7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:33, 9 Rhagfyr 2020

Nawr, mae hinsawdd y pandemig COVID yma wedi newid cryn dipyn dim ond yn y dyddiau diwethaf yma, ac mae'r sefyllfa yn ddifrifol iawn rŵan. Mae yna dros 2,000 o achosion newydd heddiw, ac mae'r sefyllfa yn bryderus iawn yma ym Mae Abertawe, gyda lefelau uchel o achosion yng Nghastell Nedd Port Talbot a hefyd yma yn Abertawe, gyda'r lefelau'n cynyddu'n gyflym ac yn berig o fynd allan o bob rheolaeth, a nifer fawr ohonyn nhw mewn ysgolion. Felly, buaswn i'n hoffi gofyn i'r Llywodraeth: beth yn ychwanegol mae'r Llywodraeth yn ei wneud am hyn? Sut maen nhw'n edrych ar ysgolion nawr, yn enwedig wrth wynebu y Nadolig a'r lefelau cynyddol o achosion yn gysylltiedig ag ysgolion, gyda'r holl ddisgyblion yn gorfod cael eu hanfon gartref? Mae 700 o staff bwrdd iechyd Bae Abertawe sydd ddim yn y gwaith achos COVID.

Ac, wrth gwrs, y farn feddygol ydy taw cymysgu â phobl eraill yn y cartref, yn y stryd, yn y gwaith, efo ffrindiau ac efo pobl ddieithr—dyna sy'n gyrru'r cynnydd yn y COVID. Felly, dydy'r cyngor sylfaenol ddim wedi newid. Hynny yw: arhoswch gartref os gallwch chi, ymbellhau yn gymdeithasol, golchi'ch dwylo yn gyson, gwisgo mygydau, ac osgoi cymysgu â phobl eraill.