Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Nid yw'r penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud yng Nghymru ynghylch rheoli'r ymateb i'r pandemig yn rhai du a gwyn. Yn fy marn i, nid yw'n ymwneud â bywydau neu fywoliaeth, ond yn hytrach, bywydau a bywoliaeth, ac mae fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn ceisio gwyntyllu'r farn honno. Nid oes amheuaeth nad yw COVID-19 yn ddinistriwr. Mae'r holl broses o heintio, iechyd yn dirywio a mynd i'r ysbyty wedi rhoi straen pellach ar ein systemau GIG a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan straen, ac mae natur heintus y clefyd yn golygu bod nifer o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ffwrdd o'r gwaith am eu bod yn sâl neu am fod yn rhaid iddynt ddilyn mesurau hunanynysu rhagataliol. Felly, rwy'n deall y pwysau a deimlir gan y gwasanaethau iechyd a gofal.
Ond i'r rhai sy'n llwyddo i ddianc rhag cyrhaeddiad COVID, neu sy'n ei ddal ond yn gwella, mae yna edefyn arall yr un mor bwysig i wead pethau—y gallu i ennill bywoliaeth, i fod â phwrpas, i allu parhau â bywyd sydd, rhaid cyfaddef, wedi newid. Mae gweithio gartref, mesurau cadw pellter cymdeithasol, gwahanol ddulliau teithio, ufuddhau i reoliadau, dilyn canllawiau, cyfyngu ar weithgareddau, siopa'n wahanol, diheintio erwau o Perspex i gyd yn dod yn rhan annatod o'n bywydau arferol. Ac er clod mawr i'r ddynoliaeth, rydym wedi ceisio achub bywydau. Mae gwyddonwyr wedi gwneud eu gorau, mae cymunedau wedi cydweithio, ac mae llawer o unigolion wedi camu i'r adwy, wedi dod yn fwyfwy arloesol, ac wedi gofalu am eu cymydog, eu ffrind a'r dieithryn i lawr y ffordd.
Ond mae'n rhaid i ni hefyd geisio cynnal bywoliaeth pobl, a hynny am nifer o resymau: canlyniadau macro-economaidd cael economi sydd wedi methu; lliniaru baich y cymorth gan y Llywodraeth, a fydd yn cael llawer o alwadau eraill am arian; cadw swyddi, gyrfaoedd a chyflogau pobl; sefydlogi'r sylfaen drethi; galluogi cyfle i gael synnwyr o bwrpas, ar gyfer addysg a hyfforddiant a hunangyflawniad; ac yn anad dim, cydnabod bod gennym yng Nghymru nifer anghymesur o uchel o fusnesau sy'n perthyn i'r categori micro neu'r categori BBaChau—busnesau sy'n aml yn cael eu rhedeg gan deuluoedd neu sy'n cynnwys gweithwyr o ardal ddaearyddol dynn, a phan fydd y busnesau hynny wedi mynd, bydd yn anodd iawn cael rhai newydd yn eu lle. Gwyddom eisoes fod cynnydd o 41 y cant wedi bod mewn diweithdra yng Nghymru, o'i gymharu â dim ond 18 y cant yn Lloegr. Felly, mewn termau real, mae hynny'n golygu bod 20,000 o bobl ychwanegol yn chwilio am waith yng Nghymru. Mae ar fusnesau angen yr amgylchedd iawn, ac os yw'r amgylchedd hwnnw'n mynd yn anghynaliadwy, ni fydd yn cynnal busnes, nid colli diwrnod o gyflog neu ychydig wythnosau o gyflog fydd pobl, ond eu swydd gyfan neu eu buddsoddiad mewn busnes, eu cynilion oes, y morgais ar y tŷ a dyfodol i'r plant. Mae'r sector lletygarwch yn crisialu'n berffaith y cydbwysedd y mae angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo rhwng sicrhau bod COVID-19 yn cael ei lethu heb lethu ein bywyd economaidd. Ond rwy'n credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn eto.
Cafodd y cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do o 4 Rhagfyr eu cyfarch â sioc a dicter gan lawer o'r busnesau yn fy etholaeth—busnesau sydd wedi gwario arian ac wedi treulio amser yn sicrhau eu bod wedi glynu at bob canllaw a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Teimlant fod y rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn anghymesur ac yn afresymegol. Maent yn gofyn, 'Ble mae'r dystiolaeth?' Ble, yn wir? Weinidog, mae eich Llywodraeth wedi methu darparu tystiolaeth yn sail i'r cyfraddau trosglwyddo yn y diwydiant lletygarwch. Wrth ddarparu tystiolaeth ar gyfer ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol y Llywodraeth, ysgrifennodd y grŵp cynghori technegol y byddai cau bariau, tafarndai, caffis a bwytai yn cael effaith ganolig, gyda gostyngiad posibl mewn cyfraddau trosglwyddo R o 0.1 i 0.2.
Nawr, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn nodi, a hynny'n briodol, fod nifer yr achosion yn codi ledled Cymru, ac felly'r angen am fesurau cenedlaethol. Ond gadewch i ni fod yn glir: ceir amrywiadau enfawr o hyd, ac nid wyf yn credu ei bod y tu hwnt i'r dadansoddiad i edrych ar sut i gyflwyno cyfyngiadau symud wedi'u targedu i ymdrin â mannau problemus, gan ganiatáu i'r ardaloedd â rhifau R isel barhau i fasnachu mewn modd mwy cyfannol. Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gofio bod y diwydiant lletygarwch hanfodol hwn, sy'n bodoli ar gymaint o ffurfiau arloesol, yn cefnogi cadwyn gyflenwi sydd hefyd wedi'i distrywio.
Mae llawer yn siarad am y diffyg sicrwydd cronig yn y sector lletygarwch. Hoffent gael gwell golwg ar y dyfodol nag ychydig wythnosau ar y tro. Bydd gan lawer o fusnesau archebion ar gyfer y flwyddyn newydd a bydd angen iddynt gynllunio, yn enwedig o ran staffio a chysylltu â chyflenwyr. Mae busnesau hefyd yn codi mater iechyd meddwl staff, gan fod llawer yn poeni'n ddyddiol a fydd angen iddynt ddod i'r gwaith yr wythnos nesaf. Ac wrth gwrs, mae methiant Llywodraeth Cymru i roi cymorth i'r diwydiant lletygarwch cyn mis Ionawr yn arwydd pellach mai ffrind tywydd teg yw Llywodraeth Cymru i'r gymuned fusnes.
Weinidog, gadewch i ni fod yn glir. Roedd y ffordd y cafodd y grant datblygu ei gyflwyno ym mis Tachwedd yn drychinebus. Mae angen dysgu gwersi a bydd angen i fusnesau gael gafael ar y cyllid hwn mewn ffordd deg a chyfartal. Rydym wedi gweld misoedd o ansicrwydd, penderfyniadau munud olaf a'r modd gwael y cyflwynwyd cyllid gan y Llywodraeth. Mae angen gwell cydbwysedd yn ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae angen i Lywodraeth Cymru warchod bywydau a bywoliaeth pobl, Weinidog, ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi ein cynnig.