cael eu galw i ymdrin â llygod mawr mewn tai. Felly, roedd problem y bu'n rhaid iddyn nhw ymdrin â hi, ac fe wnaethon nhw gynnig ateb arloesol, yr ydym ni wedi'i raddio.

Dydw i ddim yn derbyn y feirniadaeth bod diffyg uchelgais i'r prosiect. Ni fyddai byth yn bosibl gwrthdroi cenedlaethau o amgylchiadau economaidd heriol mewn cyfnod mor fyr, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio y mae fy natganiad wedi'i ddangos yw, drwy arbrofi a thrwy ddulliau gweithredu gwahanol mewn gwahanol leoedd, ar y cyd ag awdurdodau lleol—felly, nid yw ynglŷn â phobl yn cyflwyno atebion; mae ynglŷn â chynnig atebion gyda'n gilydd—byddwn yn rhoi hwb cychwynnol i adfywio y bydd ei fwrlwm yn parhau y tu hwnt i oes y tasglu.