– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig. Jeremy Miles.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi dal yn ôl tan yr hyn oedd yn ymddangos fel yr eiliad olaf bosib i drefnu'r ddadl hon, yn y gobaith y byddai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi cydnabod cryfder y gwrthwynebiad i'r Bil hwn ac wedi cyflwyno rhai cynigion i gyfaddawdu ar hynny. Yn anffodus, fel y gwyddom, prif nodwedd y weinyddiaeth bresennol yw ei haerllugrwydd ac, felly, dyw hynny ddim wedi digwydd. Felly, ni ddylem ni synnu ei bod, wrth ystyried gwelliannau Tŷ'r Arglwyddi, wedi defnyddio ei mwyafrif yn Nhŷ'r Cyfredin i wydroi'r holl welliannau yr oedd y croesfeinciau a'r gwrthbleidiau wedi eu pasio yn ystod dyddiau lawer o archwiliad fforensig.
Hoffwn, os caf i, dalu teyrnged i'r ffordd y mae arglwyddi o bob rhan o'r Tŷ wedi bod yn barod i weithio'n galed gyda ni i amddiffyn y setliad datganoli, y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos yn barod i'w chwalu. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, y Farwnes Finlay o Landaf, yr Arglwydd Wigley a'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth, yn ogystal â meinciau blaen yr wrthblaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae'n ymddangos yn sicr y bydd y Bil a gyflwynir i gael Cydsyniad Brenhinol ymhen ychydig ddyddiau yn niweidiol iawn i'r Senedd hon ac i'n cenedl. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid i gyd wedi cydnabod yn eu hadroddiadau effaith niweidiol iawn y Bil hwn ar ddatganoli, i'r graddau bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi torri cynsail i argymell na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad.
Gadewch imi roi pum rheswm yn unig pam, fel Llywodraeth, y credwn ni y dylai pob Aelod o'r Senedd hon bleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Yma, hoffwn yn arbennig gyfeirio fy sylwadau at feinciau'r Ceidwadwyr. Yn gyntaf, pam fyddai unrhyw Aelod o'r Senedd hon a etholwyd i wneud penderfyniadau ar faterion datganoledig sy'n adlewyrchu barn y rhai sy'n eu hethol yn cytuno i ddeddfwriaeth sy'n ysbaddu eu gallu i wneud yr union beth hwnnw? Mae egwyddorion mynediad i'r farchnad yn golygu y gellir gwerthu unrhyw gynnyrch yn gyfreithlon sy'n cael ei werthu'n gyfreithlon mewn unrhyw ran o'r DU; p'un a yw'n cydymffurfio â safonau yma yng Nghymru ai peidio, mae'n rhaid iddi fod yn bosibl i'w roi ar y farchnad yma. Ni allwn hyd yn oed fynnu ei fod yn cael ei labelu'n wahanol.
Nid yw hyn yn ymwneud ag achosion damcaniaethol yn unig. Fel y gŵyr Aelodau, rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar wahardd naw math o blastig untro yng Nghymru. Nid ydym ni wedi cwblhau'r dadansoddiad o'r ymatebion eto, felly ni fyddwn yn rhagfarnu pethau, ond pe byddem yn penderfynu—neu'r Llywodraeth newydd yn nhymor newydd y Senedd, yn fwy tebygol—eu bod yn dymuno gwneud hynny, ni allai hynny ddigwydd yn ystyrlon pe bai'r Bil hwn yn cael ei ddeddfu.
Gadewch imi ddyfynnu Gweinidog y Llywodraeth, yr Arglwydd True, yn Nhŷ'r Arglwyddi bythefnos yn ôl:
Bydd cyfyngiadau newydd ar werthu nwyddau, gan gynnwys nwyddau a wneir o blastig a gynhyrchir mewn un rhan o'r DU neu a fewnforir i un rhan o'r DU, yn ddarostyngedig i'r egwyddor cydnabod cydfuddiannol ar gyfer nwyddau oni bai fod gwaharddiad yn berthnasol.
Ni cheir nwyddau a werthir yn gyfreithlon mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig eu rhwystro rhag cael mynediad i rannau eraill o farchnad y DU oni bai fod gwaharddiad yn berthnasol. Wrth gwrs, nid yw'n ofynnol i ddefnyddwyr eu prynu.
Mae'n osgoi'r pwynt i raddau bod angen gwybodaeth ar ddefnyddwyr i wneud dewisiadau, a byddai'r cyfyngiadau yn erbyn labelu yn y Bil, wrth gwrs, yn atal hynny.
Yn ail, ystyriwch y pwerau cymorth ariannol sydd wedi'u gwthio i mewn i'r Bil, yr unig beth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw a'r rhannau sy'n weddill yw eu bod yn adlewyrchu'r un bwriad o danseilio datganoli. Mynegodd y Pwyllgor Cyllid bryderon difrifol am y darpariaethau hyn yn huawdl. Bydden nhw'n galluogi Gweinidogion y DU i ariannu ymyriadau yng Nghymru mewn meysydd polisi cwbl ddatganoledig mewn ffyrdd sy'n osgoi, neu hyd yn oed yn gwbl groes, i'r agenda wleidyddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.
Hoffwn ddyfynnu Ceidwadwr arall, yr Arglwydd Dunlop, cyn-Weinidog Swyddfa'r Alban a Swyddfa Gogledd Iwerddon:
os yw'r pŵer yn y Bil i fod yn gwbl effeithiol, bydd yn bwysig i Lywodraeth y DU weithio mewn partneriaeth, nid gwrthdaro, gyda Gweinyddiaethau datganoledig a chynrychiolwyr cymunedau lleol ledled y gwledydd datganoledig. Byddai'n gam yn ôl...pe bai Gweinidogion yn ceisio disodli blaenoriaethau lleol â blaenoriaethau'r canol, heb eu llywio gan safbwyntiau lleol. Yn fy mhrofiad i, nid yw'r ddihareb 'Y dyn yn Whitehall sy'n gwybod orau' byth yn un boblogaidd, ac yn sicr ni fydd yn boblogaidd iawn yn yr Alban, dywedodd. Nac yng Nghymru ychwaith, dywedaf i.
Mae digon o ffyrdd y bydd Llywodraeth Geidwadol eisiau rhwystro blaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru, ond dychmygwch Lywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn y Senedd hon—nid syniad yr wyf yn ei hoffi—eisiau cymryd camau a Llywodraeth fwy rhyddfrydol yn San Steffan yn gwrthod yr agenda honno. Rwy'n siŵr na fyddai Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ystyried hynny'n dderbyniol.
Yn drydydd, mae Llywodraeth y DU wedi honni nad yw'r Bil yn cynnwys cyfyngiadau newydd, ac, yn wir, ei fod yn creu pwerau datganoledig newydd. Hoffwn adrodd i'r Siambr fy mod yn dal i aros i rywun ddangos i mi pa gymal sy'n cryfhau pwerau'r Senedd hon. Ni fydd aelodau'n synnu o glywed nad yw hynny wedi'i nodi. Mae cymal 50 yn gosod yn benodol mater newydd a gedwir yn ôl o ran cymorth gwladwriaethol a chymorthdaliadau yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—cyfyngiad newydd a ffres ar bwerau'r Senedd hon.
Yn bedwerydd, Dirprwy Lywydd, nid yw fel pe baem ni heb geisio cyflwyno dull amgen o sicrhau'r farchnad fewnol mewn ffordd greadigol sy'n ystyried unrhyw bryderon dilys. Rydym ni wedi cynnig dull sy'n rhoi'r fframweithiau cyffredin wrth wraidd y farchnad fewnol, ond sy'n rhoi'r hawl i Lywodraeth y DU ofyn i Senedd y DU gyflwyno egwyddorion mynediad i'r farchnad yn y gyfres gul o amgylchiadau fel cam wrth gefn pan fo'r pedair Llywodraeth wedi methu dod i gytundeb. Ceir fframweithiau cyffredin i alinio, parchu datganoli, wrth alluogi marchnad fewnol gystadleuol. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y dull hwn yn dystiolaeth huawdl o'r ffaith nad oes gan eu cymhelliant i gyflwyno'r Bil hwn, a pharhau yn wyneb gwrthwynebiad mor eang, fawr ddim i'w wneud â phryderon busnesau a phopeth i'w wneud â'r awydd i ganoli grym a chloffi rhyddid y Senedd hon i wneud y gwaith y cafodd ei hethol i'w wneud.
A dyma'r pumed rheswm: y cliw cliriaf sydd ei angen i ddangos bod y ddeddfwriaeth hon wedi'i bwriadu nid yn gymaint fel rheoleiddiad y farchnad, ond yn hytrach deddfwriaeth gyfansoddiadol, yw'r gwaharddiad cyffredinol ar draws y Bil cyfan drwy'r cymalau deddfu gwarchodedig—eithrio pŵer y Senedd hon i addasu unrhyw agwedd arni, p'un a yw wedi'i datganoli ai peidio. Nid yw'n gyfyngiad, wrth gwrs, sy'n berthnasol i Senedd y DU. Mae'n eithriad gwirioneddol i Fil yn ei gyfanrwydd gael ei roi y tu hwnt i gyrraedd y Senedd. Mae'n Fil sy'n honni ei fod yn ymwneud ag egwyddorion y farchnad, ond sydd mewn gwirionedd yn ymosodiad llechwraidd ar y cyfansoddiad. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod hynny'n warthus.
Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddatganoli, nid oes ganddo le o ran rheoleiddio'r farchnad fewnol, nid oes ganddo le yng nghyfansoddiad modern, datganoledig y Deyrnas Unedig, a bydd yn cyflymu'r broses o chwalu'r undeb os daw'n gyfraith. Anogaf holl Aelodau'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cynnal dadansoddiad manwl o'r Bil hwn ac wedi gofyn am dystiolaeth gan amrywiaeth o arbenigwyr. Yn dilyn y gwaith hwnnw, daeth i'r casgliad na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn.
Daethom i'r farn hon oherwydd i ni ganfod (1) nad oes angen y Bil ar gyfer rheoli marchnad fewnol y DU; (2) bydd y Bil yn lleihau cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; (3) bydd y Bil yn lleihau effaith llawer o gyfreithiau a basir yn y Senedd yn y dyfodol, gan gyfyngu ar allu'r Senedd i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru; a (4) bod y Bil yn ceisio gosod ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru mewn ffordd sy'n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur. Mae dewisiadau polisi amgen clir i'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth y DU, ac ni chyflwynwyd achos argyhoeddiadol dros lunio'r Bil.
Cyn symud i egluro'r rhesymau y tu ôl i'n casgliadau ni, hoffwn bwysleisio nad oes gennym ni wrthwynebiad i ddatblygu modd i reoli marchnad fewnol y DU. Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r dulliau hyn gael eu datblygu ar y cyd gan Lywodraethau a deddfwrfeydd pedair gwlad y DU ar sail cyd-ddylunio, cydsynio a pharchu'r setliadau datganoli. Os yw'r Senedd yn cytuno i atal ei chydsyniad heddiw, a bod Llywodraeth y DU yn mynd rhagddi, yna byddai'r Bil hwn yn cynrychioli'r weithred o osod dewisiadau polisi un genedl ar wledydd eraill yn erbyn eu hewyllys—yn amlwg diffyg parch at y sefydliad hwn ac at ddatganoli yn ei gyfanrwydd. Daethom i'r casgliad nad oes angen y Bil oherwydd bod amrywiaeth o ddulliau eisoes ar gyfer rheoli ymwahanu polisiau ar ôl gadael y cyfnod pontio, gan gynnwys y rhaglen fframweithiau cyffredin, dyletswyddau rhwymedigaeth ryngwladol yn y setliadau datganoli, a phwerau a ddarparwyd gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mewn cysylltiad ag effeithiolrwydd deddfwriaethol y Senedd ar ôl cyflwyno'r Bil hwn, mae'n ddatganiad o ffaith y bydd y Bil yn lleihau cymhwysedd y Senedd mewn dwy ffordd: mae'r Bil yn ceisio mewnosod mater newydd a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol, ac mae darpariaeth yn y Bil yn ceisio gwneud hynny, unwaith y bydd yn Ddeddf, yn ddeddfiad gwarchodedig, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl i'r Senedd ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae hefyd yn ffaith nad yw'r Bil yn darparu unrhyw bwerau newydd i'r Senedd. Cadarnhawyd hyn gan un o uwch swyddogion Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU yn ein cyfarfod ar 12 Tachwedd, a oedd yn bresennol i gefnogi'r Arglwydd True, Gweinidog Gwladol Swyddfa'r Cabinet. Efallai fod yr effeithiau mwyaf arwyddocaol ar ddatganoli yn deillio o oblygiadau Rhannau 1 i 3 o'r Bil ar fynediad i'r farchnad, a fydd yn gosod terfyn ymarferol newydd ar effaith deddfwriaeth ddatganoledig. Cadarnhawyd hyn gan Lywodraeth y DU yn ei nodiadau esboniadol gwreiddiol i'r Bil, a ddywedodd y bydd y Bil, a dyfynnaf:
yn creu terfyn newydd ar effaith deddfwriaeth a wneir drwy arfer cymhwysedd deddfwriaethol neu weithredol datganoledig.
Mae'r darpariaethau yn y Bil yn fwy cyfyngol na'r egwyddorion presennol o ran mynediad i'r farchnad ym marchnad sengl yr UE, gan leihau'r rhyddid sydd gan y deddfwrfeydd datganoledig ar hyn o bryd i ddatblygu polisïau unigryw ac arloesol. Bydd effaith ymarferol cyfreithiau a basiwyd gan y Senedd yn cael ei lleihau, gan leihau gallu'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru.
Ein pedwerydd rheswm dros argymell bod y Senedd yn atal ei chydsyniad yw bod y Bil yn ceisio gorfodi ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru mewn ffordd sy'n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur. A beth a olygwn ni wrth hynny? Wel, mae maint marchnad Lloegr o'i gymharu â chenhedloedd eraill y DU yn golygu y byddai effaith egwyddorion mynediad i'r farchnad yn ffafrio dewisiadau polisi Lloegr yn anghymesur dros rai gwledydd eraill y DU. Mae gwneud y Bil yn ddeddfiad gwarchodedig yn golygu na all y deddfwrfeydd datganoledig ddiwygio darpariaethau'r Bil gan eu bod yn berthnasol i'r cenhedloedd. Ond nid yw Llywodraeth y DU, gan weithredu fel y mae ar ran Lloegr mewn meysydd polisi datganoledig, wedi'i chyfyngu i wneud newidiadau i'r Bil drwy Senedd y DU yn y dyfodol. Mae'r Bil yn rhoi pwerau eang i Weinidogion y DU wneud newidiadau sylweddol i'r Bil pan fo'n ddeddf, ac, yn dilyn hynny, y farchnad fewnol, drwy is-ddeddfwriaeth heb fawr o graffu seneddol.
I gael cyngor annibynnol ar fonitro marchnad fewnol y DU, mae Rhan 4 o'r Bil yn creu'r swyddfa ar gyfer y farchnad fewnol sy'n rhan o'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnad. Nawr, adran anweinidogol Llywodraeth y DU yw hon, gyda chadeirydd ac aelodau bwrdd yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a'r Strategaeth Ddiwydiannol. Unwaith eto, ni allwn ni anghofio mai dim ond mewn meysydd polisi datganoledig y mae Llywodraeth y DU yn gweithredu dros Loegr, ac eto mae'n cadw pwerau i addasu'r rheolau a phenodi'r rhai sydd â'r dasg o fonitro'r cais.
O ran Rhan 5, pwerau cymorth ariannol—ac rwy'n siŵr bod adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pwysleisio hyn—mae'r Bil yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth y DU ariannu gweithgarwch mewn meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru. Ni welwn unrhyw gysylltiad rhesymegol rhwng y gofynion ar gyfer pwerau o'r fath a gweithrediad marchnad fewnol y DU. At hynny, mae goblygiadau'r pwerau hyn ar grant bloc Cymru yn parhau i fod yn aneglur. Unwaith eto, mae anghydbwysedd cynhenid yn y trefniant hwn, gyda Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth y DU a'r Llywodraeth de facto ar gyfer meysydd datganoledig Lloegr yn unig.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw—. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi rhewi, ond roedd ei amser ar ben beth bynnag. Felly, rwy'n mynd i symud ymlaen. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gennym ni lawer iawn o siaradwyr, ac nid ydych chi i gyd yn mynd i gael cyfle, ac mae hynny'n cynnwys pobl yn gorfod cadw at amseroedd caeth iawn. Felly, os caf i alw—. Mick Antoniw o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond mae'n ymddangos nad yw Zoom yn gweithio. Felly, a gawn ni doriad technegol o ddwy funud, wrth inni edrych i weld beth sydd wedi digwydd i Zoom, os gwelwch yn dda?
Fe wnawn ni ailymgynnull. Os caf ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad am ei gyfraniad—Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn ddarn o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i ddatganoli a sefydlogrwydd y DU ac yn hoelen olaf yn arch confensiwn Sewel. Fe'i hyrwyddir gan Lywodraeth y DU fel Bil sy'n economaidd ei natur yn unig. Mae hwn yn ddisgrifiad ffug a chamarweiniol. Mae'r Bil yn ddarn o ddeddfwriaeth ganoli sy'n tanseilio datganoli ac yn caniatáu i Weinidogion Llywodraeth y DU ddiystyru cyfrifoldebau datganoledig. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y pwyllgor fod y Bil yn dechrau o'r safbwynt anghywir, ac rydym yn cytuno. Mae'r Bil yn torri'r egwyddorion ar gyfer sefydlu fframweithiau cyffredin i ddarparu ar gyfer marchnad fewnol yn y DU y cytunwyd arnyn nhw ym mis Hydref 2017 gan bob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gan na fu bron dim ymgysylltu nac ymgynghori priodol â'r Llywodraethau datganoledig cyn cyhoeddi, mae'n 'gudd-ymosodiad cyfansoddiadol' fel y'i disgrifiwyd yn ddiweddar mewn sesiwn dystiolaeth i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi.
Rydym ni i gyd yn cydnabod yr angen am farchnad fewnol yn y DU ar ôl gadael yr UE. Fodd bynnag, dim ond pedwar mis cyn diwedd y cyfnod pontio y cyflwynwyd y Bil, gyda Llywodraethau datganoledig wedi'u heithrio o'r gwaith paratoi cychwynnol. Mae wedi ei ruthro'n ddifeddwl ac mae'n llawdrwm. Bydd y Bil yn cael effaith negyddol ar y Senedd pan fydd yn ceisio deddfu mewn meysydd newydd mewn cysylltiad â nwyddau a gwasanaethau. Tynnwyd sylw at effaith y Bil ar bwerau'r Senedd gan adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, a nododd y bydd y goblygiadau i gymhwysedd datganoledig yn dibynnu'n drwm ar y safonau gofynnol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn Lloegr fel rhan economaidd gryfaf y Deyrnas Unedig. Bydd y Bil yn ei gwneud yn anos penderfynu'n hawdd a yw'n ymarferol i ddeddfu. Nid yn unig hynny, ond mae'r Bil yn cyflwyno cymhelliant gwrthnysig i Lywodraeth Cymru a'r Senedd i osgoi arloesi wrth lunio polisïau a'r gyfraith. Bydd, i bob pwrpas, yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ganfod cytundeb deddfwriaethol cyn cyflwyno deddfwriaeth, hyd yn oed os oes ymrwymiad maniffesto gan y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath. Yn ddi-os, byddai hefyd yn cyfyngu'n fawr ar allu'r Senedd i ddatblygu rhaglen ddeddfwriaethol gydlynol a chynhwysfawr heb gydsyniad Llywodraeth y DU. Cadarnhawyd y pwynt hwn gan y nodiadau esboniadol gwreiddiol i'r Bil, a oedd yn nodi:
mae darpariaethau'r Bil yn creu terfyn newydd ar effaith deddfwriaeth a wneir drwy arfer cymhwysedd deddfwriaethol neu weithredol datganoledig.
Wrth gwrs, mae'r un dadleuon hyn yn berthnasol i is-ddeddfwriaeth ddatganoledig a wneir yng Nghymru hefyd, ac maen nhw hefyd yn berthnasol i Aelodau'r meinciau cefn sy'n ceisio cyflwyno eu cynigion deddfwriaethol eu hunain, naill ai drwy gyflwyno gwelliannau i Filiau sydd wedi'u cyflwyno yn y Senedd, neu drwy ennill y bleidlais ar gyfer Bil Aelod. Mae'n ymddangos yn sylfaenol ddiffygiol i ni y bydd y Senedd yn cael ei darbwyllo i bob pwrpas rhag pasio cyfreithiau o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol ei hun yn rhinwedd y Bil hwn, hyd yn oed pan fydd y cyfreithiau newydd hynny wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion penodol Cymru a'i dinasyddion, ac mae'n ychwanegu rhwystr diangen i allu'r Senedd i wneud ei chyfreithiau ei hun.
Terfyn pellach ar allu'r Senedd i ddeddfu yw gwneud cymorth gwladwriaethol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Mae gweithredu cymorth gwladwriaethol yng Nghymru wedi bod yn rhan bwysig o bolisi datganoledig Cymru ers blynyddoedd lawer. Yr hyn sy'n peri'r un pryder sylweddol yw'r darpariaethau yn y Bil a fyddai'n caniatáu i'r DU wario arian ac ariannu prosiectau mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Maen nhw'n bwerau eithriadol o eang a mewnwthiol heb unrhyw gysylltiad rhesymegol â gweithrediad y farchnad fewnol ac maen nhw'n sicr o greu dryswch, ac, wrth gwrs, nid yn unig—[Anghlywadwy.]
Iawn. Unwaith eto, mae'n ymddangos bod y cysylltiad wedi torri. Iawn, felly bydd yn rhaid i ni gael seibiant byr arall wrth i'r tîm technoleg edrych ar hyn. Diolch.
Iawn, fe geisiwn ni ailymgynnull eto. Fel y dywedaf, af yn ôl at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw, sydd â munud o'i amser siarad ar ôl. Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel pwyllgor cyfansoddiadol trawsbleidiol, ein swyddogaeth yw asesu cywirdeb ac effaith gyfansoddiadol y Bil hwn, felly fel pwyllgor anaml y byddwn yn argymell i'r Senedd pa un a ddylai roi cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Y tro hwn, rydym o'r farn bod rhwymedigaeth arnom ni i wneud argymhelliad penodol i'r Senedd. Rydym ni wedi dod i'r casgliad y byddai'r Bil yn cael effaith ddofn ar y setliad datganoli ac yn peri risg i ddatganoli. Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad i'r Bil ar ei ffurf bresennol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma'r prynhawn yma, ac o ystyried arwyddocâd y ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs, fe wnaethom ni fel pwyllgor archwilio'r ystyriaethau ariannol sydd ynghlwm wrth y Bil gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Fe ddaeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad mwyafrifol y byddai'r goblygiadau cyfansoddiadol ac ariannol a fyddai'n deillio o basio'r Bil marchnad fewnol ar ei ffurf wreiddiol yn tanseilio'r setliad datganoli, gan arwain at y posibilrwydd hefyd o leihau'r cyllid sydd ar gael drwy grant bloc Cymru.
Er ein bod ni wedi croesawu approach Llywodraeth Cymru o geisio cefnogaeth drwy Dŷ'r Arglwyddi ar gyfer eu gwelliannau enghreifftiol i'r Bil, fe wnaethom ni dynnu sylw at ein pryder y gallai newidiadau a wnaethpwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi gael eu newid yn ôl ar ôl i'r Bil ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, a dyna yn wir ddigwyddodd ddoe, pan adferwyd gan Dŷ'r Cyffredin rhai o agweddau ariannol y Bil a gafodd eu newid gan Dŷ'r Arglwyddi.
Mae gennym ni nifer o bryderon am y Bil fel mae'n sefyll, ac mi af i drwy rai ohonyn nhw yn fy nghyfraniad i nawr. Yn gyntaf, y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwario mewn meysydd datganoledig, a hynny mewn ffordd sydd ddim yn gydnaws â bwriadau strategol Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni y byddai modd defnyddio'r pwerau cymorth ariannol yn y Bil at ddibenion eang iawn, gan gynnwys o fewn meysydd datganoledig. Fe wnaeth yr Arglwyddi ddileu'r cymal hwn, ond fe'i hadferwyd ddoe wedyn yn Nhŷ'r Cyffredin. Ein barn ni yw nad yw'r pwerau hyn yn angenrheidiol, ac rŷm ni'n credu y byddan nhw'n tanseilio penderfyniadau gwariant sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru.
Roedd Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ariannu unrhyw berson yn uniongyrchol ar ystod eang o faterion sydd o fewn—[Anghlywadwy.]
Mae'n ddrwg iawn gennyf i am hyn. Mae angen i'r technegwyr ddychwelyd ac mae angen i ni weld beth sy'n digwydd.