Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Y mis diwethaf, gwelodd Cymru y cynnydd mwyaf mewn diweithdra yn y DU oherwydd effeithiau’r pandemig coronafeirws. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl yn rhanbarth tasglu'r Cymoedd sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra—er enghraifft, cynyddodd nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra 68 y cant ym Mlaenau Gwent rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020, 71 y cant yn Nhorfaen, a 65 y cant ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae'r gyfradd swyddi gwag mewn manwerthu yng Nghymru hefyd wedi cynyddu o 15.9 y cant i 18 y cant yn nhrydydd chwarter eleni, y naid fwyaf yn unrhyw ran o'r DU. O ystyried mai'r ffordd orau o wella bywydau pobl, nid yn unig yn y Cymoedd, ond yng Nghymru gyfan wrth gwrs, yw trwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy a swyddi medrus hirdymor, pa gymorth penodol wedi'i dargedu y byddwch chi'n ei ddarparu i drefi'r Cymoedd, a pha gynlluniau sydd gennych i ymestyn nifer yr ardaloedd menter yn y mannau hyn?