Blaenau'r Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:48, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r dystiolaeth ar ardaloedd menter yn gymysg, ac yn sicr roedd adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau arnynt ychydig flynyddoedd yn ôl yn atgyfnerthu hynny. Ddoe gwnaethom nodi’r gweithgareddau, yn benodol yn ardal tasglu’r Cymoedd, ar ystod eang o ymyriadau’n ymwneud â chreu lleoedd, ac rydym wedi nodi cefnogaeth ariannol sylweddol i fusnesau sy’n dioddef oherwydd y pandemig. Rydym hefyd wedi nodi cynllun adfer i wneud yn siŵr, pan fyddwn yn cefnu ar y pandemig, ein bod yn rhoi pwyslais ar ail-wneud ein heconomi mewn ffordd well.