1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 9 Rhagfyr 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y llwybr coch yn sir y Fflint? OQ56006
Gwnaf, wrth gwrs. Mae ymchwiliadau amgylcheddol ar y gweill ar hyd y llwybr ac rydym yn bwrw ymlaen â'r broses o gaffael cynllunydd i ddatblygu'r cynllun yn fanylach. Yn dibynnu ar y prosesau statudol, gallai'r gwaith cynllunio manwl a'r adeiladu ddigwydd o 2024 ymlaen.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi cael cannoedd—yn llythrennol, cannoedd—o negeseuon e-bost am y llwybr coch, ac ysgrifennais atoch yn yr haf am hyn; diolch i chi am eich ateb. Gwn eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn llythyr ym mis Hydref. Mae etholwyr yng ngogledd Cymru'n dal i fynegi eu pryderon hyd yn oed heddiw. Pa eiriau o gysur y gallwch eu rhoi iddynt i'w sicrhau y bydd y cynllun mor ystyriol â phosibl o'n bywyd gwyllt a'n hecosystemau? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno bod yna bryderon rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy drwy gynnal yr arolygon manwl hynny, drwy ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid sydd wedi mynegi pryderon, ac wrth gwrs, rydym yn ymgysylltu â'r cymunedau yn yr ardal. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol ac at gynghorwyr, ac at y rhai sy'n byw o fewn 500m i'r llwybr, i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n digwydd.
Mae'r cynllun penodol hwn yn hanfodol bwysig i weledigaeth metro gogledd Cymru hefyd, gan sicrhau y gallwn symud traffig oddi ar briffordd allweddol yr A494/A55 i'n galluogi i lunio llwybrau bysiau pwrpasol, lonydd bysiau a llwybrau teithio llesol hefyd, na allant fodoli ar hyn o bryd am nad oes lle yno i'w darparu.
Weinidog, rydych yn ymwybodol fy mod yn gefnogwr i'r llwybr coch, ond rwy'n croesawu hefyd eich ymgysylltiad â'r rhai sydd â phryderon ynghylch y llwybr coch—y materion amgylcheddol—a chredaf eich bod yn gweithio'n dda ar fynd i'r afael â'r rheini. Rydych wedi sôn am bwysigrwydd y prosiect hwn i fetro gogledd Cymru, ond tybed a allech amlinellu pa fudd y byddai'n ei gyfrannu i economi leol gogledd-ddwyrain Cymru.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn a dim ond ychwanegu at y pwyntiau roeddwn yn eu gwneud yn sgil cwestiwn Mandy Jones fod y prif bryder ar hyn o bryd ynglŷn â'r effaith amgylcheddol yn ymwneud â'r effaith y gallai ei chael ar goed Leadbrook? Nawr, byddai'n llai na 5 y cant o effaith ofodol, ond wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda grwpiau rhanddeiliaid. Rydym yn ceisio ymgysylltu gymaint ag y gallwn â hwy i edrych ar ffyrdd o liniaru ymhellach yn erbyn yr effaith ac yn wir, yn mynd y tu hwnt i hynny a gwneud iawn drwy gynyddu faint o goedwig sy'n bodoli yn yr ardal benodol honno o Gymru.
Ac o ran yr economi, rwy'n siŵr y bydd Jack Sargeant yn ymwybodol o'r gefnogaeth gref i'r cynllun gan weithwyr busnes proffesiynol Glannau Dyfrdwy a chyngor busnes gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Credaf fod cymhareb cost a budd hyn yn fwy na dau, a fyddai'n golygu y câi ei ystyried yn fuddsoddiad gwerth uchel.
Ond wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mwy na sicrhau bod gennym lwybr mwy gwydn i mewn i ogledd Cymru—yn bennaf, mae'n ymwneud â darparu metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen inni leihau'r traffig ar y coridor presennol, yr A55/A494. Rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn lleihau traffig ar y coridor penodol hwnnw rhwng 25 y cant a 35 y cant, gan ein galluogi i weithredu coridorau bysiau pwrpasol, llwybrau bysiau, cludiant cyflym ar fysiau. Byddai hefyd yn ein galluogi i gael gwared ar y llwybr tarw yn ardal Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n siŵr fod Jack Sargeant yn ymwybodol iawn o hwnnw, a byddai'n ein galluogi i ddefnyddio'r gofod y gellid ei gaffael i weithredu mwy o lwybrau teithio llesol.
Ar sawl adeg dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi dwyn pryderon etholwyr i'ch sylw ynglŷn â'r llwybr coch arfaethedig i'r A55 yn Llaneurgain, gan nodi problemau, yn cynnwys effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Rydych hefyd, fel y clywsom, wedi cael sylwadau helaeth ynglŷn â hyn i gefnogi'r llythyr agored gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a anfonwyd atoch chi a'r Prif Weinidog, yn gofyn i chi roi'r gorau i'r cynigion, ac wedi clywed galwad y Pwyllgor Deisebau i atal y cynllun nes bod newidiadau i lif traffig, oherwydd newidiadau mewn patrymau cymudo, yn cael eu hystyried.
Ym mis Hydref, fe ysgrifennoch chi eich bod yn gweld y buddsoddiad yn y cynllun hwn yn rhan hanfodol o'r gwaith ehangach i wella'r seilwaith trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru. Felly pa waith ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid rydych chi'n ei gynllunio nawr ynglŷn â hyn, wedi iddo gael ei ohirio gan COVID? A pham eich bod wedi diystyru atebion amgen eraill a awgrymwyd i leddfu tagfeydd ar goridor yr A55, yr A494 a choridor yr A548 yng Nglannau Dyfrdwy?
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ynglŷn â'r cynllun penodol hwn? Dylwn nodi hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod cynyddu'r gofod ffordd sydd ar gael yng ngogledd Cymru ar yr A55 yn nodwedd allweddol ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU wrth gwrs, felly dylid cydnabod bod plaid Mark Isherwood ei hun yn cefnogi mesurau a fyddai'n gweld mwy o draffig yng ngogledd Cymru ar y briffordd honno, y ffordd gyflym. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud gyda'r llwybr coch yw mynd â'r traffig presennol oddi ar briffordd allweddol a'i roi ar briffordd arall, fel y gallwn greu ateb trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sy'n gynaliadwy ar gyfer ardal fwyaf trefol gogledd Cymru.
Mae Mark Isherwood yn iawn i ddweud bod COVID-19 wedi cael effaith o ran ymgysylltu â'r gymuned. Ein bwriad oedd cynnal digwyddiadau gwybodaeth i'r cyhoedd yn ystod y gwanwyn eleni. Ond wrth gwrs, ni allai hynny ddigwydd o ganlyniad i'r pandemig, ond rydym yn adolygu ein gweithgarwch ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid yn barhaus er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ac yn ddiogel wrth gwrs, wrth i'n gwaith ar y cynllun hwn gyflymu.
O ran rhai o'r awgrymiadau amgen sydd wedi'u codi, rydym wedi ymchwilio i bob awgrym arall a gafodd eu dwyn i'n sylw—rhai cynlluniau amgen eithaf enfawr, ac eraill yn gynlluniau llai a gynlluniwyd i fynd i'r afael â mannau cyfyng. Ond penderfynwyd mai'r llwybr oedd y mwyaf addas ar gyfer yr her sy'n ein hwynebu yn yr ardal benodol honno o Gymru.
Ac o ran arolygon traffig a thrafnidiaeth, cânt eu cynnal yn rheolaidd. Cynhelir arolygon trafnidiaeth a thraffig pellach, yn enwedig ar gyfer asesu sut y gallai coronafeirws fod wedi effeithio ar drafnidiaeth a phrysurdeb traffig yn y tymor hir. Ond dylid nodi, yn yr un modd, fod traffig ar yr A55 wedi cynyddu'n ôl i lefelau cyn COVID ym mis Awst eleni, gan ddangos bod yr A55 yn wahanol iawn i'r M4 gan fod llawer mwy o draffig sy'n gysylltiedig â'r economi ymwelwyr yn rhedeg ar hyd-ddi a thraffig cludo nwyddau hefyd, ac wrth gwrs, traffig sy'n gysylltiedig â diwydiannau gweithgynhyrchu, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, diwydiannau na all canolfannau gweithio o bell ddarparu ar eu cyfer i'r un graddau ag y gellir ei wneud gyda gwaith clerigol, yn anffodus. Felly, mae'n brosiect unigryw ar gyfer problem unigryw.